Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb yna? Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld rhywfaint o gynnydd—er ei fod yn araf—ar draws nifer fawr o feysydd fel ASau, ACau, a hyd yn oed cynghorwyr. Rhywbeth sy'n peri pryder i mi yw ein bod wedi cael saith comisiynydd heddlu a throseddu, nid oes yr un ohonyn nhw wedi bod yn fenyw, nid oes yr un ohonyn nhw wedi bod o leiafrif ethnig, a'r sefyllfa i...
Mike Hedges: 3. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gynyddu amrywiaeth mewn swyddi etholedig? OAQ54253
Mike Hedges: Cyfalaf cynnal a chadw.
Mike Hedges: Ar hyn o bryd mae gennym ni sefyllfa lle mae gan Jeremy Corbyn fwy yn gyffredin o ran polisi, â llywodraethau Churchill, Eden a Macmillan yn syth ar ôl y rhyfel nag â Boris Johnson neu Jeremy Hunt wrth i Geidwadwyr San Steffan newid i fersiwn Brydeinig o'r Blaid Weriniaethol. O ran y gyllideb atodol gyntaf hon ar dai, rwy'n croesawu'r ffaith bod £50 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i...
Mike Hedges: Rwyf am ddatgan yn glir nawr. Byddaf yn pleidleisio o blaid y gyllideb. Yn gefndir i'r gyllideb atodol hon mae cyni parhaus ac ansicrwydd Brexit. Gwyddom y dylem ni fod yn cael o leiaf £800 miliwn yn fwy y flwyddyn nag yr ydym ni'n ei gael ar hyn o bryd, sydd, drwy gyd-ddigwyddiad, yn cyfateb i faint y gyllideb atodol hon. Ond i'r Ceidwadwyr yn San Steffan, nid polisi economaidd yw cyni, ond...
Mike Hedges: A gaf i groesawu datganiad y Gweinidog? Mae gennym ni lawer o bobl sy'n ddigartref ac yn byw ar y stryd. Gweinidog, gwelsom nifer ohonyn nhw wrth adael Eglwys y Santes Fair ym mis Rhagfyr ar ôl bod i gyngerdd yr elusen i'r digartref, Crisis. Fodd bynnag, mae gennym ni lawer iawn mwy o bobl yn cysgu ar soffa, yn byw mewn llety gorlawn, ac eraill yn byw mewn cartrefi oer a llaith nad ydyn...
Mike Hedges: Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog yn fawr. Bu'r ymgyrch yn un faith, ond rwyf i wedi rhoi cefnogaeth lawn iddi dros nifer o flynyddoedd er mwyn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae gwaharddiad yn bodoli eisoes yn yr Alban. Yn 2006, sy'n amser maith yn ôl erbyn hyn, mewn ymgynghoriad cyhoeddus ledled y DU, roedd 94.5 y cant o'r rhai a ymatebodd o'r farn mai gwahardd...
Mike Hedges: Diolch. Abertawe: dinas ers 50 mlynedd. Y bore yma, roeddwn yng Nghapel y Tabernacl yn Nhreforys yn dathlu, ym mhresenoldeb Tywysog Cymru, hanner can mlynedd ers rhoi statws dinas i Abertawe. Hanner can mlynedd yn ôl i heddiw, a ddeuddydd ar ôl ei arwisgo, ymwelodd Tywysog Cymru ag Abertawe ar ei daith o amgylch Cymru. Ar risiau Neuadd y Dref, cyhoeddodd y byddai Abertawe'n cael ei dynodi'n...
Mike Hedges: Yn gyntaf, rwyf am ddweud 'diolch' wrth Dawn Bowden am roi munud o'i hamser i mi. Mae'n rhyfedd, a dweud y gwir, oherwydd mae David Melding, Dawn a minnau'n aml yn siarad am dai ac yn aml mae ein hareithiau'n debyg iawn i'w gilydd. Ar ôl cynhaliaeth, tai yw'r angen dynol nesaf. Rwyf am dynnu sylw at dai annigonol. Yn y 1950au a 1960au cafodd slymiau eu clirio ar raddfa fawr ac adeiladwyd tai...
Mike Hedges: Wel, fel rhywun sydd wedi cael o leiaf hanner dwsin y dydd, gan gynnwys un o'r Almaen, mae'n achos pryder. Mewn gwirionedd, mewn sawl ffordd, mae atal hyn y tu hwnt i allu'r Comisiwn. Yr hyn y gall y Comisiwn ei wneud, a deallaf fod sefydliadau eraill yn gwneud hyn, mae ganddynt neges awtomatig sy'n dweud, 'Os ydych yn meddwl eich bod yn cysylltu â CThEM, nid yw hynny'n wir, mae'r rhif hwn...
