Canlyniadau 601–620 o 800 ar gyfer speaker:John Griffiths

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Atal Afiechyd (31 Ion 2018)

John Griffiths: 7. Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mentrau i atal afiechyd yng Nghymru? OAQ51653

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Arian Cyfalaf (24 Ion 2018)

John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, mae Coleg Gwent yn bwriadu adleoli eu campws yng Nghasnewydd i leoliad ar lannau'r afon yng nghanol y ddinas, a allai fod yn drawsnewidiol ar gyfer addysg bellach yng Nghasnewydd, byddai'n golygu cydweithio â Phrifysgol De Cymru a'u campws hwy yng nghanol dinas Casnewydd, ac fe'i cefnogir gan Gyngor Dinas Casnewydd o ran cynlluniau adfywio ehangach. Yn gyffredinol,...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Arian Cyfalaf (24 Ion 2018)

John Griffiths: 1. Will the Cabinet Secretary make a statement on the Welsh Government's allocation of capital funding? OAQ51619

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Trafnidiaeth Cymru (23 Ion 2018)

John Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn gwybod bod llawer o broblemau â’r gwasanaethau rheilffyrdd o amgylch Casnewydd. Mae cymudwyr yn aml ar drenau gorlawn iawn yn teithio i Fryste, er enghraifft. Mae gofyn i bobl sefyll mewn toiledau i ganiatáu i fwy o bobl ddod ymlaen, pobl yn llewygu, pobl yn cael eu gadael ar y platfform, problemau â dibynadwyedd ac, yn wir, â...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Gwasanaethau Llywodraeth Leol Anstatudol (17 Ion 2018)

John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwasanaethau hamdden yn hanfodol i iechyd ac ansawdd bywyd a mwynhad ein pobl yma yng Nghymru. A wnewch ymuno â mi i gydnabod gwerth a chyfraniad Casnewydd Fyw, sy'n darparu gwasanaethau hamdden, chwaraeon a diwylliannol? Rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o gyfarfodydd y maent wedi eu cael gyda Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan ac amrywiaeth o bartneriaid, gan...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Tollau Pontydd Hafren (17 Ion 2018)

John Griffiths: Weinidog, yr hyn a fyddai'n sicr o helpu i fynd i'r afael ag unrhyw gynnydd mewn prisiau tai fyddai cyflawni cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Felly, a fydd eich trafodaethau gyda Chyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy yn cynnwys trafodaeth ynglŷn â'r ffordd orau o ddatblygu cartrefi fforddiadwy yn yr ardal honno?

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Gwasanaethau Llywodraeth Leol Anstatudol (17 Ion 2018)

John Griffiths: 3. Pa strategaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gefnogi gwasanaethau llywodraeth leol anstatudol yng Nghymru? OAQ51565

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus (16 Ion 2018)

John Griffiths: Prif Weinidog, am y rhesymau yr ydych chi wedi sôn amdanynt ac eraill, mae gennym ni lefel sy'n peri gofid o gysgu ar y stryd a chardota ar ein strydoedd ac rwy'n credu bod hynny wedi bod yn amlwg ac yn hawdd sylwi arno i bob un ohonom ni ac i'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae angen ymatebion adeiladol arnom. Felly, tybed a fyddech chi'n cytuno â mi bod ardal buddsoddiad busnes Casnewydd, sy'n...

7. Dadl Plaid Cymru: Tai i'r digatref (10 Ion 2018)

John Griffiths: Yn bendant.

7. Dadl Plaid Cymru: Tai i'r digatref (10 Ion 2018)

John Griffiths: Mae'n broblem ledled Cymru ac ymhell y tu hwnt i Gymru, ac mae dadl fywiog yn digwydd yng Nghasnewydd, ac mewn rhannau eraill o Gymru rwy'n siŵr, ynglŷn â beth yw'r dull gorau. Rwy'n cymryd rhan yn y ddadl honno ar hyn o bryd. Un agwedd gadarnhaol ar y mater, rwy'n meddwl, yw ardal gwella busnes Newport Now, sefydliad sy'n cynnwys llawer o fasnachwyr canol y ddinas, ac sy'n datblygu...

