Mark Drakeford: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae dechrau’r broses o ddatganoli trethi, yn anochel, wedi cymryd llawer o amser y Cynulliad Cenedlaethol. Yn 2015, fe gafodd y cyfrifoldeb am ardrethi annomestig ei drosglwyddo i Gymru. Ym mis Mawrth 2016, fe gyrhaeddodd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 y llyfr statud. Ym mis Rhagfyr y llynedd, fe wnaethom ni gytuno ar fframwaith cyllidol newydd...
Mark Drakeford: Our education priorities are set out in ‘Taking Wales Forward’ as it is a devolved matter.
Mark Drakeford: We are committed to safeguarding our rural communities and by working with stakeholders we want to ensure we get the best possible outcome for our farming, land management, food and environment sectors from the process of exiting the EU.
Mark Drakeford: The national transport finance plan, published in July 2015, sets out investment for transport and infrastructure and services for 2015-20 across all parts of Wales.
Mark Drakeford: Given the nature of innovation, inevitably the strategy is constantly evolving and has been designed to be flexible to the fast-changing world in which we live.
Mark Drakeford: Dwelling fires have fallen by almost a third since responsibility for fire and rescue services was devolved in 2005. Casualties in such fires have more than halved. We will continue to support our fire services to sustain this improvement.
Mark Drakeford: Byddwn i’n disgwyl i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr asesu’r anghenion iechyd yn ei ardal a chynllunio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y boblogaeth leol, gan gynnwys pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.
Mark Drakeford: Diolch yn fawr, Llywydd. Mae yna lawer yn y cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma y byddai’r Llywodraeth yn cytuno ag ef. Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â phwysigrwydd sylfaenol sicrhau canlyniad yn sgil Brexit sy’n cydnabod ac yn amddiffyn anghenion ac amgylchiadau Cymru. Rwyf am gofnodi effeithiolrwydd ychwanegol ein gallu i wneud hynny oherwydd y gwaith ar y cyd sydd wedi...
Mark Drakeford: Ffurfiol.
Mark Drakeford: Llywydd, y grwpiau mwyaf agored i niwed o ran defnyddwyr ffyrdd yw cerddwyr, beicwyr a beicwyr modur, ac rydym wedi siarad cryn dipyn yma yn y Siambr am feicwyr modur a chamau y gellir eu cymryd i geisio sicrhau bod y ffyrdd yn fwy diogel ar eu cyfer. Y darlun mawr, fel y gŵyr yr Aelod, yw bod marwolaethau mewn damweiniau ar y ffyrdd yng Nghymru wedi gostwng dros gyfnod o 30 mlynedd. Mae’r...
Mark Drakeford: Wel, a gaf fi gytuno â’r Aelod fod y gwaith a wneir gan staff croesi ffordd yng Nghymru yn bwysig iawn? Mae’r rhesymau dros y gostyngiad yn nifer y staff yn fwy cymhleth nag yr ymddangosant ar yr olwg gyntaf mewn gwirionedd. Mae’n wir fod cynghorau mewn gwahanol rannau o Gymru wedi manteisio ar y cyfle, wrth i staff ymddeol, i adolygu a oes angen penodi rhywun arall. Ond mae’r...
Mark Drakeford: Bydd y portffolio economi a’r seilwaith yn buddsoddi dros £700 miliwn dros bedair blynedd yn y seilwaith trafnidiaeth newydd, a bydd y cynlluniau hynny’n ystyried diogelwch ar y ffyrdd. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn buddsoddi £11.6 miliwn yn benodol ar gyfer mentrau diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru.
Mark Drakeford: Diolch i Suzy Davies am hynny. Mae’n llygad ei lle i ddweud bod y broses o archwilio’r cytundeb wedi bod yn drwyadl ac wedi cynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. O ganlyniad, mae cyfres o fecanweithiau naill ai eisoes ar waith neu ar fin cael eu cadarnhau i sicrhau bod yr ymdeimlad hwnnw o drylwyredd yn parhau wrth ddatblygu’r cytundeb yn y dyfodol. Felly, mae’n rhaid i dîm...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae’r Aelod yn llygad ei le fod y cebl yn rhan annatod o’r trafodaethau a ddechreuodd fargen ddinesig Abertawe, ac roedd cysylltiad cryf rhwng arweinyddiaeth Syr Terry Matthews a’r syniad o arfordir y rhyngrwyd. Fel y gŵyr yr Aelod, mae gan y fargen ddinesig, fel y’i cytunwyd yn y pen draw, 11 o brosiectau penodol yn ganolog iddi. Mae dau o’r prosiectau hynny’n...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Nid yw’n fater rwy’n hollol gyfarwydd ag ef, felly rwy’n berffaith hapus i’w archwilio ac i siarad ag ef ymhellach ynglŷn â hynny.
Mark Drakeford: Wel, diolch yn fawr, wrth gwrs, am y cwestiwn. Nod bargen dinas-ranbarth bae Abertawe yw rhoi hwb o £1.8 biliwn i’r economi leol, i greu bron 10,000 o swyddi newydd, ac adeiladu ar y llu o gryfderau sydd gan yr holl ranbarth yn barod.
Mark Drakeford: Diolch i Russell George am ei gwestiwn. Mae awdurdodau lleol yn berchen ar asedau sylweddol ym mhob rhan o Gymru. Mae’n rhaid rheoli a defnyddio’r asedau hynny’n effeithiol er mwyn creu arbedion effeithlonrwydd ehangach mewn llywodraeth leol ac mewn cydweithrediad â phartneriaid eraill mewn gwasanaeth cyhoeddus.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, gadewch i mi fod yn gadarnhaol: credaf fod gan bob awdurdod lleol, arweinyddiaeth wleidyddol ac arweinyddiaeth broffesiynol ddyletswydd i sicrhau bod cyd-destun yn cael ei greu lle mae pobl o bob cefndir yn teimlo’n gyfforddus wrth ymgymryd â chyfrifoldebau swydd etholedig, a lle mae’r cyfraniadau a wnânt yn cael eu cydnabod a’u parchu. Yn y Papur Gwyn a gyhoeddais ar...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac rwy’n rhannu ei llongyfarchiadau i Rondda Cynon Taf ac i’r menywod a fu’n llwyddiannus yno, ac fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i Dawn Bowden, rydym yn dal i fod ymhell o ble y byddem yn dymuno bod o ran amrywiaeth y gynrychiolaeth ledled Cymru. Ond mae rhywfaint o newyddion da gan fod nifer y menywod a etholwyd am y tro cyntaf i awdurdodau...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Fel y dywedais yn awr, cyn yr etholiadau llywodraeth leol, rhoddodd Llywodraeth Cymru nifer o brosiectau ar waith yn rhan o’r rhaglen amrywiaeth mewn democratiaeth. Rydym bellach yn bwriadu cynnal gwerthusiad llawn o’r rhaglen, gan edrych ar y bobl a gymerodd ran ynddi a’u llwyddiant mewn etholiadau, gyda’r bwriad o ddysgu ohoni a datblygu’r...