Llyr Gruffydd: Mi fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod nifer o fyrddau llywodraethol ar hyn o bryd yn gwneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â'u cyllidebau nhw flwyddyn nesaf, sy'n cynnwys diswyddo athrawon, diswyddo cynorthwywyr dosbarth, ac yn y blaen. Ond maen nhw'n gwneud hynny heb wybod, wrth gwrs, beth fydd eu cyllideb nhw ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac os gwrandewch chi ar rai o'r pleidiau...
Llyr Gruffydd: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau oedi o ran cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru am 2020-21 i ariannu ysgolion? OAQ54747
Llyr Gruffydd: O ran y ddyletswydd gonestrwydd, disgrifir canlyniad andwyol fel un sydd wedi, neu a allai, arwain at fwy nag ychydig o niwed a lle'r oedd darparu’r gofal iechyd yn ffactor, neu y gall fod wedi bod yn ffactor. Mae'r pwyllgor yn pryderu bod yr amcangyfrif o gostau parhaus ar gyfer y ddyletswydd gonestrwydd newydd yn adlewyrchu nifer y digwyddiadau a osodwyd yn y dosbarth cymedrol. Os yw'r...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl yma. Mae'r Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, wedi gwneud naw argymhelliad. Fe glywodd y pwyllgor gan y Gweinidog fod y Bil yn ymwneud ag arwain newid diwylliannol ac mae’n ofynnol iddo gyflwyno cyfres o ddiwygiadau i gryfhau gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Dywedodd nad oedd yn bosibl rhoi gwerth ariannol ar bob rhan o’r...
Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Llyr Gruffydd: Dyma'r pwynt yr hoffwn ei wneud: oni fyddai'n synhwyrol, felly, i'r rhai sy'n ennill mwy dalu ardoll uwch?
Llyr Gruffydd: Felly, rwy'n credu bod yna fanteision trawsbynciol i'r cynnig hwn. Ac wrth gwrs, mae Cymru ar ei hôl hi yn hyn o beth oherwydd rydym yn gweld yr Alban yn awr yn bwriadu cyflwyno'r ardoll hon drwy eu Bil trafnidiaeth. Ac fel y clywsom, mae eisoes yn cael ei weithredu gan rai cynghorau yn Lloegr—ac mae Nottingham a Birmingham yn ddau o'r rheini. Felly, nid cynnig breuddwyd gwrach yw hwn;...
Llyr Gruffydd: Rydw innau'n falch i gael cyfrannu i'r drafodaeth yma hefyd. Wrth gwrs, dyw'r cynnig yma ddim yn ateb ar ei ben ei hun, ond yn sicr mae e'n rhywbeth sydd â chyfraniad pwysig i'w wneud, yn y lle cyntaf, fel rydyn ni wedi ei glywed, i leihau lefelau traffig a thagfeydd wrth gwrs, a hynny â goblygiadau llesol o safbwynt lleihau llygredd awyr. Ac rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n wynebu creisis...
Llyr Gruffydd: Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglyn â sut bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn mynd i gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fwriadau Llywodraeth Cymru parthed cyflwyno ardrethi anomestig ar brojectau ynni hydro?
Llyr Gruffydd: Fel y dywedais i, dim ond dau argymhelliad oedd gan y pwyllgor, a dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfleu'r rheini i'r Siambr y prynhawn yma.
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyfrannu at y ddadl yma i drafod y ddau argymhelliad y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi'u gwneud.
Llyr Gruffydd: Mae'r pwyllgor yn fodlon ar y cyfan â chost amcangyfrifedig y Bil o £30,000, sy'n cynnwys, wrth gwrs, cymorth cyfreithiol allanol i weithredu'r Bil gan ddefnyddio'r pwerau newydd i wneud rheoliadau o dan y cynllun indemniad uniongyrchol. Derbyniwn sicrwydd y Gweinidog fod cymorth cyfreithiol allanol wedi cael ei ddefnyddio fel mater o hwylustod ac y byddai'r costau wedi bod yn debyg pe...
Llyr Gruffydd: Rŷch chi'n clochdar fan hyn fod y gwasanaeth yn un teilwng, ond, wrth gwrs, rŷch chi ddim ond yn gorfod edrych ar eich Twitter ffid chi heddiw, dwi'n siŵr, i sylweddoli gymaint o gwyno sydd yna'n barod gan gefnogwyr pêl-droed Cymru, sydd wedi ffeindio nad oes yna le iddyn nhw ar drenau o'r gogledd heddiw i deithio lawr i weld y gêm. Ble mae rheoli a rhagweld y gwasanaeth yma—gan wybod...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma heddiw, wrth gwrs, gan fod, fel rŷch chi wedi clywed, y Pwyllgor Cyllid wedi cael cyfle yn ein cyfarfod ar 3 Hydref i drafod cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21, ac fe gyhoeddom ni wedyn yn dilyn hynny ein hadroddiad ni ar 17 Hydref. Ac ar ran aelodau'r pwyllgor, hoffwn innau ddiolch i Suzy...
Llyr Gruffydd: Un o'r problemau sy'n wynebu llawer o drigolion yng nghefn gwlad Cymru, am nad yw eu tir yn cael ei ystyried yn ardal ar gyfer datblygiad tai a ganiateir, yw eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn cael caniatâd cynllunio ar gyfer tai ar eu tir, os mai bod yn ffordd i aelodau o'r teulu aros yn y gymuned leol yw diben y tai hynny wrth gwrs. Felly, a fyddech yn archwilio'r posibilrwydd o lacio'r...
Llyr Gruffydd: Wel, rwy'n ofni eich bod yn cuddio y tu ôl i'r ymgynghoriad braidd, oherwydd yr hyn rwy'n ei ofyn yw pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud mewn perthynas â'r galw angenrheidiol o ran y cynhyrchiant ynni dros yr 20 mlynedd nesaf, oherwydd does bosibl y byddai'n rhaid i chi fod wedi gwneud y gwaith hwnnw ymlaen llaw, fel y gallwch gyflwyno fframwaith datblygu cenedlaethol sydd i fod...
Llyr Gruffydd: Wel, rwyf ychydig yn bryderus nad ydych chi'n pryderu ac yn amlwg, mae angen rhoi sylw i hyn, oherwydd bydd yn cael effaith enfawr ar eich gallu i gyflawni'r hyn rwy'n tybio yw eich dyheadau o ran datgarboneiddio a chynhyrchiant ynni neu ynni adnewyddadwy. Nawr, roedd gan yr ardaloedd chwilio strategol yn TAN 8 darged, wrth gwrs, ar gyfer y cynhyrchiant ynni arfaethedig. Nid oes unrhyw arwydd...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Llyr Gruffydd: Weinidog, yn amlwg, cyfrifoldeb y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn bennaf. Ond rydych wedi esbonio i ni yma o'r blaen sut rydych wedi gweithio'n agos gyda hi ar ddatblygu llawer o agweddau sy'n berthnasol i'ch portffolio, ac mae'n amlwg y bydd yn effeithio'n enfawr ar eich gallu chi a'ch Llywodraeth i gyflawni eich dyheadau mewn perthynas â...