Canlyniadau 621–640 o 2000 ar gyfer speaker:Alun Davies

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Rheilffordd i Gymru (24 Med 2019)

Alun Davies: A gaf i ddweud, Gweinidog, fy mod i'n croesawu'n fawr y weledigaeth gyffredinol yr ydych chi wedi'i hamlinellu inni y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud mai'r un peth sy'n uno pobl ar bob ochr y Siambr hon yw penderfyniad pendant bod pobl Cymru yn haeddu llawer gwell na'r hyn a gawsom ni o ran cyllid a phwerau dros reilffyrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Croesawaf yn fawr yr...

Cwestiwn Brys: Dyfarniad y Goruchaf Llys (24 Med 2019)

Alun Davies: Fel eraill, er bod hyn yn digwydd o fewn y cyd-destun yr ydym ni'n byw drwyddo ar hyn o bryd, rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â grym ac mae hyn yn ymwneud â chyfansoddiad Prydain. Nid wyf i'n credu bod hyn yn ymwneud â Brexit, cymaint ag y byddai'n well gan lawer o bobl hynny. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae llawer o bobl yn y fan yma wedi ei ddweud: mae hyn yn ymwneud â'r pwerau sydd ar gael...

8. Dadl: Tasglu'r Cymoedd (17 Med 2019)

Alun Davies: Yn eich gwelliant 5, rydych yn gofyn am y gyllideb honno.

8. Dadl: Tasglu'r Cymoedd (17 Med 2019)

Alun Davies: Hoffwn ofyn ichi dynnu'r gwelliant hwnnw yn ei ôl, a dweud y gwir—

8. Dadl: Tasglu'r Cymoedd (17 Med 2019)

Alun Davies: —oherwydd yn fy marn i, dylai pob un o'r Gweinidogion sydd yma fod yn Weinidog y Cymoedd a dylai pob un o'r Gweinidogion—

8. Dadl: Tasglu'r Cymoedd (17 Med 2019)

Alun Davies: —fod yn Weinidog dros bob rhan o gymuned Cymru. [Torri ar draws.] Dydw i ddim yn credu mewn cael Gweinidog dros wahanol rannau o'r wlad. [Torri ar draws.] Rwyf eisiau cael Llywodraeth a Gweinidogion yn gweithredu dros y wlad i gyd—[Torri ar draws.]—a dyna pam fy mod i'n gwrthod y dadleuon bod arnom ni angen cyllideb wedi'i phennu ar gyfer tasglu'r Cymoedd. A gaf fi ddweud, Llywydd,...

8. Dadl: Tasglu'r Cymoedd (17 Med 2019)

Alun Davies: Derbyniaf ymyriad.

8. Dadl: Tasglu'r Cymoedd (17 Med 2019)

Alun Davies: Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon y prynhawn yma, doeddwn i ddim yn siŵr fy mod wedi cael y cyfle i groesawu'r Gweinidog i'w swydd yn arwain tasglu'r Cymoedd, felly hoffwn gofnodi fy mod yn croesawu ei benodiad, ond rwyf hefyd yn croesawu'r meddylfryd newydd a ffres y mae'n ei gyflwyno i'r swydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, o bryd i'w gilydd, bod angen adnewyddu holl swyddogaethau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Operation Yellowhammer (17 Med 2019)

Alun Davies: Rwy'n credu, wrth ddarllen drwy'r ddogfen y gorfodwyd Llywodraeth y DU i'w chyhoeddi gan y llysoedd, eich bod chi'n deall pam nad oedd Llywodraeth y DU eisiau i'r cyhoedd weld hyn. Rwy'n cael fy atgoffa o Aneurin Bevan pan ddywedodd wrthym: Sut gall cyfoeth berswadio tlodi i ddefnyddio ei ryddid gwleidyddol i gadw cyfoeth mewn grym? Dogfen yw hon sy'n disgrifio effaith Brexit ar bobl dlotaf y...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awtistiaeth (17 Gor 2019)

Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awtistiaeth (17 Gor 2019)

Alun Davies: Ni wnaf dderbyn ymyriad am fod amser yn fy erbyn ar hyn, ond rwy'n gobeithio y caiff yr holl Aelodau eraill gyfle i siarad. Yr hyn y gobeithiaf y gallwn ei wneud y prynhawn yma, Weinidog, yw taflu goleuni ar realiti'r straeon hyn. Pleidleisiais gyda'r Llywodraeth ym mis Ionawr ar fater Bil awtistiaeth, ac yn ddeallusol nid wyf wedi fy argyhoeddi gan y ddadl o'i blaid. Ond mae'n rhaid i mi...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awtistiaeth (17 Gor 2019)

Alun Davies: Gofynnais i aelodau grŵp y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ym Mlaenau Gwent drafod y ddadl hon y prynhawn yma, a gofyn iddynt beth oedd eu barn am rai o'r gwasanaethau yr oeddent yn eu cael. Rhaid imi ddweud y dylai eu sgwrs, a glywais dros amser cinio, wneud i bawb ohonom oedi a meddwl am realiti'r gwasanaethau y mae gormod o bobl yn eu cael. Treuliwn gryn dipyn o amser yn sôn am y...

