Mark Isherwood: Rwyf i wedi dad-dawelu. Diolch. Cefais fy mriffio, ynghyd ag ASau Ceidwadwyr Cymru yn y gogledd-ddwyrain, gan Airbus neithiwr. Rydym ni'n nodi yfory, pan fydd y cyhoeddiadau yn debygol o gael manylion wedi'u hychwanegu atyn nhw—rydym ni'n gobeithio y bydd y mater yn cael ei drin heb ddiswyddiadau gorfodol. Ond rwy'n gobeithio sôn am hynny yn nes ymlaen mewn cwestiwn amserol. Cyhoeddodd...
Mark Isherwood: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Ngogledd Cymru? OQ55351
Mark Isherwood: Agorodd Paul Davies i ni drwy bwysleisio bod y pandemig coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd, gyda niferoedd uchel o weithwyr ar ffyrlo yng Nghymru, y bygythiad i swyddi a'r angen i ddeall yr heriau sy'n wynebu busnesau, yn enwedig busnesau bach a chanolig. Soniodd am yr anghydraddoldebau strwythurol yng Nghymru nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â...
Mark Isherwood: Mae'n ddealledig, fel y gwyddoch, fod 200 o staff yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni bellach wedi cael prawf positif a 97 yn Rowan Foods, ychydig i lawr y ffordd oddi wrthyf yn Wrecsam. Sut rydych yn ymateb i'r datganiad gan AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, er bod cau ffatri'r 2 Sisters am bythefnos yn y lle cyntaf yn hanfodol i—? Yn ogystal â'r cau yn y lle cyntaf, dywedodd ei bod yn...
Mark Isherwood: Wel, daeth rheoliadau newydd i rym yng Nghymru y mis diwethaf mewn perthynas â'r ymgynghoriad cyn ymgeisio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn ystod y pandemig hwn. Er bod y rhain yn honni eu bod yn cyflwyno mesurau diogelwch i warantu bod y broses ddiwygiedig mor gynhwysol â phosibl, mynegwyd pryderon wrthyf y byddant yn caniatáu i ymgeiswyr gynnal ymgynghoriad rhithwir,...
Mark Isherwood: Diolch. Ym mis Tachwedd 2017 ac eto ym mis Mai 2019, fe ysgrifennoch chi at gyngor Sir y Fflint yn dweud eich bod yn siomedig dros ben fod yr awdurdod hwnnw wedi cyflwyno cais pellach i ymestyn yr amser a gymer i baratoi ei gynllun datblygu lleol, yn enwedig yng ngoleuni sicrwydd blaenorol, a bod hyn yn arbennig o berthnasol gan fod yr awdurdod hwnnw'n parhau i ddioddef pwysau hapgeisiadau...
Mark Isherwood: Diolch. Ddydd Sul diwethaf, derbyniodd pob Aelod o'r Senedd e-bost gan un o drigolion Sir y Fflint yr oedd ei gŵyn yn erbyn cyngor Sir y Fflint ynghylch datblygiad yn Sir y Fflint wedi cael ei chadarnhau gan ombwdsmon Cymru, ond dywedodd fod angen cynnal ymchwiliad i'r broses o gymeradwyo'r datblygiad hwn, a bod yn rhaid dwyn y swyddogion dan sylw i gyfrif. Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion...
Mark Isherwood: A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad o sut mae'r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar bobl sydd mewn tlodi tanwydd?
Mark Isherwood: Ac yntau'n Fwslim selog, roedd Oscar yn ddyn goddefgar, tosturiol, cynhwysol. Roedd yn esiampl i bobl o bob ffydd a phob cred, ac rydym ni i gyd yn gwybod hynny oherwydd inni i gyd brofi hynny'n uniongyrchol. Roedd yn dawel falch, fel y clywsom ni, o fod wedi cario'r ffagl Olympaidd, o fod yn amlieithydd. A, chan hyn oed ychwanegu ieithoedd newydd, fel y clywsom ni, yn wythnosau olaf ei...
