Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym mewn sefyllfa braidd yn rhyfedd yma heddiw. Rydym yn trafod deiseb, fel y dywedwyd wrthym nawr, a gododd yn bennaf ar un penwythnos ar un agwedd fach ond dadleuol iawn o'r cyfnod atal byr 17 diwrnod a gynlluniwyd i ddiogelu ein GIG ac i achub bywydau, cyfnod y mae'r arwyddion cynnar yn awgrymu ei fod wedi cael effaith lesteiriol ar y cynnydd sydyn mewn achosion...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, diolch am y datganiad hwn a'r eglurhad heddiw. Rwy'n credu y bydd yna rai yn eich barnu chi am beidio â phwyllo digon, ac fe fydd yna eraill yn dweud eich bod wedi cymryd gormod o bwyll. Rwyf i o'r farn eich bod wedi gorfod gwneud penderfyniad, rydych wedi edrych ar y dystiolaeth ac wedi penderfynu ar y ffordd orau ymlaen, ac roedd yn rhaid dod i farn ynglŷn â hynny. Bellach o...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, rydym ni mewn cyfnod mor rhyfedd ar hyn o bryd, ac nid yw digwyddiadau chwaraeon yn ddiogel rhag effeithiau'r mesurau coronaferirws, ond mae'n bwysig edrych tua'r dyfodol gyda rhywfaint o obaith. Felly, rwy'n diolch i'r beiciwr brwd Geraint Rowlands am ei awgrym, sydd wedi fy arwain i ofyn a gawn ni ddadl ar gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru yn y dyfodol? Ac yn...
Huw Irranca-Davies: Weinidog, ychydig i'r gogledd o'r M4, ychydig i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr, mae yna drysor sy'n cael ei anghofio yn aml, sef cymoedd Ogwr, sy'n gyrchfan go iawn i ymwelwyr dydd a thwristiaid ar gyfer twristiaeth antur, gyda pharc Afan Argoed ac yn y blaen, a'r bryniau ar hyd llwybr y porthmyn, wrth gerdded at fynydd Bwlch, ond mae gennym hefyd gymunedau bach o iwrtau, mae gennym safleoedd...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, byddwch yn gwybod fy mod yn cadeirio grŵp cydweithredol y Senedd—criw da o bobl yn y fan yna. Felly, a gaf i ofyn, gan ein bod bellach, yn gwbl briodol mae'n rhaid i mi ddweud, yn cymryd mwy o reolaeth dros y fasnachfraint rheilffyrdd yng Nghymru, a fydd Llywodraeth Cymru nawr yn ceisio ymgorffori egwyddorion cydfuddiannol wrth lywodraethu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r...
Huw Irranca-Davies: Tybed a gaf i ofyn am un datganiad, Gweinidog. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i egluro cyfreithlondeb a moesoldeb cyflogwyr sy'n defnyddio dychweliad gweithwyr i'r gwaith ar ôl dyddiau i ffwrdd o'r gwaith oherwydd ynysu fel sbardun awtomatig ar gyfer camau disgyblu ar absenoldeb oherwydd salwch, a hefyd cyflogwyr sy'n gwrthod cydnabod galwad ffôn gan y gwasanaeth profi ac...
Huw Irranca-Davies: Mae'n bleser dilyn Joyce yn y ddadl bwysig hon i gefnogi adferiad glas a gwyrdd. Byddwn yn dadlau'n gryf fod yn rhaid inni gael y data a'r dadansoddiadau sy'n sail i reoli adnoddau'n gynaliadwy, ac y dylem nid yn unig gael ardaloedd morol gwarchodedig, ond ardaloedd sydd â statws gwarchodedig uwch ac yn hollbwysig, fod yr ardaloedd morol gwarchodedig hynny'n cael eu rheoli'n effeithiol....
Huw Irranca-Davies: Weinidog, diolch i chi am y sicrwydd nad ydych eisiau cadw'r rhain ar gau ar gyfer ymweliadau preswyl am funud yn fwy nag sy'n angenrheidiol, ac y byddwn, pan fydd hi'n ddiogel, yn dychwelyd at gael ymweliadau preswyl. Fe fydd hi'n gwybod mai ymweld â chanolfannau addysg awyr agored, i lawer ohonom, oedd y tro cyntaf inni gael ein trochi mewn amgylchedd awyr agored, a dysgu, drwy sgiliau a...
Huw Irranca-Davies: Gadewch imi ddechrau drwy groesawu'r gefnogaeth ychwanegol a gyflwynwyd ddoe. Nid yw'n mynd i helpu pawb, ond bydd yn mynd yn bell iawn, rhaid dweud, yn enwedig y gronfa cymorth dewisol, i lenwi rhai o'r bylchau ar gyfer pobl sydd wedi disgyn rhwng dwy stôl hyd yma. Ac rwy'n sicr yn siarad ag arweinwyr awdurdodau lleol yn fy ardal i fel y gallant brosesu'r ceisiadau'n gyflym ac egluro i bobl...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n siarad yn fyr i gefnogi'r prif gynnig a gyflwynwyd yn enwau Rebecca Evans a Siân Gwenllian. Mae hon yn adeg pan fo arweinyddiaeth bendant yn wirioneddol bwysig: arweinyddiaeth ar frig y Llywodraeth, arweinyddiaeth mewn pleidiau gwleidyddol, ac arweinyddiaeth gennym ni yn y cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli. Ac rwy'n cymeradwyo'r arweinyddiaeth sy'n cael ei dangos gan y Prif...
