Jeremy Miles: O ran y cwestiwn ynghylch darparu rheoliadau wrth graffu ar y Bil, mae'n ofynnol yma, rwy'n credu, i sicrhau bod y rheoliadau'n rhoi cyfle i randdeiliaid ymgysylltu'n llawn â'r hyn a gynigir, a hefyd i'r rheoliadau adlewyrchu'r gwelliannau a wneir i'r ddeddfwriaeth wrth iddi gael ei phasio drwy'r Siambr hon. Felly, bydd hynny'n gyd-destun, rwy'n credu, ar gyfer yr ymateb yr ydym ni wedi'i...
Jeremy Miles: Diolch, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am eu sylwadau adeiladol a meddylgar heddiw. Byddaf yn ymdrechu i ymateb i gynifer o bwyntiau ag y gallaf, ond nid wyf yn siŵr a fyddaf yn gallu ailadrodd natur gynhwysfawr yr ymatebion y cyfeiriodd Hefin David atyn nhw yn garedig yn ei gyfraniad. Siaradodd Jayne Bryant am yr angen am sector cryfach a mwy cadarn, y mae'r Bil hwn yn cyfrannu...
Jeremy Miles: Bydd fy nghyd-Aelodau'n gwybod am fy ymrwymiad personol ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Rydym ni i gyd yn elwa ar gydweithio fel Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr i sicrhau gwell canlyniadau mewn addysg, yn y gweithle ac fel cymdeithas. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cyflwyno Bil yn ddiweddarach...
Jeremy Miles: Gan droi, Dirprwy Lywydd, at y mater pwysig hwnnw o lais y dysgwr, mae cyflwyno cod ymgysylltu â dysgwyr yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr fynd i'r afael â sut y byddan nhw'n cynnwys dysgwyr mewn penderfyniadau ar bob agwedd sy'n ymwneud â'u dysgu ac â'u diddordebau a'u pryderon. Mae'r pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi gwneud pwynt cryf ynghylch sut y...
Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) ac i symud y cynnig, ac ar y penderfyniad ariannol. Rwy'n ddiolchgar i Jayne Bryant, i Peredur Owen Griffiths, i Huw Irranca-Davies ac i aelodau eu pwyllgorau am eu hagwedd drylwyr ac adeiladol at graffu ar y Bil, a'u hadroddiadau cynhwysfawr a darbwyllol. Hoffwn i...
Jeremy Miles: Wel, mae'r Aelod yn dweud bod hyn yn rhwystredig, mae e'n rhwystredig. Mae'n sefyllfa bryderus iawn, byddwn i'n dweud. Mae pobl yn amlwg yn mynd i edrych ar argaeledd deunydd adolygu Cymraeg pan fyddan nhw'n penderfynu pa ffordd i ddewis gwneud eu prawf. Felly, mae hynny'n risg amlwg, fyddwn i'n dweud, ac mae'n hen bryd i'r DVSA gydnabod eu cyfrifoldebau yn y maes hwn a darparu deunydd yn y...
Jeremy Miles: Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn ymchwilio i'r mater hwn. Dim ond cyhoeddiadau y mae'r Driver and Vehicle Standards Agency yn eu cynhyrchu sy'n berthnasol i'w cynllun iaith. Felly, ar hyn o bryd, nid yw'r deunydd ymarfer ar gael yn y Gymraeg, ond byddaf i'n parhau i weithio gyda swyddfa'r comisiynydd i geisio datrysiad i hyn.
Jeremy Miles: Rwy’n gobeithio ymuno â chi yn agoriad ysgol Tirdeunaw a dweud y gwir, felly edrychaf ymlaen at y cyfle hwnnw. Yn amlwg, rydym yn ymwybodol fod angen adnewyddu ac ailadeiladu nifer o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac awdurdodau esgobaethol i archwilio'r opsiynau ariannu sydd ar gael. Byddaf yn cyfarfod, mewn gwirionedd, â...
Jeremy Miles: Rwy'n falch fod buddsoddiad arfaethedig gwerth £150 miliwn Abertawe yn yr ystad ysgolion yn parhau i wneud cynnydd cyflym, gyda phedwar prosiect eisoes wedi'u cwblhau. Golyga hyn fod mwy na £38 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn ysgolion yn Abertawe yn ystod ail don y buddsoddiad drwy raglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu.
Jeremy Miles: Credaf fod gan ysgolion rôl bwysig iawn yn sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael, a chredaf fod y disgwyliad gorfodol ar gyfer iechyd corfforol yn y cwricwlwm newydd o fis Medi ymlaen yn adlewyrchu'r rôl bwysig sydd gan ysgolion i'w chwarae yn hynny. Rydym yn gweithio’n galed yn y Llywodraeth i barhau i sicrhau y gall pob ysgol gynnig yr ystod honno o gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch...
