Delyth Jewell: Hoffwn siarad am brofiadau grŵp penodol o bobl sy'n dioddef o orfod mynd i Loegr i gael gofal iechyd meddwl, sef mamau newydd sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Yn ôl Cynghrair Iechyd Meddwl Mamau, mae'r menywod hyn yn cael eu hamddifadu o ofal a allai achub bywydau oherwydd diffyg uned gymorth arbenigol yng Nghymru. Credaf mai fy rhagflaenydd, Steffan Lewis, oedd y person cyntaf i alw...
Delyth Jewell: Os yw'r darllediadau Saesneg eu hiaith yn symud i Sky, yna, yn syml, bydd y bobl yn cael eu prisio allan o'u traddodiadau eu hunain, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud, o ran o'u diwylliant eu hunain. Wrth gwrs, nid rygbi yw'r unig gamp genedlaethol yng Nghymru o bell ffordd, ond mae'n rhoi mwynhad i filoedd o gefnogwyr ac yn ysbrydoli niferoedd dirifedi o bobl ifanc i ddilyn eu huchelgais eu...
Delyth Jewell: Nawr, dŷch chi wedi sôn am rai o'r problemau pam dŷch chi methu ateb rhai pwyntiau yn barod, Dirprwy Weinidog, ond, am yr iaith Gymraeg, fy mhryder i a nifer fawr iawn o bobl yw does dim sicrwydd y bydd sylwebaeth yn y Gymraeg yn parhau. Felly, gaf i ofyn pa drafodaethau byddwch chi’n edrych i'w chael gyda'r Llywodraeth yn San Steffan ynglŷn â dyfodol sylwebaeth yn y Gymraeg—os bydd...
Delyth Jewell: Ocê. Diolch am eich ateb am hynny, Dirprwy Weinidog. Beth fuaswn i yn dweud—. So, rygbi—. Mae rygbi mor bwysig i'r bobl yng Nghymru, ac rwy'n siŵr bydden ni’n cytuno ar hynny.
Delyth Jewell: Yn wir, mae gemau Rygbi'r Chwe Gwlad yn cael eu gwylio gan 82 y cant o boblogaeth Cymru. Mae hwnnw'n ffigur hollol anghredadwy, a chredaf, mewn rhai ffyrdd, y gellir dadlau'n sicr ei fod yn achos unigryw oherwydd hynny. Ond mae'r ddadl ynglŷn ag a ddylai'r gemau symud i blatfform talu-wrth-wylio yn ymwneud â mwy na rygbi'n unig. Mae'n ymwneud â'r ffaith na ddylai rhai pethau gael eu...
Delyth Jewell: Diolch am hynny. Rwy'n sylweddoli unwaith eto fod yna ansicrwydd ynghlwm wrth rywfaint o hyn oherwydd y rôl y bydd Llywodraeth y DU yn ei chwarae. Yn amlwg, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno mai gorau po gyntaf y cawn eglurder ar hyn i bawb. Felly, yn olaf, hoffwn droi at fater gorfodaeth. Yn ôl fy nealltwriaeth i, yng Nghymru, swyddogion iechyd yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am roi...
Delyth Jewell: Diolch ichi am yr atebion hynny, Weinidog. Mae hynny'n galonogol, clywed eich bod wedi bod yn trafod hyn y bore yma yn llythrennol, a bod y cynlluniau ar waith. Yn amlwg, lle mae'n briodol, byddai'n dda cael gweld y rheini, ond rwy'n sylweddoli y bydd rhai pethau na ellir eu rhannu ar yr un pryd. Fe sonioch chi am salwch yn y gweithlu. Y cyngor a roddir ar hyn o bryd gan Iechyd Cyhoeddus...
Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau i chi ynglŷn â pha gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i helpu awdurdodau lleol i baratoi i ymdopi â'r achosion o coronafeirws. Yn gyntaf, hoffwn ofyn am ofalwyr cartref a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. A oes gan y Llywodraeth hyder y bydd gan awdurdodau lleol gapasiti i sicrhau gofal parhaus i bobl sydd ei...
Delyth Jewell: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â'r adroddiadau y gallai gemau rygbi'r chwe gwlad fod ar gael ar sail talu-wrth-wylio yn unig yn y dyfodol? 401
Delyth Jewell: Gwnaf, yn sicr.
