Alun Davies: [Anghlywadwy.]—ddim yn ei sgript. Mae'n ddrwg gennyf.
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Dywed y dylem fod yn parchu canlyniad y refferendwm, ond, wrth gwrs, y Blaid Geidwadol a bleidleisiodd, dri mis ar ôl refferendwm Cymru ar ddatganoli, yn erbyn Ail Ddarlleniad o'r Bil i wireddu'r refferendwm hwnnw. Felly, o ran parchu ewyllys y bobl, nid oes gan y Ceidwadwyr hanes da iawn, nac oes?
Alun Davies: Fel eraill, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod dros Ogwr am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Lywydd, cofiwn y sgyrsiau a'r dadleuon a gawsom am y tâl o 5c ar fag siopa. Ac ar y pryd, roedd honno'n cael ei hystyried yn ddeddfwriaeth arloesol. Arweiniodd at leihad o 71 y cant yn eu defnydd, a chafodd hynny ddwy effaith, wrth gwrs: newidiodd ymddygiad y cyhoedd ac fe ddangosodd bŵer y...
Alun Davies: Lywydd, rwy'n credu bod pob un ohonom wedi cael ein syfrdanu gan y newyddion am garcharu arweinwyr gwleidyddol Catalonia yr wythnos hon. Ac ers hynny, cawsom ein syfrdanu gan y lluniau o drais gwladwriaethol a welwn yn dod o Gatalonia. Mae llawer ohonom wedi teimlo bod ein democratiaeth yn ddiogel, fod ein hawliau fel dinasyddion Ewropeaidd yn ddiogel ac wedi'u gwarantu. Ond rydym i gyd yn...
Alun Davies: Dwi eisiau hefyd gymryd mantais ar y ffaith bod y Gweinidog Addysg yn ei lle y prynhawn yma. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, Weinidog, fod cyngor Blaenau Gwent wedi gwneud cais ar gyfer ysgol gynradd newydd Gymraeg yn Nhredegar. Nawr, dwi ddim yn becso os yw hi yn Nhredegar neu yn unrhyw gymuned arall tu mewn i'r sir, ond dwi yn ymwybodol bod rhaid i Blaenau Gwent ddelifro ar ei gynnig ei hun i...
Alun Davies: 2. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud yn dilyn carcharu arweinwyr gwleidyddol etholedig Catalonia? 352
Alun Davies: Rwy'n croesawu'r ffordd y cawsom ni ddadl ddifrifol a gwybodus am y materion hyn y prynhawn yma. Mae'r rhain yn faterion difrifol ynghylch sut yr ydym ni'n llywodraethu ein hunain. Nid wyf yn rhannu pryderon David ynghylch sofraniaeth. Caiff sofraniaeth ei harfer, wrth gwrs, gan y cantonau yn y Swistir, ac maen nhw'n gwneud hynny mewn ffordd effeithiol i sicrhau hunan-lywodraethu'r...
Alun Davies: A gaf i groesawu'r datganiad yn fawr, Prif Weinidog, a chroesawu'r ddogfen a gyhoeddwyd gennych chi? Roedd hi, wrth gwrs, yn addas ac yn briodol eich bod yn siarad ar y mater hwn wrth draddodi darlith Keir Hardie. Roedd maniffesto etholiad cyntaf Keir Hardie yn seiliedig ar ymreolaeth—ymreolaeth, isafswm cyflog a dirwest, mewn gwirionedd. Nid wyf yn siŵr a fydd cefnogaeth i'r holl wahanol...
Alun Davies: Wrth gwrs, rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau dystiolaeth i'r comisiwn wrth iddo gael ei ystyried, ac, yn debyg i chi, rwy'n edrych ymlaen at glywed ei adroddiad yr wythnos nesaf. Mae mater sylfaenol yn y fantol yma gyda'i waith, wrth gwrs, ac mae hynny'n ymwneud â natur y setliad o fewn y Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi mynd i'r afael â materion yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog ac...
Alun Davies: Rwy'n cydnabod, Cwnsler Cyffredinol, bod llawer o'r materion hyn sy'n cael eu hystyried yn faterion i'r Gweinidog adrannol yn hytrach nag i chi, ond fy mhryder i yw gallu Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei pholisi'n cael ei ddilyn ledled y wlad. Oherwydd un o'r materion sydd newydd gael ei godi gan Aelod Plaid Cymru dros Dde-orllewin Cymru—yr wyf wedi'i wynebu yn fy etholaeth fy hun—yw...
