Caroline Jones: Diolch, Simon. Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i leihau gwastraff, gan gynnwys lleihau plastig ar yr ystâd, ac rydym yn falch o fod wedi cyflawni ein hymrwymiad i sicrhau nad oes unrhyw wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi erbyn 2018. Rydym yn gweithio i leihau plastig untro ar yr ystâd, gan newid i ddeunyddiau y gellir eu compostio lle bo...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedais i pan wnaethoch chi ei chyhoeddi, mae'r gronfa driniaeth newydd yn ychwanegiad i'r GIG sydd i'w groesawu'n fawr iawn gan ei bod yn gallu cyflymu'r triniaethau hanfodol sydd ar gael i bob claf, ac nid dim ond pobl sy'n dioddef diagnosis o ganser. Rwy'n croesawu'r newyddion bod rhai meddyginiaethau wedi cymryd 17 diwrnod yn...
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae Shropdoc wedi darparu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau i Bowys ers 22 mlynedd, ond, fel pob rhan o'r GIG, maen nhw hefyd wedi wynebu pwysau ariannol. Mae'r penderfyniad i beidio ag adnewyddu'r contract yn hynod siomedig, gan fod Shropdoc wedi darparu un o'r gwasanaethau y tu allan i oriau gorau yn y wlad gan ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i bobl Powys....
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'n pwyllgor yn ystod ein hymchwiliad i glystyrau gofal sylfaenol. Mae gan glystyrau gofal sylfaenol botensial i drawsnewid y gofal a ddarperir yn ein cymunedau, ond er i ni weld enghreifftiau ardderchog o glystyrau llwyddiannus, ceir amrywiadau mawr yn eu perfformiad. Mynegodd llawer o feddygon teulu eu siom yn y clystyrau....
Caroline Jones: Rydych chi'n cymryd tipyn o amser.
Caroline Jones: Rwy'n deall.
Caroline Jones: Popeth yn iawn; croeso. Mae astudiaethau wedi canfod bod THC, y prif sylwedd seicoweithredol yn y planhigyn canabis, yn gallu achosi nam gwybyddol, yn enwedig o'i gymryd dros amser hir. Mae tystiolaeth feddygol ddiweddar yn awgrymu'n gryf fod defnydd hirdymor o ganabis gan bobl sy'n dechrau ei ddefnyddio yn gynnar—maent yn arddangos tueddiad uwch o gael problemau iechyd meddwl ac...
Caroline Jones: Iawn, wrth gwrs.
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Mark, Leanne, Mike a Rhun am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae llawer o fanteision meddyginiaethol i ganabis. Gellir ei ddefnyddio i reoli poen, trin sbastigedd, helpu gyda sgil-effeithiau cemotherapi, a dengys astudiaethau newydd y gall helpu i reoli ffitiau epileptig mewn plant. Fodd bynnag, nid ydym ond megis dechrau deall y manteision posibl y gall canabis eu darparu, ac...
Caroline Jones: Weinidog, bob blwyddyn, mae mwy nag 8 miliwn tunnell o blastig yn cyrraedd ein cefnforoedd, gan gostio o leiaf £6.2 biliwn o ddifrod i ecosystemau morol a lladd oddeutu 1 filiwn o adar môr, 100,000 o famaliaid môr a nifer ddifesur o bysgod. Mae archfarchnadoedd yn defnyddio lefelau gwarthus o ddeunydd pacio plastig diangen ac yn ychwanegu at y broblem. Mae Cymru wedi arwain y ffordd ar...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Dr Ruth Hussey a'r panel am y gwaith rhagorol y maen nhw wedi’i wneud ar gyfer eu hadroddiad a’u hargymhellion. Mae'r adroddiad yn nodi mewn du a gwyn y camau y mae angen inni eu cymryd os ydym ni am ddarparu iechyd a gofal cynaliadwy nawr ac yn y dyfodol. Mae Dr Hussey a'i thîm wedi gwneud eu gwaith...
Caroline Jones: Prif Weinidog, yn anffodus rydym ni'n gweld y canlyniadau pan fydd ein byrddau iechyd a'n hawdurdodau lleol yn methu â gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol: cleifion yn cael eu gorfodi i aros yn yr ysbyty yn hirach na'r angen, neu gleifion yn cael eu rhyddhau heb fod pecyn gofal ar waith. Prif Weinidog, mae nifer o gleifion hŷn wedi cysylltu â mi, a adawyd i ofalu amdanynt eu hunain ar ôl...
Caroline Jones: Ydw.
Caroline Jones: Pan oedd cynllun hawl i brynu'n bodoli, rwy'n credu y dylai'r arian a gymerwyd o'r cynllun hawl i brynu fod wedi cael ei ailfuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Mae'r teuluoedd hyn angen cartrefi ar frys, ac eto nid oes digon o dai cymdeithasol i ddiwallu'r angen hwnnw. Mae gan Lywodraeth Cymru darged i adeiladu oddeutu 4,000 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn, ac eto, tri chwarter y swm...
Caroline Jones: Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw a diolch i Blaid Cymru am dynnu ein sylw ati. Mae digartrefedd yn yr unfed ganrif ar hugain yn foesol anfaddeuol. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau, o ran y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu, fod y galw yn bodloni'r cyflenwad. Blaengynllunio yw'r enw arno. Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn un o'r rhesymau allweddol y penderfynais...
Caroline Jones: Mae'n ddrwg gennyf. Pa strategaeth rydych wedi'i chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf fel y gall pob meddyg teulu a holl staff ysbytai gyfarfod i fynd i'r afael â hyn? Diolch.
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf eich tystiolaeth yn ein pwyllgor ynglŷn â phwysau'r gaeaf a sut y mae'n effeithio ar y GIG yng Nghymru, ymddengys nad ydym byth yn dysgu o'r profiadau hyn; ymddengys ein bod yn cael ein dal ar y gamfa bob tro, fel pe bai pwysau'r gaeaf yn rhywbeth newydd. Ymddengys bod y gair 'digynsail' yn codi bob tro, fel pe bai'r gair hwn yn esgusodi'r ffaith nad...
Caroline Jones: —mae canlyniadau anfwriadol.
Caroline Jones: Ie. Yn yr un modd, mae datblygiadau twristiaeth a diwylliant yn fy ardal i, ar safleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i'w croesawu. Rwy'n sicr yn hapus i glywed am y datblygiad yng nghanol tref yng Nghastell-nedd, ond ar yr un pryd rwy'n pryderu, oherwydd, weithiau, pan caiff canolfannau tref eu hadfywio, eu hailddatblygu—
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn gyfle cyffrous ac i'w groesawu. Ond mae'r dogfennau yn gyfaddefiad diamheuol bod rhaglenni blaenorol, rhai ohonyn nhw a ddechreuwyd gan Lywodraeth Cymru, naill ai wedi methu neu wedi bod yn ddiffygiol. Mae Cadeirydd y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de hyd yn oed yn dweud yn y ddogfen gychwynnol yr haf hwn, a dyfynnaf: 'Os ydym...