Canlyniadau 6341–6360 o 8000 ar gyfer speaker:Mark Drakeford

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Wel, Dirprwy Lywydd, mater i’r awdurdodau lleol eu hunain yw penderfynu ar y systemau sy’n gweddu orau i’w hanghenion a’u hamgylchiadau lleol. Ni allwch siarad o blaid manteision lleoliaeth mewn un cwestiwn a gofyn wedyn i mi bennu o’r fan hon yng Nghaerdydd y ffordd y caiff biniau eu casglu mewn gwahanol rannau o Gymru; nid yw honno’n ffordd gyson o ymdrin â llywodraeth leol....

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Nac ydy. Nid wyf yn credu mewn Llywodraeth drwy refferendwm. Nid wyf yn credu bod iddo hanes o werth. Nid wyf yn credu ei fod yn arwain at benderfyniadau effeithiol, cyfannol. Nid wyf yn credu ei fod yn cyfrannu at wneud penderfyniadau’n gyflym. Nid yw’n rhan o’r Papur Gwyn, ac nid oes gennyf gynlluniau i’w gynnwys ar hyn o bryd.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Wel, Dirprwy Lywydd, mae ein Papur Gwyn yn rhoi’r system bwyllgorau yn ôl ar y bwrdd fel rhywbeth y gall awdurdodau lleol ei ddewis os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae’n rhan o’r dull bwydlen a amlinellais yn gynharach. Rwy’n fodlon iawn â’r syniad mai’r hyn y byddem yn ceisio ei wneud fel Cynulliad Cenedlaethol yw sicrhau bod dewisiadau ar gael i awdurdodau lleol iddynt allu...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Dirprwy Lywydd, byddwn yn cadw llygad barcud ar y ffordd y mae’r arian a ddarparwyd at y diben hwn ac ar sail treialu arbrofol o’r fath—y ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio ledled Cymru. Rwy’n fodlon â’r ffaith y bydd gwahanol awdurdodau lleol yn dewis defnyddio’r arian mewn ffyrdd gwahanol, ond rwy’n dweud yn glir iawn wrthynt fy mod yn disgwyl i bob awdurdod lleol...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Wel, Dirprwy Lywydd, yn y Cynulliad blaenorol, nid oedd y Llywodraeth yn barod i weld Bil cyfan yn cael ei beryglu yn sgil gwelliannau a gyflwynai’r gwrthbleidiau ar y mater hwn yn unswydd er mwyn tynnu sylw, ac mae’n gwbl anghywir—yn gwbl anghywir—i ddweud nad oes unrhyw gamau pellach wedi cael eu cymryd. Mae’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol a hebryngais drwy’r...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Wel, Dirprwy Lywydd, mae’r llywodraeth hon wedi rhoi cyfres o gamau gweithredu ar waith o fewn y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd i fynd i’r afael â chamfanteisio contractau dim oriau, ond mae’n rhaid i ni wneud hynny o fewn y pwerau sydd ar gael i ni, ac o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Pan fydd Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol ym mis Mehefin eleni, byddwn yn gallu...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Dirprwy Lywydd, byddai’n anodd i unrhyw wrandäwr gasglu o hynny heb eglurhad mai plaid yr Aelod a fu’n gyfrifol am gyflwyno cynlluniau menter cyllid preifat a’u cyflwyno’n frwdfrydig i awdurdodau lleol er mwyn eu perswadio i’w defnyddio. Mae gan rai awdurdodau lleol Ceidwadol yng Nghymru gynlluniau menter cyllid preifat hefyd. Mae’r Llywodraeth hon, yn enwedig o dan arweiniad fy...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Mae’r Blaid Lafur yn ymladd etholiadau lleol gyda maniffestos ledled Cymru, ac yn esbonio i’r etholaethau lleol beth yn union y byddai awdurdod a reolir gan Lafur yn ei gynnig iddynt. Maent yn gwneud hynny yn erbyn cefndir Papur Gwyn lle y mae’r Llywodraeth hon wedi amlinellu ein polisïau cenedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol yn y dyfodol. Cytunaf â’r hyn y mae’r Aelod yn ei...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Wel, Dirprwy Lywydd, dechreuais fy ateb i gwestiwn Mark Reckless drwy fynegi fy siom ynglŷn ag unrhyw etholiad democrataidd sydd heb gystadleuaeth ac nad yw’n cynnig dewis i’r etholwyr. Ceir pethau y gall Llywodraethau eu gwneud i sicrhau bod etholiadau’n fwy deniadol, i roi cyfle i bobl a allai fod yn barod i sefyll, drwy ein prosiect amrywiaeth mewn democratiaeth, ac yn y blaen, ond...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Pwerau Trethu
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Mae Adam Price yn llygad ei le wrth gyfeirio, yn anuniongyrchol, rwy’n credu, at y ffaith fod comisiwn Silk wedi diystyru datganoli TAW ar y sail nad oedd yn dreth amrywiol ymarferol o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Pan na fyddwn bellach yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, credaf y dylid aildrafod TAW fel treth y gellid ei datganoli i Gymru gan y gallai fod yn bosibl inni ei defnyddio’n...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Pwerau Trethu
