Vikki Howells: Hoffwn ddechrau drwy eich llongyfarch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gyhoeddi eich cynllun gweithredu economaidd hir-ddisgwyliedig, ac o weld y ffordd y mae'n drawsbynciol ar draws pob agwedd ar Lywodraeth, rwy'n credu y bu'n sicr werth aros amdano. Rwy'n croesawu, yn benodol, yr ymrwymiad i ddatblygu strwythurau newydd i gefnogi agweddau sylfaenol allweddol ar economi Cymru. Mae hyn yn...
Vikki Howells: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i wella cyfleoedd gwaith i drigolion Cwm Cynon?
Vikki Howells: Lywydd, ddydd Gwener, 1 Rhagfyr roedd hi'n 75 mlynedd ers cyhoeddi adroddiad Beveridge ar 'Social Insurance and Allied Services'. Cafodd hwn ei gomisiynu yn ystod yr ail ryfel byd gan bwyllgor atebol i Arthur Greenwood, y Gweinidog ar y pryd a oedd â chyfrifoldeb dros ailadeiladu ar ôl y rhyfel. Roedd ei dasg yn ddeublyg: yn gyntaf, roedd yn anelu at gynnal arolwg o gynlluniau yswiriant...
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn wrth fy modd pan glywais yn y gyllideb ddrafft eich bod yn ystyried treth tir gwag. Mae hyn yn broblem go iawn yn fy etholaeth, gyda darnau bach o dir gael eu cadw am ddegawdau yn aml, safleoedd hen gapeli neu neuaddau gweithwyr fel arfer, er enghraifft, gyda chost rhoi camau ar waith yn rhwystr i awdurdodau lleol. Yn ogystal â'r golled economaidd sy'n...
Vikki Howells: 'Nid oes unrhyw un heddiw a fyddai’n amau bod llygredd aer yn ddrwg cymdeithasol ac, o fod yn ddrwg cymdeithasol, y dylid delio ag ef ar unwaith ac yn sylweddol.' Dyna eiriau Gordon Macdonald, cyn-löwr, AS a Llywodraethwr Newfoundland a aned yn Sir y Fflint. Roedd Macdonald yn siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond roedd yn gwneud hynny yn 1955. Fel y dengys ei eiriau, nid yw cydnabod peryglon...
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ymuno ag eraill i'ch llongyfarch ar eich rôl newydd. Yn ddiweddar, cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wobr aur gan y Weinyddiaeth Amddiffyn am ei ymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog. Dyna'r cyngor cyntaf a'r unig gyngor yng Nghymru i wneud hynny hyd yma. A wnewch chi longyfarch Rhondda Cynon Taf, a sut y...
Vikki Howells: 6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog a'u teuluoedd yng Nghymru? OAQ51358
Vikki Howells: Mae adroddiad diweddar Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ynglŷn â hunangyflogaeth yng Nghymru yn rhoi cipolwg defnyddiol o gyflwr presennol entrepreneuriaeth a hunangyflogaeth yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn ein hatgoffa bod nifer y bobl hunangyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 15,000 rhwng 2007 a 2016. Felly, mae bron dau o bob pump o swyddi newydd wedi'u creu yng Nghymru yn hunangyflogedig...
Vikki Howells: Prif Weinidog, sut mae gwaith Rhentu Doeth Cymru yn helpu tuag at gynorthwyo aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas sy'n byw mewn llety rhent preifat?
Vikki Howells: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y mae gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn ei chwarae yn y broses o wella cyfleoedd gwaith yng Nghymru?
Vikki Howells: Fel aelod o'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, hoffwn gofnodi pa mor bwysig oedd yr adroddiad hwn yn fy marn i mewn gwirionedd. Rwy'n diolch i bawb a ddaeth i roi tystiolaeth i'n hymchwiliad. Ers cael fy ethol, mae un o'r materion mwyaf anodd rwyf wedi gorfod ymdrin ag ef yn fy mag post yn ymwneud â darpariaeth rhyngrwyd mewn adeiladau domestig. Mae un enghraifft o'r fath yn...
Vikki Howells: Diolch Gwnsler Cyffredinol. Hoffwn ymuno ag eraill i'ch llongyfarch a'ch croesawu i'ch rôl newydd. Fel y dywedasoch yn eich ateb, gallaf weld eich bod yn deall bod cyflwyno ffioedd tribiwnlys a'r cynnydd parhaus mewn ffioedd llys wedi dychryn llawer o weithwyr proffesiynol yn y sector. Ochr yn ochr â hyn, mae canolfannau cynghori, sy'n darparu cyngor uniongyrchol i bobl, wedi cau...
Vikki Howells: 7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â mynediad i gyfiawnder yng Nghymru? OAQ51336
Vikki Howells: Prif Weinidog, rwy'n wirioneddol falch bod cefnogi ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl hefyd yn elfen o 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf sydd â'r nifer fwyaf o bobl sy'n cymryd cyffuriau gwrth-iselder—un o bob chwech o'r boblogaeth—ac mae hynny'n cyrraedd cyfran syfrdanol o un o bob tri yn nhref Aberpennar yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon....
Vikki Howells: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r gefnogaeth i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghwm Cynon yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ51317
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod fod bwrdd iechyd Cwm Taf a'u partneriaid Rocialle a 1000 o Fywydau Cymru, ychydig wythnosau yn ôl, wedi ennill y wobr gydweithredu yng Ngwobrau Gwnaed yng Nghymru eleni am ddatblygu pecyn gyda'r nod o gyflymu'r ymatebion clinigol i sepsis. A wnewch chi longyfarch Cwm Taf a'i bartneriaid ar y cyflawniad arwyddocaol hwn? A ydych yn...
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi bod yn cael trafodaethau diddorol gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf am eu gwaith gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect peilot y cyfeirioch chi ato, ac rwy'n synnu ei bod yn ymddangos nad yw'r Aelod a etholwyd yn uniongyrchol dros y Rhondda, yn gwybod bod Rhondda Cynon Taf wedi bod yn cymryd rhan yn y peilot hwnnw. Gwn fod Rhondda Cynon Taf o'r farn y gallai hyn...
Vikki Howells: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cyfraddau diagnosis cynnar o ganser yng Nghwm Cynon?
Vikki Howells: Prif Weinidog, gallai patrymau gweithio hyblyg fod yn un ffordd allweddol o leddfu'r pwysau ar ein traffyrdd a'n cefnffyrdd ar adegau allweddol. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i siarad â chyflogwyr mawr am fanteision gweithio hyblyg?
Vikki Howells: Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio ysgogwyr caffael yng nghyd-destun cynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd i greu swyddi a hybu ffyniant yn y Cymoedd gogleddol?