Mark Isherwood: O'r gorau. Mae busnesau gwely a brecwast bach, y cyfeiriwyd atynt eisoes, yn rhan annatod o lawer o economïau lleol ar draws gogledd Cymru—busnesau bach go iawn sy'n darparu incwm hanfodol i'w perchnogion. Maent yn gymwys i gael grant busnes yn Lloegr. Ar ôl i mi eich holi dair wythnos yn ôl am gymorth Llywodraeth Cymru iddynt, dywedasant wrthyf eu bod yn ystyried bod eich sylwadau yn...
Mark Isherwood: Sut rydych yn ymateb i’r datganiad ddoe gan Gymdeithas Deintyddiaeth Breifat Prydain yng Nghymru, sydd wedi tyfu yn ei haelodaeth o ddim i 400 aelod mewn llai nag wythnos, fod llawer o gleifion yn dioddef yn ddiangen, a bod angen gweithredu ar frys i ddarparu deintyddiaeth arferol o dan weithdrefnau gweithredu safonol dros dro ynghyd â chyfarpar diogelu personol i roi’r un gofal i...
Mark Isherwood: [Anhyglyw.]
Mark Isherwood: Diolch. Wythnos diwethaf, fe ddywedodd Vaughan Gething fod safbwynt Llywodraeth Cymru ar reoli coronafeirws yn cael ei gefnogi gan fwyafrif llethol y cyhoedd,. Felly, gadewch i mi ddryllio eu camargraffiadau nhw drwy ddyfynnu o rai o'r cannoedd o negeseuon e-bost a anfonwyd ata i sy'n dweud yn wahanol. Ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, gosodwyd yr olygfa gan bobl wedi'u hynysu yn dweud nad...
Mark Isherwood: Rwyf wedi gwneud hynny. Allwch chi fy nghlywed i?
Mark Isherwood: Diolch. Roeddwn yn meddwl ei fod yn awtomatig, ymddiheuriadau. Mae cartrefi nyrsio yn cael cynnydd tâl dros dro ar gyfer lleoliadau gofal cymdeithasol i oedolion, ond nid yw hyn yn cynnwys lleoliadau a ariennir gan y bwrdd iechyd. O ran cyllid gofal iechyd parhaus, mae Fforwm Gofal Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod cartrefi nyrsio yn y gogledd o dan anfantais o'u cymharu â mannau...
Mark Isherwood: Rwyf i yno. Ydw, rwyf i yma.
Mark Isherwood: Mae'n ddrwg gennyf, efallai fod y sŵn wedi ei droi i ffwrdd , ond rwyf i yno.
Mark Isherwood: Iawn. O ran troseddau casineb, anwybodaeth a rhagfarn, ceir peth gwaith gwych, er enghraifft yn y gogledd, NWAMI, Networking for World Awareness of Multicultural Integration, sy'n cydnabod mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â hynny yw drwy integreiddio, drwy ymgysylltu, drwy rannu gyda'n gilydd. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych yn ystod y pandemig o ddosbarthu parseli bwyd, yn enwedig i...
Mark Isherwood: Yn Lloegr, mae busnesau gwely a brecwast bach eisoes yn gymwys i gael grant busnes, ond mae Llywodraeth Cymru yn dal i eithrio'r busnesau hyn yng Nghymru. Bythefnos yn ôl, dywedodd y Gweinidog cyllid wrthyf eich bod yn edrych ymlaen at wneud cyhoeddiad, ond ni lwyddoch chi i wneud hynny heddiw. Sut ydych chi'n ymateb felly i fusnesau gwely a brecwast gofidus yng ngogledd Cymru sy'n gofyn i...
Mark Isherwood: Dyna ni. Iawn, diolch. Gan atgyfnerthu'r datganiad gan arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod tracio ac olrhain achosion o'r coronafeirws yng Nghymru yn dasg anferthol, ac y byddai angen adnoddau ychwanegol sylweddol ar gynghorau ar gyfer y gwaith hanfodol, dywedodd arweinwyr awdurdodau lleol y Ceidwadwyr Cymreig wrthyf ddoe eu bod yn gofyn am eglurder gan Lywodraeth Cymru ar ei...