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Wel, mae gan y blaid sy’n Llywodraeth yng Nghymru ymrwymiad maniffesto i beidio â chodi cyfraddau treth incwm yn ystod oes y Cynulliad hwn. Bydd y pleidleiswyr yn gwrando’n astud iawn ar yr hyn y mae’r Blaid Geidwadol wedi’i ddweud, neu wedi bod yn amharod i’w ddweud mewn perthynas â threthu a chredaf y byddant yn llawer mwy pryderus ynglŷn â’r rhagolwg o godiadau treth o dan...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Pwerau Trethu
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Wel, Dirprwy Lywydd, un o’r ffyrdd y gobeithiaf y byddwn yn defnyddio ein cyfrifoldebau cyllidol newydd yw gallu edrych ar y rhyngweithio rhwng y gwahanol fathau o drethi yng Nghymru. Felly, mae gennym drethi annomestig ar gyfer busnesau lleol, ond mae gennym fathau eraill o drethi, a bu’r Pwyllgor Cyllid yn edrych yn ofalus iawn wrth ystyried y dreth trafodiadau tir, er enghraifft, ar y...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Pwerau Trethu
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Dirprwy Lywydd, fel rhan o’r £210 miliwn a ddarparwyd yng Nghymru i roi cymorth i fusnesau gyda’u biliau treth, mae £10 miliwn wedi cael ei ddarparu mewn cynllun penodol i gynorthwyo’r busnesau sydd ar y stryd fawr. Ni fydd galw etholiad cyffredinol yn gohirio’r cymorth hwnnw yng Nghymru.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Seddau lle na Chynhelir Etholiad
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae’r ffordd y lluniwyd y Papur Gwyn yn caniatáu i’r awdurdodau lleol eu hunain wneud cyfres o ddewisiadau—pobl sy’n adnabod eu hardaloedd, ac sy’n gallu llunio’r systemau mwyaf addas ar gyfer eu hanghenion a’u hamgylchiadau. Ac mae’r egwyddor honno’n rhan annatod o’r Papur Gwyn, a chredaf ei bod yn hollol iawn ei bod yn berthnasol i’r dewis o ddull...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Seddau lle na Chynhelir Etholiad
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, credaf ei bod bob amser yn well pan fo’r ymgeiswyr mewn etholiadau lleol yn uniaethu â’r ardal honno a’u bod yn gyfarwydd i’r bobl leol. Eisoes, ceir cyfres o brofion cymhwyso y mae’n rhaid i bobl eu pasio, gan gynnwys byw, gweithio, neu fod â busnes yn yr ardal, a chyfrifoldeb y swyddogion canlyniadau yw gwneud yn siŵr fod pob ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Seddau lle na Chynhelir Etholiad
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy’n ymwybodol o’r system yn yr Alban. Nid wyf o’r farn y gellir honni bod y system wedi arwain yn uniongyrchol at y ffaith eu bod wedi cael etholiadau a ymleddir yno, gan fod ganddynt ardaloedd mwy o faint, wrth gwrs, gyda mwy o gynghorwyr o ganlyniad. Mae ein Papur Gwyn, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni, yn argymell caniatáu dewis o ran y ffordd y cynhelir...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Seddau lle na Chynhelir Etholiad
( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Llywydd, diolch. Mae unrhyw sedd nad yw’n cael ei hymladd mewn etholiad democrataidd yn peri siom i mi. Ddydd Iau yr wythnos hon, bydd oddeutu 7 y cant o seddau’r prif awdurdodau yn cael eu llenwi heb wrthwynebiad. Roedd y ganran yn 2012 yn 12 y cant.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cael achrediad fel cyflogwr cyflog byw. Mae gwasanaeth iechyd gwladol Cymru wedi talu’r cyflog byw ers Ionawr 2015. Mae ein rhaglen lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn cynnwys ymrwymiad i gymryd camau pellach ar y cyflog byw yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: The Welsh Government continues to encourage local government to conduct its business in an open and transparent manner. The current White Paper on reforming local government proposes a range of ways further to increase transparency.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ( 3 Mai 2017)

Mark Drakeford: The consultation on the White Paper, ‘Reforming Local Government: Resilient and Renewed’, issued on 31 January and ended on 11 April. I am considering all responses and will make a statement once that consideration is completed.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.