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Blaenoriaethau Brexit (17 Gor 2019)

Alun Davies: Gwelwyd byrbwylltra, diofalwch a diffyg gofal nad yw'n Brydeinig am bobl y wlad hon yn y ddadl a gawsom dros Brexit heb gytundeb. Rwy'n poeni'n fawr am bobl ym mhob un o gymunedau'r wlad hon, nid y gymuned a gynrychiolaf yn unig. Ac nid yw'n ddigon da i bobl ddweud yn syml, 'Fe gawn adael heb gytundeb ac i'r diawl â'r costau, i'r diawl â'r canlyniadau, ac i'r diawl â bywydau'r bobl yr ydym...

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Blaenoriaethau Brexit (17 Gor 2019)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd am gyflwyno'r datganiad hwn y prynhawn yma. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iddo am y ffordd y mae'n cadeirio'r pwyllgor, ac i'r ysgrifenyddiaeth, sy'n rhoi cymorth i'r pwyllgor. Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r amrywiaeth eang o faterion y mae'r pwyllgor yn ceisio eu cynnwys yn ei amser, ac rwy'n ystyried bod fy amser ar y pwyllgor wedi rhoi cipolwg i mi ar y...

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Rhagolygon y Dyfodol ar gyfer Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru (16 Gor 2019)

Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rhaid imi ddweud, mae hwn wedi bod yn ddatganiad siomedig, braidd, Gweinidog. Gwyddom i gyd fod polisi cyni Llywodraeth y DU wedi bod yn drychinebus i Gymru—mae wedi bod yn drychineb i wariant cyhoeddus—ac rydym ni i gyd yn gwybod ei fod wedi cael effaith ar bobl ledled y wlad hon hefyd, a phobl y mae'r Gweinidog a minnau'n eu cynrychioli. Fodd bynnag,...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (16 Gor 2019)

Alun Davies: Rydych chi'n garedig iawn, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am y datganiad y prynhawn yma, ac rwyf eisiau croesawu'r datganiad hwnnw, yn enwedig y pwyslais ar gydraddoldeb, sydd wedi bod yn rhan o hynny i gyd. Mae'n bwysig, rwy'n credu, pan fydd San Steffan yn penderfynu a all hyd yn oed eistedd neu beidio yn yr hydref, pa un a ganiateir i...

8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad (10 Gor 2019)

Alun Davies: Nid oes gennyf amser. Ni fydd pobl Cymru yn diolch i wleidyddion—[Torri ar draws.] Ni fydd pobl Cymru—[Torri ar draws.] Rwy'n siŵr y gwnaiff y Dirprwy Lywydd adael i mi barhau hyd nes y caniatewch i mi orffen fy mrawddeg.

8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad (10 Gor 2019)

Alun Davies: Ni fydd pobl Cymru'n diolch i Gynulliad, Senedd, sy'n edrych tuag i mewn ac yn anghofio'r hyn y maent ei eisiau ac yn anghofio'r bobl y maent yn eu cynrychioli. Rwyf am i bobl Blaenau Gwent gael eu cynrychioli gan Senedd sy'n gweithio dros Gymru, ond mae angen iddynt gael cyfle hefyd i roi eu cydsyniad i hynny. Ac mae hynny'n golygu consensws ar draws y Siambr, ledled y wlad, a'n bod yn symud...

8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad (10 Gor 2019)

Alun Davies: Nid oeddwn wedi dweud hynny mewn gwirionedd, ond roeddwn ar fin gwneud hynny. [Chwerthin.] Nid wyf yn credu—. Rwy'n cydnabod yr hyn rydych yn ei ddweud, Joyce, ac rwy'n cydnabod, wrth gwrs, pam rydych chi'n ei ddweud, ond nid wyf yn credu bod cynrychiolaeth ranbarthol yn gynrychiolaeth go iawn, fe fyddaf yn gwbl glir ynglŷn â hynny. Nid wyf yn credu—[Torri ar draws.] Nid wyf yn ei...

8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad (10 Gor 2019)

Alun Davies: Nid wyf yn credu bod y system ddeuol yn system dda. Rwyf wedi gwasanaethu fel AC rhanbarthol—


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.