Mark Drakeford: Betsi Cadwaladr university health board remains in special measures. Progress is being made in key areas and we expect to see further improvements during the current phase of work.
Mark Drakeford: We have already reviewed the speed limits on our trunk road network. The results were made available in 2015 and we will be carrying out an update of the review this summer.
Mark Drakeford: Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i chi am y cyfle i gymryd rhan mewn dadl wedi’i hamseru’n dda, fel y mae eraill wedi dweud, gyda phobl ar draws Cymru yn mynd i bleidleisio yfory. Mae hwn wedi bod yn gyfle priodol iawn i bleidiau yma gyflwyno polisïau y bydd etholwyr yn penderfynu arnynt. Efallai y gallaf ddechrau drwy gytuno â’r siaradwr olaf yn y ddadl, Dawn Bowden, fel y cytunais...
Mark Drakeford: Yn ffurfiol.
Mark Drakeford: Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn ychwanegol yna, ac, wrth gwrs, rydw i’n ymwybodol o’r pethau mae pobl yn y sector yn eu dweud. Mae fy nghydweithwraig i Lesley Griffiths wedi cyfarfod â’r grŵp gorchwyl a gorffen ar ynni dŵr i drafod yr adroddiad ar fesurau i gefnogi’r diwydiant ynni dŵr yng Nghymru, ac rydw i’n gwybod ei bod hi’n mynd i gynnal cyfarfod pellach gyda’r grŵp....
Mark Drakeford: Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae sawl cynllun ar gael i helpu busnesau bach gydag ardrethi annomestig. Mae dros £210 miliwn o gymorth yn cael ei ddarparu yn 2017-18. Mae’r cynlluniau hyn ar gael i bob busnes sy’n bodloni’r meini prawf, gan gynnwys projectau ynni cymunedol.
Mark Drakeford: Diolch i David Melding. Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr awdurdodau lleol ledled Cymru, ac yn trafod nifer o faterion ariannol. Yn ddiweddar, gwnaeth Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ddatganiad yma yn y Cynulliad ar ddyfodol darpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Mark Drakeford: Wel, rwy’n cytuno â David Melding fod yn rhaid i’r awdurdodau lleol eu hunain ddod o hyd i ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau lleol pwysig iawn mewn cyfnodau anodd. Dirprwy Lywydd, os ydych yn fodlon, hoffwn fanteisio am eiliad ar y cyfle i roi ychydig bach o gyhoeddusrwydd i’n cronfa arloesi i arbed newydd: gwerth £5 miliwn o arian, a ddaw yn sgil adroddiadau a gynhyrchwyd gan y...
Mark Drakeford: Wel, cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedodd yr Aelod. Credaf fod hawl gan boblogaethau lleol i weld yr hyn sy’n digwydd yn eu henw yn siambrau eu cynghorau. Dyna pam fod y Papur Gwyn yn argymell y dylai darlledu cyfarfodydd cyngor fod yn ofyniad statudol, yn hytrach na chais i’r awdurdodau lleol yn unig, ac mae’r mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol yng Nghymru’n dilyn y llwybr hwnnw...
Mark Drakeford: Diolch i Gareth Bennett am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol i alluogi awdurdodau lleol i ddarlledu eu cyfarfodydd. Ar hyn o bryd, mae 18 o awdurdodau lleol yn darlledu cyfarfodydd cyngor llawn, ac mae rhai awdurdodau lleol yn mynd y tu hwnt i hynny ac yn darlledu cyfarfodydd eraill hefyd. Mae’r Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol yn argymell gwneud...
Mark Drakeford: A gaf fi gytuno â’r Aelod mai un o brif gryfderau bargen ddinesig prifddinas Caerdydd yw bod cynghorau o wahanol dueddiadau gwleidyddol wedi gallu dod at ei gilydd, wedi gallu cytuno ar ffurf o wneud penderfyniadau sy’n golygu y gallant siarad ag un llais ar faterion y mae eu harwyddocâd yn ymestyn y tu hwnt i’r lleol, ac sydd o bwys i bobl ledled y rhanbarth? Mae hynny’n arbennig o...
