Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Mae'r wythnos yma yn rhan o ymgyrch flynyddol y Cenhedloedd Unedig 16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn trais ar sail rhywedd. Pwrpas yr ymgyrch ydy tynnu sylw'r byd at broblem enfawr trais yn erbyn menywod gan wthio am weithredu ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang yn ei erbyn. Mae dewrder a phenderfyniad y menywod sy'n rhan o fudiadau fel #MeToo a Time's Up wedi taflu...
Siân Gwenllian: Rwy'n meddwl ei fod o'n berthnasol iawn fy mod i yn gofyn y cwestiwn ichi a, na, ges i ddim ateb, wrth gwrs. Mi wnaethoch chi gydnabod yn y pwyllgor diwylliant hefyd fod y trefniadau hyrwyddo—i fynd yn ôl at hyrwyddo—yn ddiffygiol ac nad oes gan is-adran y Gymraeg yn ei ffurf bresennol y capasiti i fod yn gwneud y gwaith hyrwyddo ystyrlon a strategol. Mae dirfawr angen gweithredu ar...
Siân Gwenllian: Felly rydych chi'n dal i sôn am greu comisiwn sydd ynghlwm â'r cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg, ond yn y pwyllgor diwylliant yr wythnos diwethaf, mi ddywedoch chi fod popeth i fyny yn yr awyr yn sgil Brexit, a wnaethoch chi ddim rhoi unrhyw addewid y byddai yna Fil cyn diwedd tymor y Cynulliad yma, na chomisiwn ychwaith. Yn eich maniffesto ar gyfer eich gobeithion i ddod yn Brif Weinidog...
Siân Gwenllian: Diolch, Llywydd. Yn sgil y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur a negodwyd ddwy flynedd yn ôl, fe gytunwyd y byddai £2 miliwn yn cael ei ddefnyddio'n benodol ar gyfer hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Fe fyddwch chi'n ymwybodol mai'r hyn a oedd yn greiddiol i'r cytundeb rhwng Plaid a chithau oedd ymrwymiad i sefydlu asiantaeth iaith hyd-braich i wneud gwaith hyrwyddo a chynllunio ieithyddol...
Siân Gwenllian: mae'n ymddangos bod hawliau plant yn 'ychwanegiad' o fewn y gyllideb hon,
Siân Gwenllian: yn hytrach na bod hawliau'n rhan o'r dadansoddiad o'r cychwyn cyntaf, a hynny yn arwain at y penderfyniadau cyllidebol. Felly, ydy, mae'r comisiynydd plant yn bod yn hynod feirniadol, ac efo pob lle i fod yn feirniadol, ond, a bod yn deg, mi wnaeth hi hefyd ddweud mai prin iawn ydy'r enghreifftiau o arfer dda. Hynny yw, prin iawn ydy'r enghreifftiau o lywodraethau yn gweithio'n systematig i...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn i Lynne am ei datganiad ac am greu'r cyfle i ni roi ffocws clir ar hawliau plant yng Nghymru heno. Rydw i'n falch iawn, fel rydym ni i gyd, rydw i'n siŵr, fod Cymru wedi mabwysiadu confensiwn hawliau'r plentyn y Cenhedloedd Unedig yn 2011—gwlad gyntaf y Deyrnas Unedig i wneud hynny. Mae'n gwbl briodol fod Llywodraeth Cymru yn mynd i gyhoeddi arolwg o'i hymrwymiadau i'r...
Siân Gwenllian: Hoffwn i ofyn am ddiweddariad ynglŷn â phroblemau parcio parhaus ar hyd yr A5 yn ardal Llyn Ogwen yn fy etholaeth i. Mae yna dros flwyddyn wedi pasio ers i gynrychiolwyr lleol holi am weithredu a chynllun pendant i chwilio am ddatrysiad buan i'r broblem yn yr ardal. Mae yna chwe mis wedi pasio ers i'r Gweinidog dderbyn astudiaeth dichonoldeb o'r problemau, ond, eto i gyd, nid oes yna symud...
