Mark Drakeford: Wel, diolch i Huw Irranca-Davies, Llywydd, ac o gofio ei fod wedi sôn am Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a'r unig berson hyd yn hyn, efallai y dylwn i ddweud rhywbeth am arwyddocâd y Bil hwnnw. Dyma'r Bil cydgrynhoi cyntaf o'i fath i ddod o flaen y Senedd. Bydd yn gwneud darn pwysig iawn o waith i wneud deddfwriaeth yma yng Nghymru yn hygyrch i'r bobl sy'n gorfod ei defnyddio, boed...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n rhannu'r pryderon y mae Rhys ab Owen wedi'u mynegi. Rydym ni wedi wynebu, ers mis Rhagfyr 2019, Lywodraeth wahanol iawn yn y DU i unrhyw un yr ydym ni wedi'i gweld yn y cyfnod datganoli. Tan 2018 nid oedd confensiwn Sewel erioed wedi cael ei ddefnyddio i anwybyddu ewyllys y Senedd, ac rwy'n credu ein bod ni nawr wedi'i weld bum gwaith yn ystod yr ychydig flynyddoedd...
Mark Drakeford: Llywydd, a gaf i roi sicrwydd i'r Siambr y bydd Bil llywodraethu amgylcheddol yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn ystod y tymor hwn. Mae gennym ni drefniadau dros dro ar waith, a'r wybodaeth sydd gennyf i yw eu bod yn gweithio'n foddhaol fel mesur dros dro, ond rydym ni wedi ymrwymo i Fil ar lywodraethu amgylcheddol. Ni fydd yn ail flwyddyn y rhaglen, ond bydd o'ch blaen chi yn ystod y...
Mark Drakeford: Diolch i Jenny Rathbone. Yn fy natganiad i, Llywydd, roeddwn i'n ceisio rhoi mwy o bwyslais eleni nag mewn datganiadau cynharach ar arwyddocâd is-ddeddfwriaeth a'r llwyth gwaith y mae hynny'n ei greu yma yn y Senedd; mae'n enfawr. Rydym ni wedi defnyddio llawer o'n hegni ni i basio deddfwriaeth sylfaenol. Pan wyf i'n meddwl am y Bil llywodraeth leol a ddygodd fy nghyd-Aelod i Julie James...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr i Adam Price am y sylwadau yna. Dwi'n cytuno, wrth gwrs, gyda beth ddywedodd e am y cyd-destun heriol. Siaradais i am COVID a Brexit, ond mae'n wir beth ddywedodd arweinydd Plaid Cymru am y cyd-destun gyda Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig. Dwi ddim yn cytuno gyda fe a Phlaid Cymru ar y pwynt o egwyddor roedd e'n codi am wrthwynebu LCMs. Pan fo pethau'n dod o flaen Tŷ'r...
Mark Drakeford: Ar gyfer 2026; rwy'n ymddiheuro.
Mark Drakeford: Fe fyddai hynny'n ôl-weithredol. Nid ydym ni'n hoff o ddeddfwriaeth ôl-weithredol, fel gwyddoch chi. [Chwerthin.] Ar gyfer 2026, ac fe fydd yn sefydlu comisiwn ffiniau i Gymru, a fydd yn gallu adolygu'r ffiniau hynny yn nhymor y Senedd nesaf a'u sefydlu nhw wedyn ar gyfer etholiadau wedi'r un nesaf. Pan gyflwynir y cynigion, fe fydd yna ddatrysiad i sicrhau y gallwn ni fynd ar drywydd ein...
Mark Drakeford: Llywydd, a gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am y ffordd adeiladol y mae ef wedi ymgysylltu â'r datganiad y prynhawn yma, ac am ei gynigion i ymgysylltu mewn ffordd adeiladol eto o ran nifer o'r Biliau y byddwn ni'n eu cyflwyno gerbron y Senedd? Roedd ef yn iawn i dynnu sylw at fwlch yn fy natganiad, oherwydd ni chyfeiriais i, rwy'n sylweddoli nawr, at ddeddfwriaeth y meinciau cefn ac,...
Mark Drakeford: Llywydd, mae agenda llawn o ddeddfwriaeth o'n blaen, ond mae'r rhain yn gerrig sylfaen pwysig tuag at y Gymru rydym am ei gweld. Er mwyn cyflawni'r agenda, byddwn yn parhau i weithio ar draws y Siambr hon i sicrhau ein bod yn gwneud y ddeddfwriaeth orau bosibl sy'n gwella bywydau holl bobl Cymru. Mae'r datganiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddyfodol tecach, gwyrddach a chryfach, ac rwy'n...