Huw Irranca-Davies: Nawr, mae darnau o gynnig y Ceidwadwyr sy'n eithaf anodd anghytuno â hwy: er enghraifft, 'bod cyfyngiadau coronafeirws sy'n effeithio ar gyflogwyr yn gymesur.' Wel, wrth gwrs, y gwrthwyneb fyddai annog bod y cyfyngiadau'n anghymesur, ac nid yw hynny'n gwneud synnwyr. Ond gofynnaf i Aelodau Ceidwadol y Senedd hon: yn gymesur â beth? Rwy'n tybio bod hynny'n golygu bod yn gymesur â maint her...
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n ffocws i'w groesawu ar effaith coronafeirws ar gyflogwyr, er fy mod yn nodi gyda gofid nad oes un cyfeiriad yn y cynnig cyfan at gyflogeion o gwbl. Yn wir, yr unig sôn ymylol yw ymosodiad ar undebau ac ar weithleoedd sydd wedi undeboli. Nawr, efallai fod hyn i'w ddisgwyl, er ei fod yn siomedig iawn, ond mae'n caniatáu i mi, fel...
Huw Irranca-Davies: Weinidog, siaradais yr wythnos diwethaf yn lansiad maniffesto Living Streets Cymru ar gyfer cerdded yng Nghymru. Maent am i bawb yng Nghymru allu anadlu aer glân, ac maent am i'r Llywodraeth nesaf flaenoriaethu'r argyfwng hinsawdd, cyflwyno Deddf aer glân i Gymru a pharthau aer glân o amgylch holl ysgolion Cymru, creu mwy o fannau gwyrdd trefol a choridorau gwyrdd lle gall pobl gerdded a...
Huw Irranca-Davies: Mae'n ddrwg gen i, Llywydd, mae'r botwm bach newydd ddod drwodd i ganiatáu i mi siarad.
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. A gaf i, yn gyntaf, fel aelod o'r pwyllgor, ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor a'r Cadeirydd, a hefyd y tystion, am yr hyn sydd wedi bod yn dystiolaeth wirioneddol ddiddorol a thrylwyr, fel y mae'r pwyllgor hwn bob amser yn ei chymryd, gan geisio sicrhau bod y cydbwysedd hwn yn iawn o ran sicrwydd deiliadaeth i denantiaid a hefyd, y cydbwysedd hawliau i...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, a gaf i ddweud o ddifrif fy mod yn croesawu hyn a'r camau gweithredu sy'n deillio ohono mewn gwirionedd? Dros yr ugain mlynedd bron yr wyf wedi bod yn gynrychiolydd yma yn Ogwr, mae hyn wedi cynyddu a chynyddu yn fy etholaeth. Credaf eich bod yn iawn i ganolbwyntio ar ddwy agwedd. Mae un yn ffordd bragmatig ymlaen sy'n gweithio gydag awdurdodau lleol, yn gweithio gyda chymunedau...
Huw Irranca-Davies: A allwn ni gael datganiad, Gweinidog, ar unrhyw drafodaethau rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch y gefnogaeth i glybiau rygbi a phêl-droed yng Nghymru? Nid mater i gyrff llywodraethu proffesiynol yn unig yw hwn, ond mater o gydlyniant cymunedol a chyfranogiad chwaraeon gweithredol, yn ogystal â threftadaeth chwaraeon, yn enwedig...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog—Dirprwy Weinidog—profiad braf ond gostyngedig iawn oedd gweithio ochr yn ochr â llawer o'r gwirfoddolwyr yn ein cymuned ein hunain a fu'n gweithio drwy'r pandemig ac mae'n dangos mewn difrif calon pa mor hael y maen nhw yn ei roi o'u hysbryd a'u hamser. Ond mae hynny'n digwydd ym mhob rhan o'n cymunedau: pobl fel y cwmni cydweithredol Drive Taxis Cardiff, Paul a'i gydweithwyr...
Huw Irranca-Davies: Diolch i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, a'n Cadeirydd a'n clercod, ac yn enwedig y rhai a roddodd dystiolaeth am ein helpu i gyflwyno argymhellion eang eu cwmpas mewn perthynas ag adroddiad ein pwyllgor ar anghydraddoldeb yn ystod pandemig COVID-19. Mae un peth yn gwbl glir: mae'r anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd llym sydd wedi bod yn bresennol erioed wedi miniogi o ganlyniad i'r...
Huw Irranca-Davies: Lywydd dros dro, diolch—fe geisiaf ddringo Everest unwaith eto.