Alun Davies: Rwy'n credu bod argyfwng gwirioneddol o ran yr ystad ddiogeledd yng Nghymru. Mae sylw bob amser ar garchardai mawr i ddynion, ond nid oes sylw o gwbl ar natur yr ystad, a'r ffordd y caiff menywod a throseddwyr ifanc yn arbennig eu trin o fewn y system. Nawr, mae hwn yn faes lle mae gennym ni setliad sydd wedi'i chwalu'n llwyr, lle mae'r setliad datganoli yn atal Llywodraeth y Deyrnas Unedig a...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi am hynna, Dirprwy Weinidog. Rwy'n credu, Llywydd, efallai fod yr Aelod Ceidwadol dros Ogledd Cymru, yn anfwriadol, wedi gwneud achos cryfach, dros ddatganoli'r gwasanaethau hyn yn ei gwestiwn cynharach nag y gallai'r gweddill ohonom ni fyth fod wedi'i wneud. Mae'r ffaith bod gennym ni setliad sydd wedi'i dorri yn hyn o beth yn arwain at ddioddefaint dynol, ddydd ar ôl...
Alun Davies: 4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am bolisïau cyfiawnder Llywodraeth Cymru? OAQ54472
Alun Davies: Ond rydych wedi siarad yn y ddadl yn awr ac rydych wedi gwneud yn union hynny, ac rwy'n cymeradwyo'r Aelod dros sir Fynwy am wneud hynny. Ond wrth gwrs, mae'r tramffyrdd a ddisgrifiais yn cysylltu â chamlas Mynwy a Brycheiniog hefyd, ac mae tramffordd Disgwylfa a Llangatwg yn cysylltu â'r glanfeydd yng Ngofilon sy'n gyfarwydd iawn iddo. Ond wrth i'r Llywodraeth fwrw ymlaen â gwaith ar...
Alun Davies: Mae'n rhaid i mi ddweud, pan ymddangosodd y ddadl hon ar y papur trefn, roedd teitl y ddadl yn ennyn fy chwilfrydedd ac rwyf wedi mwynhau'r cyfle a gawsom y prynhawn yma i rannu rhai o'n hatgofion, mewn rhai achosion, ond hefyd ein huchelgeisiau a'n dyheadau ar gyfer ailddyfeisio'r cymunedau rydym yn byw ynddynt. Oherwydd pan fyddaf yn meddwl am y bensaernïaeth ddiwydiannol a'r seilwaith...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rydym wedi clywed heddiw y bu cynnydd o 22 y cant yn nifer y bobl ddigartref sy'n marw. Mae'r niferoedd, wrth gwrs, yn ymwneud ag ymchwil y Swyddfa Ystadegau Gwladol ledled Cymru gyfan a Lloegr. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru roi datganiad am y sefyllfa yng Nghymru, er mwyn i ni allu deall sut y mae'r cynnydd hwn mewn achosion o wenwyno gan...
Alun Davies: Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dechrau ein sgyrsiau am y cyllidebau ar ddechrau'r broses, yn hytrach na bod y ddeddfwrfa'n ymateb i gynigion y Llywodraeth. Roedd y sgyrsiau yr ydym wedi dechrau eu cael, wrth wrando ar bobl, yn Aberystwyth yn yr achos hwn, yn rhan o'r ymgais honno i sicrhau ein bod yn newid y ffordd—nid craffu ar gyllidebau'n unig a wnawn yn yr ystyr o graffu ar...
Alun Davies: Lywydd dros dro, pan fydd pobl yn siarad â ni am y farn gyhoeddus, rwy'n gwneud y pwynt fy mod wedi profi'r farn gyhoeddus yn fy etholaeth, ac fe enillais fandad ar sail hynny.
Alun Davies: Deuthum yn hynod argyhoeddedig yn gyflym iawn ein bod yn trin pobl mewn modd annynol yn y system hon, ein bod yn trin ein cymunedau mewn modd annynol, ac nad ydym yn hyrwyddo nac yn darparu gwasanaeth adsefydlu mewn unrhyw ffordd o gwbl. Nid oes neb yma, yn y lle hwn, er gwaethaf peth o'r nonsens a glywsom o rai rhannau o'r Siambr, a allai fod yn falch mewn unrhyw fodd ynglŷn â'r hyn sy'n...
Alun Davies: Dyma brynhawniau Mercher ar eu gorau, onide? Rwy'n croesawu'r adroddiad gan y pwyllgor, wyddoch chi. Rwyf hefyd yn croesawu ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwnnw, ac roeddwn yn falch iawn o ddarllen geiriau'r Gweinidog yn ei hymateb. Roeddwn yn falch iawn pan wneuthum ddatganiad llafar ar y mater hwn ym mis Ionawr y llynedd. Bydd pob un ohonom sy'n cael y fraint o wasanaethu Llywodraeth...