Mark Drakeford: Llywydd, mae datganiad blynyddol y rhaglen ddeddfwriaethol yn cael ei ddefnyddio fel arfer i gyhoeddi Biliau y bydd y Llywodraeth yn eu cyflwyno yn ystod y 12 mis nesaf. Fodd bynnag, mae'r Senedd yn craffu ar ddeddfwriaeth mewn continwwm, ac nid yw Biliau'n cwympo ar ddiwedd sesiwn. Felly, fe hoffwn i edrych ychydig ymhellach ymlaen at ddechrau trydedd flwyddyn y rhaglen a sôn am nifer o...
Mark Drakeford: Llywydd, fel soniais i'n gynharach, fe geir heriau sylweddol i'r Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa o ran rheoli'r pwysau deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a gychwynnir yma, yn ogystal â'r ddeddfwriaeth a gychwynnir yn San Steffan. I sicrhau bod y Senedd hon yn gallu cyflawni ei chyfrifoldebau hi a sicrhau bod gennym ni fwy o allu i graffu ar...
Mark Drakeford: Yn flaenoriaeth gynnar, Llywydd, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil i wahardd neu gyfyngu ar werthiant rhai o'r plastigau untro mwyaf cyffredin yng Nghymru. Fe fydd hynny'n bodloni ein hymrwymiad allweddol ni yn y rhaglen lywodraethu yn y maes hwn. Ond, yn ogystal â hynny, fe fydd y Bil hefyd yn cefnogi ein her gyfreithiol barhaus ni i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Yn yr ymgyfreitha...
Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n troi nawr at Filiau sydd i'w cyflwyno yn y flwyddyn i ddod. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i greu Cymru decach, wyrddach a chryfach. Cafodd y portffolio newid hinsawdd ei greu i'w gwneud yn haws i brif feysydd y Llywodraeth ddatganoledig gael yr effaith fwyaf yn y maes hwn. Mae dyletswydd foesol i ni wneud cynnydd ar yr agenda hwn, a byddwn yn cyflwyno nifer o Filiau i...
Mark Drakeford: Llywydd, er gwaethaf maint y pwysau deddfwriaethol hwn a'r cyd-destun heriol yn ystod blwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon, rydym ni eisoes wedi cyflwyno pedwar Bil sylfaenol i lawr y Senedd. Pasiwyd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) gan Aelodau'r wythnos diwethaf ac fe fydd hwnnw'n gosod system newydd ar waith ar gyfer addysg a hyfforddiant ar ôl-16 yng Nghymru. Bydd yr Aelodau yn...
Mark Drakeford: Llywydd, allwn ni chwaith ddim anwybyddu bwriadau deddfwriaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn yr hinsawdd bresennol, mae'r rhain yn creu risg sylweddol i Gymru ac i ddatganoli. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud bod 27 o'r Biliau a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines ym mis Mai yn debygol o ymestyn i Gymru a bod yn gymwys iddi. Mae eisoes yn amlwg y bydd llawer o'r rhain yn cynnwys...
Mark Drakeford: Ers dechrau mis Chwefror 2020, Llywydd, cafodd dros 300 o eitemau o is-ddeddfwriaeth eu llunio o ran coronafeirws yn unig, yn aml gydag effaith sylfaenol ar fywydau bob dydd ein cyd-ddinasyddion ni. Mae'r cynnydd presennol yn y niferoedd sydd â COVID, fel cafodd ei drafod gennym ni'r prynhawn yma, yn ein hatgoffa ni na ddaeth y daith hon fyth i'w diwedd. A, Llywydd, er bod maint yr...
Mark Drakeford: Diolch, Llywydd. Heddiw, mae hi'n bleser i mi wneud datganiad ynglŷn â'n rhaglen ddeddfwriaethol ni. Mae hon yn rhan hanfodol o'n rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a radical a fydd yn helpu i lunio Cymru'r dyfodol. Rydym ni bellach yn nhrydydd tymor y Senedd hon ers i bobl Cymru bleidleisio i roi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd lunio Deddfau Cynulliad. Ers 2011, rydym ni wedi...
Mark Drakeford: Dyw'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaeth sylfaenol ddim yn digwydd mewn gwagle. Mae pwysau eraill yn bodoli sy'n effeithio ar y Llywodraeth a'r Senedd. Mae gennym raglen sylweddol o is-ddeddfwriaeth sy'n cyd-fynd â'n rhaglen ddeddfwriaeth. Yn aml, mae diffyg dealltwriaeth ynglŷn â pha mor eang a phwysig yw is-ddeddfwriaeth. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd amlwg wedi bod o ran...
Mark Drakeford: Hapus i roi'r gorau iddi yn y fan yna. [Chwerthin.]
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, nid ydych chi'n cynnal ymarfer ymgynghori gan gael 1,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad heb glywed gan bob math o unigolion a grwpiau sydd ag amrywiaeth eang iawn o brofiadau ac amrywiaeth eang iawn o safbwyntiau ar y pwnc hwn. Nid wyf i'n credu y gallaf i wneud yn well nag ailadrodd yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog pan wnaeth hi ei datganiad. Mae'n amlwg mai dyma farn...