Delyth Jewell: Diolch ichi am yr ymyriad yna. Byddwn, yn sicr, nid wyf yn dweud, o bell ffordd, nad oes darpariaethau na fyddem yn eu croesawu. Rwy'n credu ar y cyfan, fod gormod o golli cyfleoedd yma yn ein tyb ni. Ond, wrth gwrs, bydd rhai pethau, fel y rhai y sonioch amdanynt, y byddem yn eu croesawu. Felly, i gloi, Llywydd, mae cynnydd yn setliad eleni, ond er ei fod yn gam i'r cyfeiriad cywir, nid yw'n...
Delyth Jewell: Mae baich toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus wedi disgyn yn bennaf ar lywodraeth leol ers dechrau cyni dros 10 mlynedd yn ôl. Bydd cyllid llywodraeth leol a dderbynnir oddi wrth Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r gyllideb hon 13 y cant yn is nag yr oedd yn 2010, yn ôl tîm dadansoddi cyllidol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae pob un ohonom ni yma'n ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r...
Delyth Jewell: Prif Weinidog, pan ddaw'n fater o fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, siawns bod yn rhaid i ni fynd ati ar sail tystiolaeth. Rydym ni'n gwybod bod y cynllun Tai yn Gyntaf yn y Ffindir wedi cael canlyniadau ardderchog ers ei lansio dros ddegawd yn ôl, ac mae cynllun yr Alban, a lansiwyd y llynedd, eisoes wedi cartrefu 216 o bobl. Nawr, gall y cynllun hwnnw fod yn arbennig o...
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Nid oes llawer o bethau sy'n fwy brawychus na gweld eich cartref yn cael ei ddifrodi pan nad oes gennych unrhyw rym i'w atal. Yr wythnos diwethaf, dihunodd trigolion ar draws fy rhanbarth i weld dinistr difrod llifogydd ac maent wedi bod yn gwneud popeth yn eu gallu i ailadeiladu eu bywydau. Nawr, yn amlwg, mae ymdrechion yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar y glanhau...
Delyth Jewell: Hoffwn gydymdeimlo'n llwyr â'r holl staff diwyd yn Kasai sy'n mynd i wynebu colli eu swyddi heb fod unrhyw fai arnynt hwy ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth ymroddedig. Gwn y bydd hwn yn gyfnod anodd iawn iddynt hwy a'u teuluoedd. Hoffwn gynnig cymorth fy swyddfa; mewn unrhyw ffordd y gallwn helpu, rydym yn awyddus i allu gwneud hynny. Nawr, fel y nodwyd, roeddem yn gwybod bod perygl y...
Delyth Jewell: Mae yna gonsensws wedi bod yn y Siambr hon fod angen inni gynyddu nifer y tai fforddiadwy yn sylweddol, er y bu llai o gonsensws ynghylch a yw hi'n deg ystyried tai a werthwyd am dros £150,000 drwy Gymorth i Brynu yn dai fforddiadwy. Am y rheswm hwnnw, mae Plaid Cymru wedi dewis defnyddio'r term 'tai cymdeithasol' wrth sôn yn benodol am ein nodau ni ein hunain ar gyfer adeiladu tai, ac yn y...
Delyth Jewell: Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â pha gymorth a fydd ar gael i blant sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd diweddar. Mae hyn wedi effeithio ar gymunedau ledled fy rhanbarth i, yn Nhrefynwy, yn Nhrecelyn, yn Llanbradach a llawer o leoedd eraill. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â thrigolion yn Stryd Edward yn Ystrad Mynach, a gafodd eu deffro am 2.30 a.m. gan...
Delyth Jewell: Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad hwn, ond ar ôl darllen yr adroddiad wedi hynny, hoffwn ddiolch i fy nghydweithwyr newydd am y gwaith cynhwysfawr a manwl hwn. Felly hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am wneud gwaith rhagorol a dweud fy mod yn edrych ymlaen at chwarae rhan weithredol mewn ymchwiliadau yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl sefydliadau ac...
Delyth Jewell: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Nwyrain De Cymru?
Delyth Jewell: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am rannu copi o ganllawiau ymarfer y grant cymorth tai cyn ei datganiad heddiw. Nawr, wrth gwrs, ni fyddai bwriadau da gan y Llywodraeth yn golygu fawr ddim oni bai fod y rhai sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau hanfodol sy'n helpu i fynd i'r afael â digartrefedd ar lawr gwlad yn cael eu hystyried, felly rwyf yn croesawu'r pwyslais a roddir ar sicrhau bod pawb...