7. Dadl Plaid Cymru: Tai i'r digatref (10 Ion 2018)

John Griffiths: Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw'n fawr, fel y mae eraill wedi'i wneud, oherwydd mae digartrefedd a chysgu ar y stryd yn faterion o bwys mawr sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Rydym wedi gweld rhai newidiadau yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r problemau, ac mae angen inni werthuso'r rheini ac ystyried beth arall sydd ei angen os ydym i wneud y cynnydd rwy'n...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Y Llanw'n troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' (10 Ion 2018)

John Griffiths: Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor, Ddirprwy Lywydd, ac yn cytuno'n bendant iawn â hwy y dylem fod yn falch o'n moroedd yng Nghymru ac amgylchedd arfordirol Cymru, a bod yr ardaloedd morol gwarchodedig yn bwysig ar gyfer moroedd iach a fydd yn cynnal y fantais sydd gennym, ac yn cefnogi twristiaeth, pysgodfeydd a defnyddiau eraill. Cytunaf hefyd â'r pwyllgor, wrth gwrs, na allwch byth...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (10 Ion 2018)

John Griffiths: Sut y mae blaenoriaethu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru dros geir modur preifat yn effeithio ar ddyrannu adnoddau o fewn y portffolio economi a thrafnidiaeth?

7. Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru ( 9 Ion 2018)

John Griffiths: Fel y mae eraill wedi'i ddweud, rwy'n credu ein bod yn ffodus iawn yng Nghymru fod gennym amgylchedd morol o ansawdd mor uchel, ac mae'n bwysig iawn inni bellach fwrw ymlaen â chynllunio morol fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig, fel bod gennym ddull gweithredu mwy cydgysylltiedig, y mae, unwaith eto, Aelodau eraill wedi sôn amdano. Hyd yn hyn, rwy'n credu ein bod wedi gweld gwahanol...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (13 Rha 2017)

John Griffiths: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar addysg drydyddol yng Nghymru?

7. Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-17 (12 Rha 2017)

John Griffiths: Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon heddiw â minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae'r Comisiwn, wrth gwrs, yn un o randdeiliaid allweddol y Pwyllgor. Rydym ni wedi mwynhau perthynas gadarnhaol ac adeiladol gyda nhw. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar sawl darn o'n gwaith ni, gan gynnwys ein hadroddiad ar ffoaduriaid...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Sector Iechyd a'r Sector Chwaraeon a Hamdden (12 Rha 2017)

John Griffiths: Prif Weinidog, os ydym ni'n mynd i ymateb i'r heriau o sicrhau dull mwy rhagweithiol ac ataliol o gael gwell iechyd yng Nghymru, mae angen poblogaeth sy'n gwneud mwy o ymarfer corff arnom. Mae hynny'n rhan bwysig o wneud y newid angenrheidiol hwnnw. Yng Nghasnewydd, mae adran iechyd y cyhoedd bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ynghyd â Casnewydd Fyw, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Sector Iechyd a'r Sector Chwaraeon a Hamdden (12 Rha 2017)

John Griffiths: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng y sector iechyd a'r sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru? OAQ51484

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio): Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches ( 6 Rha 2017)

John Griffiths: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad y pwyllgor yn dangos cryn ddiddordeb yng Nghasnewydd, sydd, yn amlwg, yn un o'r dinasoedd ac un o'r ardaloedd mwy amrywiol yn ethnig yng Nghymru, ond hefyd ceir ardaloedd eraill tebyg yng Nghymru o ran hynny. Felly, mae cryn ddiddordeb allan yno ac mae'n dda gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ffoaduriaid a...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Pwerau Trethiant ( 6 Rha 2017)

John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, dengys y llyfr The Spirit Level a llawer iawn o dystiolaeth arall fod gan bob un ohonom lawer i'w elwa o gymdeithas fwy cyfartal ym mhob ffordd. Dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree yr wythnos hon fod 400,000 yn rhagor o blant a 300,000 yn rhagor o bensiynwyr yn byw mewn tlodi yn y DU erbyn hyn nag a oedd yn 2012-13. Mae'r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.