Jeremy Miles: Mae swyddogion yn ystyried hynny yn y ffordd rydych yn ei hawgrymu yn eich cwestiwn ar hyn o bryd. Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnewch, sef ei bod yn hanfodol fod mynediad at weithgareddau chwaraeon a gweithgareddau corfforol mewn ysgolion ar gael ac yn hygyrch i'n holl ddysgwyr. Credaf fod honno’n egwyddor sy’n ategu pwysigrwydd iechyd a lles yn ein cwricwlwm newydd, a gwneuthum araith...
Jeremy Miles: Rydym wedi ymrwymo i gefnogi iechyd corfforol a lles holl ddysgwyr Cymru. Dyna pam fod hyrwyddo manteision gydol oes iechyd corfforol, gan gynnwys chwaraeon, yn rhan orfodol o bob cwricwlwm ym mhob ysgol a lleoliad yng Nghymru ar gyfer dysgwyr tair i 16 oed.
Jeremy Miles: Wrth gwrs, mae’r awdurdod wedi cyflwyno’r cynllun strategol addysg Gymraeg yn ddiweddar i fi er mwyn cymeradwyo. Rwy'n edrych ar hynny ar hyn o bryd. Mae pob awdurdod yng Nghymru wedi cael gofyniad i fod yn uchelgeisiol ynglŷn â'r hyn maen nhw'n darparu o ran addysg Gymraeg dros y ddegawd nesaf. Dyma'r tro cyntaf i ni allu symud i gynllun dros ddegawd, a dwi'n credu bydd hynny'n...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw. Y cyfarfod diwethaf a gefais cyn dod i'r Siambr heddiw mewn gwirionedd oedd cyfarfod gyda'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn adolygu'r cynllun gweithlu 10 mlynedd ar gyfer y sector, a bûm yn nodi gyda hi beth arall y gallwn ei wneud i annog pobl ifanc i leoliadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn ehangach. Ond mae...
Jeremy Miles: Gan weithio gyda phartneriaid, yn cynnwys awdurdodau lleol a Mudiad Meithrin, rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg drwy ein grantiau cyfalaf, y rhaglen Sefydlu a Symud, a'n buddsoddiad yn y gweithlu. Rydym hefyd yn ariannu lleoedd cyfrwng Cymraeg drwy Dechrau'n Deg, y cynnig gofal plant, a'n darpariaeth addysg gynnar.
Jeremy Miles: Ceir amrywiaeth o ymyriadau, y gweithiais arnynt gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, mewn ysgolion mewn perthynas â hyn, ac mae angen sicrhau bod y pynciau STEM yn hygyrch ac yn ddeniadol i bob myfyriwr. Weithiau mae gogwydd rhywedd o fewn y pynciau hynny. Felly, credaf yn sicr fod mwy y gallwn i gyd ei wneud yn hynny o beth. Mae rhai o'r diwygiadau y soniais amdanynt yn...
Jeremy Miles: Wel, fel y dywed yr Aelod, nid yw myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn gallu cael mynediad at fwrsariaeth y GIG, ond gallant gael mynediad at y fwrsariaeth gwaith cymdeithasol drwy Gofal Cymdeithasol Cymru, ac mae hwnnw'n rhoi cyllid iddynt tuag at gost eu ffioedd byw a dysgu. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol o'r sylwadau, gan gynnwys y rhai y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt, nad yw'r cyllid bwrsariaeth yn...
Jeremy Miles: Diolch i James Evans am y cwestiwn hwnnw. Fe'i cyfeiriaf at yr ateb a roddais i Sarah Murphy eiliad yn ôl mewn perthynas â hynny. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ysgolion neu golegau yng Nghymru sy'n defnyddio'r dechnoleg fiometrig fwy newydd megis systemau adnabod wynebau, er enghraifft, ond rwy'n ei sicrhau, fel y gwneuthum gyda Sarah Murphy, y bydd y canllawiau'n nodi ar gyfer ysgolion a...
Jeremy Miles: Mae ein pecyn cymorth hael i fyfyrwyr a chynllun bwrsariaeth GIG Cymru yn galluogi myfyrwyr yn y meysydd hyn, ynghyd â'n buddsoddiad sefydliadol mewn pynciau cost uchel, gan gynnwys meddygaeth a deintyddiaeth. Rydym wedi ymrwymo i sefydlu ysgol feddygol gogledd Cymru, a fydd yn ategu'r addysg feddygol o ansawdd uchel sy'n bodoli eisoes yng Nghymru.
Jeremy Miles: Mae hwn yn fater pwysig iawn, ac rwy'n cymeradwyo'r Aelod yn llwyr am hyrwyddo'r mater yn gyson, ac os caf ddweud, mewn modd mor arbenigol, yn y Siambr a thu hwnt. Mae gan ysgolion opsiwn, fel y dywed yn ei chwestiwn, i ddefnyddio systemau biometrig fel un o'r dulliau dilysu a ddefnyddiant i ddarparu, er enghraifft, arlwyo heb arian yng nghyd-destun prydau ysgol am ddim ac yn y blaen. Mae...