Mark Drakeford: Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn atodol. Mae bob amser wedi ymddangos i mi, Dirprwy Lywydd, fod Caerdydd, fel dinas, yn ffodus iawn fod y gyfnewidfa fysiau a’i phrif orsaf drenau’n ddigon agos at ei gilydd i allu creu’r math o gysylltiad trafnidiaeth y cyfeiriodd ato. Mae awdurdod trafnidiaeth rhanbarthol yn rhan annatod o fargen ddinesig prifddinas Caerdydd er mwyn sicrhau y...
Mark Drakeford: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am dynnu sylw at y mater hwn? Yn gyffredinol, gwn fod gan fy nghyd-Aelod Kirsty Williams grŵp sy’n edrych ar sut y gellir gwella addysg perthnasoedd i bobl ar yr adeg honno yn eu bywydau yng Nghymru. Pe bai’r Aelod yn barod i ddangos copi o’r adroddiad diwedd blwyddyn i mi, byddwn yn fwy na pharod i edrych arno a gweld a oes unrhyw gamau y gallem eu cymryd...
Mark Drakeford: Diolch am eich cwestiwn. Yn ariannol, bydd Llywodraeth Cymru’n darparu cyfraniad o £503 miliwn i fargen ddinesig gwerth £1.2 biliwn prifddinas Caerdydd. Yn fwy cyffredinol, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda’r 10 awdurdod lleol yn eu hymdrech gydweithredol i ddarparu manteision y fargen ar draws y rhanbarth cyfan.
Mark Drakeford: Wel, Dirprwy Lywydd, rydw i’n derbyn y pwynt mae’r Aelod yn ei wneud—dyna un o’r rhesymau pam roeddwn i’n awyddus i gyhoeddi y cyfalaf am y pedair blynedd sydd i ddod, i helpu awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill i gynllunio’n well i ddefnyddio’r cyfalaf sydd ar gael iddyn nhw. Ar ôl yfory, pan fydd y cynghorau sir newydd yna, rydw i’n bwriadu mynd o gwmpas yn...
Mark Drakeford: Diolch, wrth gwrs, am y cwestiwn. Mae ymyrraeth uniongyrchol gan Weinidogion yn Ynys Môn wedi darparu platfform sydd wedi arwain at gynnydd o ran darparu gwasanaethau. Er ein bod ni wedi gweld gwelliannau pwysig, mae pryderon difrifol yn parhau, fel y gwelsom yn adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ddiweddar ynghylch gwasanaethau plant ar yr ynys.
Mark Drakeford: Dirprwy Lywydd, fel y dywedodd Adam Price yn gynharach ynglŷn â’r cyfleoedd a allai ddod mewn perthynas â TAW ar ôl Brexit, mae’n rhaid i ni ddweud bod y ffyrdd y gellir datblygu polisi caffael y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn faes arall pwysig iawn y mae angen i ni weithio arno yma yng Nghymru, ac mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ar hynny. Nid yw hynny wedi ein hatal rhag...
Mark Drakeford: Wel, Dirprwy Lywydd, rwy’n hapus iawn i dynnu sylw’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am roi’r rhaglen ar waith at fanylion cwestiwn yr Aelod. Ein huchelgais yw sicrhau ein bod yn buddsoddi ym mhob rhan o Gymru, gan fynd i’r afael â’r materion hynny sydd angen sylw ar frys ac sy’n darparu’r manteision mwyaf ar gyfer y boblogaeth leol. Mae’r Aelod yn gwneud y pwynt...
Mark Drakeford: A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiwn pwysig? Efallai ei bod yn ymwybodol ein bod wedi cynnal diwrnod profi’r farchnad llwyddiannus iawn ar 23 Mawrth. Fe’i mynychwyd gan fy nghyd-Aelodau Vaughan Gething ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mynychodd dros 250 o gynrychiolwyr o ystod eang o fusnesau yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw i glywed mwy am y cyfleoedd y bydd y model...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Yn y gyllideb a gymeradwywyd ym mis Ionawr, nodwyd cynlluniau gennym ar gyfer darparu bron i £7 biliwn mewn buddsoddiad cyfalaf dros y pedair blynedd nesaf, gyda phwyslais penodol ar barhau i fuddsoddi mewn tai, trafnidiaeth, ysgolion ac ysbytai.