Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at fater pwysig anabledd a chynrychiolaeth ar lefel yr awdurdodau lleol. Rwy’n llongyfarch yr holl bobl a safodd etholiad a’r rhai a fu’n llwyddiannus, ac yn enwedig pobl a fydd yn gwybod, wrth gymryd y cam dewr hwnnw, weithiau, i gyflwyno eich hun gerbron y cyhoedd, y bydd heriau ychwanegol yn eu hwynebu wrth iddynt geisio ennyn...
Mark Drakeford: Llywydd, cytunaf yn llwyr ei bod yn bwysig iawn fod arweinyddiaeth wleidyddol ar lefel leol yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y bydd yr awdurdod lleol hwnnw’n eu gwasanaethu. Mae’n siomedig gweld y bydd yna un cyngor yng Nghymru lle bydd lefel yr amrywiaeth yn go isel. Hwnnw yw’r unig awdurdod lleol yng Nghymru lle bydd hynny’n wir, ac mae enghreifftiau llawer gwell mewn rhannau...
Mark Drakeford: Mae llawer o dir ar ôl i’w ennill cyn y gallwn fod yn hyderus fod sefydliadau democrataidd Cymru yn llwyr adlewyrchu’r boblogaeth y dônt ohoni. Mae hybu amrywiaeth yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sydd â diddordeb yn iechyd democratiaeth Cymru.
Mark Drakeford: Llywydd, a gaf fi ei gwneud yn glir fy mod yn cytuno â neges ganolog y cwestiynau a ofynnwyd gan Nick Ramsay y prynhawn yma? Mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb pwysig, wrth gyflwyno deddfwriaeth, i sicrhau bod y costau cysylltiedig yn cael eu cyfrifo mor drwyadl ac mor ddibynadwy ag y gallwn. Mae’r system sydd gennym yn system sy’n aeddfedu. Wrth iddi aeddfedu, dylem allu gwneud hyn yn...
Mark Drakeford: Wel, Cadeirydd, y ffordd y mae’r system yn gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol yw bod pob Gweinidog yn uniongyrchol gyfrifol am gynhyrchu’r memoranda esboniadol a’r asesiadau effaith rheoleiddiol a ddaw gyda hwy. Ceir darn o waith a wneir o’r canol, drwy swyddfa’r prif economegydd, i sicrhau bod y fethodoleg a ddefnyddir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn addas at y diben....
Mark Drakeford: Cadeirydd, gwelais y llythyr a anfonodd Alun Davies at holl Aelodau’r Cynulliad yn esbonio pam nad oedd am gynnig y penderfyniad ariannol ddoe ac yn rhoi ymrwymiad cadarn iawn i gynnig penderfyniad o’r fath ym mis Medi, pan fydd yr Aelodau wedi cael asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i ddiweddaru. Bydd hwnnw’n rhoi’r ffigurau i’r Aelodau a gobeithiaf y byddant yn rhoi’r hyder...
Mark Drakeford: Wel, roeddwn yn falch o glywed yr Aelod yn croesawu’r camau a nodwyd ym maniffesto’r Blaid Lafur i sicrhau y bydd buddsoddi mawr yn y math o seilwaith a fydd mor bwysig i economi’r DU ac i economi Cymru. Mae ein maniffesto’n ei gwneud yn glir y bydd cyfran uniongyrchol i Gymru yn y buddsoddiad a wneir gan Lywodraeth Lafur newydd, a gallaf ddweud wrtho, o ran parhad y cronfeydd...
Mark Drakeford: Llywydd, mae’r fframwaith cyllidol eisoes yn caniatáu iddo gael ei ailystyried. Mae mecanwaith ynddo sy’n caniatáu i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ei gwneud yn ofynnol i ailystyried ei delerau. Bydd Llywodraeth newydd yn San Steffan yn newid llawer o bethau yn y berthynas rhyngom ni a’r Llywodraeth a fydd yn cael ei ffurfio yno. Os bydd Llywodraeth Lafur yn cael ei ffurfio...
Mark Drakeford: Llywydd, gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe. Credwn ei fod wedi nodi ei safbwynt yn glir iawn y bydd fformiwla Barnett yn parhau yn y tymor byr, a’r tymor canolig yn ôl pob tebyg, wrth edrych am rywbeth yn ei lle. Fformiwla ariannu deg ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan fydd yr ateb hwnnw, gydag angen cymharol yn ganolog iddo.