Siân Gwenllian: Ac roedd Plaid Cymru'n falch iawn o sicrhau'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes yna ar gyfer prosiectau ynni cymunedol fel rhan o'r cytundeb ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol yma efo'r Llywodraeth. Ond nid oes yna ddim sicrwydd hyd yma y bydd y cynllun rhyddhad ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, na chwaith ar gyfer blynyddoedd i ddod. Mae'r prosiectau yma yn amlwg angen...
Siân Gwenllian: Mae galw mawr am yr arian cyfalaf ychwanegol sydd wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain gan y sector cyfrwng Cymraeg, sydd yn newyddion ardderchog, wrth gwrs, ac yn dangos awydd i gefnogi uchelgais miliwn o siaradwyr Cymraeg y Llywodraeth yma. Ond nid oes yna ddigon o arian i ateb y galw, a hynny o bell ffordd. Mae gwerth dros £100 miliwn o geisiadau am...
Siân Gwenllian: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i helpu prosiectau ynni cymunedol hydro gyda’u hardrethi busnes? OAQ52935
Siân Gwenllian: Diolch. Mae safon y cysylltedd i fand eang yn Arfon yn anghyson, boed mewn ardal wledig neu ddinesig. Er enghraifft, ym mharc busnes Menai ym Mangor, mae busnesau yn cael eu rhoi dan anfantais sylweddol oherwydd diffyg safon y cysylltedd. Mae nifer o etholwyr wedi sôn am enghreifftiau lle y mae llond llaw o dai yn cael eu heithrio er bod ffibr i’r adeilad wedi’i osod i’r rhan fwyaf...
Siân Gwenllian: 2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gysylltedd band-eang yn Arfon? OAQ52897
Siân Gwenllian: Mae'n ymddangos bod hawliau plant yn 'ychwanegiad' o fewn y gyllideb hon... Nid yw'n ymddangos bod cynnydd wedi bod o ran amlygrwydd hawliau plant a phlant o fewn ystyriaethau'r gyllideb; Mae diffyg tystiolaeth ddadansoddol ar ffurf asesiadau effaith ar hawliau plant i ddangos a yw plant yn well neu'n waeth eu byd o ganlyniad i'r penderfyniadau cyllidebol.
Siân Gwenllian: Nid oedd yna asesiad effaith ar hawliau plant wedi ei baratoi ar gyfer cynigion y gyllideb, nid hyd yn oed ar gyfer tri maes pwysig sydd wedi bod yn destun toriadau cyllidebol, sef y grant gwisg ysgol, y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig a'r rhaglen gyswllt ar ysgolion Cymru gyfan. Mae adroddiad y comisiynydd, a fydd yn cael ei drafod ddydd Iau, yn codi cwestiynau mawr, ac rydw i'n edrych...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn. Er gwaethaf honiadau'r Gweinidog, mae'n destun pryder fod nifer o benderfyniadau diweddar Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud heb roi ystyriaeth lawn i hawliau plant. Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig yn yr ymgynghoriad craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, mae'r comisiynydd plant, mewn adroddiad sy'n eithaf damniol o Lywodraeth Cymru, yn dweud hyn:
Siân Gwenllian: Iawn. Gobeithio eich bod chi'n fy nghlywed i, a chlywed y cyfieithiad yn glir hefyd.
Siân Gwenllian: Ardderchog. Fe wnaf ddechrau eto, felly. Mae codi safonau a chodi statws y proffesiwn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo ers nifer o flynyddoedd. Os nad ydy'r gweithlu yn cael hyfforddiant o safon uchel drwy gydol eu gyrfa, o'u haddysg gychwynnol hyd at gyfnod ymddeol o'r sector, fydd y safonau ddim yn codi yn y dosbarth. Cyn troi at fater sydd wedi cael ei drafod yn fan...
Siân Gwenllian: Mae codi safonau a chodi statws y proffesiwn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo ers blynyddoedd, wrth gwrs. Os nad ydy'r gweithlu yn cael—
Siân Gwenllian: Iawn. A ydych chi eisiau imi drio eto? A ydy o'n gweithio rŵan?