Mike Hedges: Ar lefel bersonol, rwy'n ceisio cynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad Cymraeg drwy ychwanegu un. Er na fyddwn yn gwybod beth fydd nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2050 gan na fydd modd o ganfod hynny, byddwn yn gwybod beth fydd y ffigur ar ôl cyfrifiadau 2021, 2031, 2041 a 2051. Faint o siaradwyr Cymraeg rydych yn eu disgwyl yng nghyfrifiad 2021? Un peth y gwn i yw nad ydym yn mynd i fynd o...
Mike Hedges: Mae'r gronfa buddsoddi i arbed wedi bod yn llwyddiannus dros gyfnod o amser, ond mae'n ymwneud yn bennaf â buddsoddiadau diogel, sy'n sicr, neu bron yn sicr, o gynhyrchu arbedion. Law yn llaw â hynny, cyflwynwyd rhaglen fwy uchelgeisiol arloesi i arbed—rhywbeth y gofynnais amdano dros nifer o flynyddoedd. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun...
Mike Hedges: A gaf i groesawu'r datganiad yn fawr iawn? Rwy'n falch iawn ein bod ni'n trafod unwaith eto'r hyn sydd, yn fy marn i, yn fater o bwys sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Fe allwn ni naill ai ddatgarboneiddio neu chwilio am fyd newydd i fyw ynddo, oherwydd, os na wnawn ni hynny, ni fydd y byd hwn yn gallu cynnal bywyd dynol. Rydym yn wynebu argyfwng difrifol o ran newid hinsawdd, ac mae'n rhaid inni...
Mike Hedges: A gaf i ofyn i'r Trefnydd yn gyntaf am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch Virgin Media, sydd i fod i gau yn Abertawe ar 30 Mehefin? Hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth yn cynnwys nifer y bobl a oedd yn gweithio yno sydd bellach wedi cael gwaith arall, y nifer sy'n dal i gael eu cynorthwyo gan Lywodraeth Cymru, a pha ddefnydd a wneir o'r safle yn y dyfodol. Hoffwn ofyn wedyn am ddau...
Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economi Abertawe?
Mike Hedges: Mae dim oriau ac oriau wythnosol neu ddyddiol gwarantedig byr yn golygu nad oes sicrwydd incwm ar sail wythnosol neu fisol. Mae hyn yn arwain at broblemau ariannol difrifol pan nad oes llawer o oriau, os o gwbl, yn cael eu gweithio mewn unrhyw wythnosau. A'r peth pwysig yw: peidiwch byth â bod yn sâl, oherwydd pan fyddwch yn sâl byddwch yn mynd yn ôl naill ai i'ch lleiafswm o un awr neu...
Mike Hedges: Diolch, Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud i Dawn Bowden yn y ddadl hon. Mae'r ddadl yn ymwneud â thlodi mewn gwaith. Mae cydberthynas rhwng cyflwr economi Cymru, tlodi a chyflogau isel. Dylai economi Gymreig lwyddiannus godi cyflogau a lleihau tlodi. Mae gormod o'r bobl sy'n byw yng Nghymru yn cael eu cyflogi ar gontractau 'hyblyg'—contractau a alwaf yn rhai 'camfanteisiol'—contractau heb...
Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r ddeiseb hon yn fawr a'r cyfle i siarad amdani. Pan fydd haneswyr yn edrych yn ôl ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, byddant yn synnu faint o amser a dreuliwyd ar sut rydym yn masnachu â gwledydd eraill a chyn lleied o amser rydym wedi'i roi i'r bygythiad i'n byd a phob rhywogaeth, gan gynnwys ni ein hunain. Mae y tu hwnt i ddadl ddifrifol yn awr ein bod yn gweld newid yn yr...
Mike Hedges: Mae gennym ormod o dai o ansawdd gwael yng Nghymru, a llawer ohonynt yn gwneud defnydd aneffeithlon iawn o ynni, sy'n golygu bod y bobl dlotaf naill ai'n oer neu'n talu mwy am wresogi eu cartrefi na chi a fi. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni, yn enwedig yn y sector rhentu preifat a'r rhan gost isel iawn o'r sector rhentu preifat?
Mike Hedges: Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cyrraedd sero net, ond credaf fod angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol na hynny—a dechrau tynnu mwy o garbon deuocsid o'r atmosffer na’r hyn rydym yn ei roi i mewn mewn gwirionedd. Felly mae sero net yn ffordd dda, ond mae angen inni ragori ar hynny. Ac rydym yn rhagori ar hynny drwy blannu mwy o goed a mwy o blanhigion. Trwy ffotosynthesis, maent yn troi...