Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn. O ran y defnydd o gymorth tramor, ceir problemau gyda’r ffordd y mae rhai gwledydd yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn cael ei gydnabod a dylid ei blismona’n gywir, ond nid yw hynny’n tanseilio dibenion cymorth tramor mewn unrhyw fodd o gwbl, ac rydych wedi crybwyll Boko Haram. A fyddech yn cytuno bod 0.7 y cant o gynnyrch domestig gros yn briodol a bod yr holl wledydd...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Iawn; fe gaiff Lee fynd yn ail. Mewn perthynas â buddsoddi yn y seilwaith, a fyddech yn cytuno y bydd mentrau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â buddsoddi yn y seilwaith o gwmpas y metro yn cael effaith sylweddol? A hefyd o ran y rhaglen galedi, o ran yr effaith enfawr y mae hynny wedi’i chael ar gymunedau’r Cymoedd, fod hwn yn ysgogiad y mae gwir angen inni fod yn gweithio’n galed i...
Rhianon Passmore: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n codi heddiw i groesawu'r datganiad hwn ar arweinyddiaeth addysg. Mae gan Gymru etifeddiaeth falch o athrawon ac arweinyddiaeth ysgol o ansawdd uchel. Fodd bynnag, cafodd y cyhoeddiad am sefydlu bwrdd cysgodol presennol yr academi fis Tachwedd diwethaf groeso eang. Mae'n wir galonogol clywed bod y bwrdd cysgodol wedi cychwyn yn hyfedr, a...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu mentrau Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o gynyddu nifer y nyrsys a gaiff eu haddysgu yng Nghymru?
Rhianon Passmore: Diolch. Mae pennaeth Ysgol Uwchradd Islwyn, Tim Williams, newydd dderbyn allweddi’r Ysgol Uwchradd Islwyn newydd gwerth £25.5 miliwn a adeiladwyd ar safle hen bwll glo Oakdale. Mae gan yr ysgol nodweddion gwefreiddiol, mannau dysgu modern, gweithdai technoleg o’r radd flaenaf, labordai gwyddoniaeth addas at y diben ac ystafelloedd TG, wedi’u gwasgaru dros dri llawr. Ysgrifennydd y...
Rhianon Passmore: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adeiladau ysgolion yn Islwyn? OAQ(5)0119(EDU)
Rhianon Passmore: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod tirlun unigryw Cymru?
Rhianon Passmore: Rwy’n codi yn y ddadl hon i siarad am un mater penodol, ond un pwysig y mae eraill wedi cyfeirio ato. Mae cynnig UKIP yn datgan, ac rwy’n dyfynnu, ‘na ddylai coed aeddfed gael eu torri er mwyn adeiladu ffermydd solar’ ac rwy’n falch iawn yn bersonol eu bod y tro hwn wedi darganfod mandad amgylcheddol ac eco-enaid. Rwy’n croesawu hynny. Ond Llywydd, mae’n amlwg, fel y gŵyr...
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn. Ymyriad bach yn unig rwy’n meddwl: o ran y gwrthdaro a’r dryswch ymddangosiadol a geir yn eich polisi ar ddatgarboneiddio, a allwch egluro a yw UKIP o blaid ffracio ac ai dyna yw polisi eich plaid yng Nghymru?
Rhianon Passmore: Ers i mi gael fy ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, cefais fy nghalonogi wrth weld y gwerthfawrogiad cynyddol o’r lle hwn i’r rôl ganolog y mae llywodraeth leol yn ei chwarae ym mywyd cyhoeddus Cymru. Pan oeddwn yn gynghorydd am bron i dri thymor, nid oedd yn ymddangos bob amser fod y Siambr hon yn deall cymhlethdodau bywyd ar lawr gwlad mewn cyfnod o doriadau enfawr mewn gwariant...
Rhianon Passmore: Rwy’n falch o godi yn y ddadl bwysig hon a gyflwynwyd gan ein cyd-Aelodau Cynulliad. Mae pob un ohonom yma heddiw yn gwybod pa mor ddramatig yw’r newid i’n bywydau. Yn wir, ni fyddai neb yn synnu dim pe bawn yn dweud fy mod wedi ymweld ag archfarchnad y bore yma ac wedi talu am fy nwyddau wrth y cownter hunanwasanaeth, ac ni fyddai neb yn synnu dim pe bawn yn dweud fy mod wedi cael...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: A ydych chi’n credu mai’r canlyniad tebygol i bobl y Deyrnas Unedig fydd treth tariff ar nwyddau?
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, rydym ni’n canfod heddiw y bu cynnydd o 16 y cant i nifer y meddygon iau sy’n dewis dod i Gymru neu aros yma i hyfforddi i fod yn feddygon teulu. Ar draws GIG Cymru, mae amseroedd aros yn lleihau; mae amseroedd ymateb cyfartalog i alwadau brys yn llai na phum munud erbyn hyn; disgrifiwyd Cymru gan Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru fel un o arweinwyr y byd ym maes adsefydlu...
Rhianon Passmore: [Yn parhau.]—rhybuddion mawr oherwydd prinder gwelyau. Pa neges sydd gennych chi i’r dynion a'r menywod sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol ac wedi gorfod dioddef ymdrechion y Torïaid i bardduo GIG Cymru dros y blynyddoedd diwethaf?
Rhianon Passmore: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi eich llongyfarch ar eich ymdrechion egnïol a rhagorol i sicrhau bod Cymru yn cael ei hyrwyddo mewn cynyrchiadau teledu a ffilm? Nodais â diddordeb y ffilm hyrwyddo a gyflwynwyd gan y seren Hollywood, Michael Sheen, sy’n cynnwys clipiau o rai o’r cynyrchiadau mawr diweddaraf i gael eu ffilmio yng Nghymru, ac sy’n hyrwyddo popeth sydd gan y wlad i’w...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, yn Llandudno ddydd Sadwrn yng nghynhadledd Llafur Cymru, cyhoeddwyd tri mesur arwyddocaol gennych a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd Wi-Fi am ddim ar bob trên ar fasnachfraint Cymru a'r gororau erbyn mis Medi eleni, bydd Wi-Fi am ddim yn cael ei gyflwyno mewn gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru, gan ddechrau gyda 50 o'r...
Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella addysg gychwynnol i athrawon?