Mark Drakeford: Llywydd, aeth Bill Clinton ati i godi trethi. Cododd y dreth ac aeth y ddyled gyhoeddus yn llai. Aeth ei olynydd, George W. Bush, ati i dorri trethi. Casglwyd llai o drethi, a gadawodd ei swydd gyda dyled gyhoeddus o 101 y cant o’r lefel a adawodd Clinton iddo ym mlwyddyn olaf ei arlywyddiaeth. Mae’n hollol anghywir awgrymu, fel y gwna’r Aelod dro ar ôl tro, mai i un cyfeiriad yn unig...
Mark Drakeford: Wythnos ar ôl wythnos yma yn y Cynulliad, Llywydd, clywn yr Aelod yn cynnig ei fersiwn ef o economeg cyflenwi. Mae’n gaeth i gromlin Laffer y cyfeiriodd ati’n anuniongyrchol yn y fan honno. Ni allaf gofio pa economegydd—efallai mai J.K. Galbraith a ddywedodd mai gwir rym esboniadol cromlin Laffer oedd y gallech ei disgrifio i gyngreswr mewn chwe munud, a gallech barhau i’w hailadrodd...
Mark Drakeford: Wel, byddwn yn cytuno ag ef i’r graddau fod ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr i’w gweld i mi fel yr ymgyrch a arweiniwyd waethaf ers cyrch y frigâd ysgafn, a gobeithiwn weld canlyniadau hynny yfory. Credaf ei fod yn gwbl anghywir i geisio awgrymu cysylltiad uniongyrchol rhwng cynnydd mewn ffurfiau penodol ar drethiant a’u heffaith yma yng Nghymru. Rwy’n hyderus y byddai Llywodraeth...
Mark Drakeford: Diolch i Rhianon Passmore, wrth gwrs, am ei chwestiwn, ac yn wir, rwyf wedi gweld adroddiad Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru, ac mae’n dweud fod disgwyl i allbwn adeiladu yng Nghymru fod yn gryfach nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig dros y pedair blynedd hyd at 2021. Y rheswm pam y bydd allbwn adeiladu mor gryf â hynny yng Nghymru, yn rhannol o leiaf, yw...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, pan fydd etholwyr yn gofyn y cwestiynau hyn i’w hunain, nid oes amheuaeth y byddant yn dod o hyd i’r ateb o wybod mai’r rheswm pam fod gwasanaethau cyhoeddus lleol o dan bwysau yw oherwydd camau parhaus Llywodraeth y DU i leihau’r swm o arian sydd ar gael i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac sydd yn anochel wedyn yn effeithio ar...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn cefnogi ein heconomi ac yn buddsoddi mewn seilwaith hanfodol. Mae wedi amddiffyn pobl Cymru rhag y polisïau caledi aflwyddiannus a ffôl a roddwyd ar waith gan Gangellorion Ceidwadol olynol yn San Steffan.
Mark Drakeford: Wel, diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn. Mae’n llygad ei le fod y Papur Gwyn yn argymell trefniadau rhanbarthol newydd a roddir ar waith drwy’r hyn y geilw’r Papur Gwyn yn ‘bwyllgorau cydlywodraethu’. Y model hwnnw yw’r un mwyaf cyfarwydd i lywodraeth leol. Yn y ffordd honno y caiff trefniadau gwasanaethau trawsffiniol eu rhoi ar waith gan amlaf yng Nghymru ar hyn o bryd. Maent...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Yn wir, rwyf wedi gweld y wybodaeth a ddarparwyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth, a hyd y gwelaf, mae’r wybodaeth honno’n dangos yn glir fod yr holl benderfyniadau a arweiniodd at y wybodaeth sy’n gyhoeddus wedi’u gwneud yn unol â gweithdrefnau democrataidd y cyngor ei hun. Fodd bynnag, mae’r Papur Gwyn, ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac...
Mark Drakeford: Llywydd, mae’r Papur Gwyn, ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’, yn cynnwys nifer o gynigion i sicrhau mwy o atebolrwydd democrataidd mewn llywodraeth leol. Mae ymatebion yr ymgynghoriad i hyn ac agweddau eraill ar y Papur Gwyn yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd.
Mark Drakeford: The Welsh Government has issued guidance to all local authorities in Wales on the issuing of fixed penalty notices. It supports their use as a response to genuine problems, issued sensibly and enforced even-handedly.
Mark Drakeford: The White Paper ‘Reforming Local Government: Resilient and Renewed’ issued on 31 January set out priorities for local government in Wales. Consultation on the White Paper ended on 11 April. A statement will be made once consideration of all responses is completed.