Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr anheddau y disgwylir i gynghorau eu hadeiladu eleni?
Mike Hedges: Yn gyntaf, a gaf fi ddweud wrth Dai Lloyd, pe na baem ni wedi cael ad-drefnu ac uno cynghorau ardal a thref, yna ni fyddem wedi cael y Cynulliad? Gwnaeth hynny wahaniaeth enfawr, oherwydd byddai wedi ychwanegu haen arall o lywodraeth, ac os edrychwch chi ar ba mor agos oedd canlyniad yr etholiad, ni fyddai wedi digwydd. Rwyf eisiau siarad am lywodraeth leol—rwyf bob amser eisiau siarad am...
Mike Hedges: Rwyf i'n croesawu'r datganiad. Un o'r problemau sydd gennym ni yw na ellir gweld deunydd gronynnol o fathau PM2.5 a PM10, ond maen nhw'n difrodi'r ysgyfaint drwy lidio a difa'r wal alfeolaidd ac, o ganlyniad, yn amharu ar weithrediad yr ysgyfaint. Mae angen aer glân arnom ni. A wnaiff y Gweinidog, ar y cyd â'i chyd-Weinidogion, ystyried y canlynol: gwahardd llosgyddion newydd heblaw am...
Mike Hedges: Diolch am yr ateb yna. Er mwyn ymdrin â'r newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni leihau allyriadau carbon ac, yn bwysicach, cynyddu nifer y planhigion, yn enwedig coed, er mwyn cael gwared ar garbon deuocsid o'r atmosffer. Pryd y bydd targedau blynyddol penodol ar gyfer Abertawe yn cael eu pennu?
Mike Hedges: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn Nwyrain Abertawe yn dilyn y datgniad am yr argyfwng newid hinsawdd? OAQ54030
Mike Hedges: Rwyf am dynnu sylw at waith Cymdeithas Calon Lân yn Abertawe. Yr unfed ar bymtheg o Fawrth 2020 yw canfed pen blwydd Daniel James, a oedd yn fwy adnabyddus fel Gwyrosydd, awdur un o'r hoff emynau, os nad yr hoff emyn Cymraeg, 'Calon Lân'. Doi Daniel James o Dreboeth yn Abertawe. Bu farw ei dad pan oedd yn ifanc. Daeth yn bwdler yng ngwaith haearn Treforys, ac yna bu'n gweithio yng ngwaith...
Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda phrifysgolion yng Nghymru i ddatblygu cyflogaeth yn sectorau cyflog uchel a thwf yr economi?
Mike Hedges: Nid yw'n broblem newydd, ond mae credyd cynhwysol wedi ei gwneud yn waeth i bobl ddi-waith. Gwnaeth pob un ohonom—neu gwnaeth y rhan fwyaf ohonom—ymladd etholiad a chawsom fis o'r gwaith pan nad oeddem yn cael unrhyw incwm. A sut y bu i ni oroesi? Cynilion a chardiau credyd. Sut y mae pobl nad oes ganddynt y rheini'n ymdopi pan fydd yn rhaid iddynt oroesi am fisoedd heb gredyd cynhwysol?...
Mike Hedges: Yn sicr.
Mike Hedges: Wel, mae'n anodd iawn, oherwydd mae pobl yn tueddu i weithio 40 neu 50 awr ar rai wythnosau. Yn anffodus, ar wythnosau eraill nid ydynt ond yn gweithio 10 awr. Ni allant gynllunio unrhyw beth. Mae gofal plant yn troi'n hunllef; mae ganddynt broblemau enfawr ar draws eu bywydau i gyd. Felly, ydy, mae'n anodd iawn bod yn rhan o helpu i redeg y tîm pêl-droed lleol os nad ydych chi'n gwybod a...
Mike Hedges: Hoffwn gysylltu fy hun â sylwadau Lynne Neagle a John Griffiths a'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedodd Leanne Wood. Credaf ein bod yn cytuno bron yn llwyr ar y materion hyn. Mae llawer gormod o bobl yng Nghymru, gan gynnwys llawer o blant, yn byw mewn tlodi, sy'n golygu nad ydynt yn cael digon o fwyd, maent yn byw mewn tai sy'n mynd i fod yn oer pan ddylent fod yn gynnes, ac maent yn byw mewn...
Mike Hedges: Rwy'n eithaf da fel arfer, Llywydd—
Mike Hedges: A gaf i groesawu'r penderfyniad? Mae angen mynd i'r afael â'r problemau traffig o amgylch Casnewydd ar adegau brig, ond mae'r M25 yn enghraifft inni o'r hyn sy'n digwydd gyda ffyrdd newydd: yn gyntaf oll mae'n cael ei adeiladu, yna ei ledu, yna ei droi i'r hyn a ddisgrifiwyd gan bobl fel y maes parcio mwyaf yng Ngorllewin Ewrop. Hoffwn gyflwyno rhai awgrymiadau ynghylch yr hyn y gellir ei...
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Croesawaf y datganiad o argyfwng newid yn yr hinsawdd. Credaf mai'r newid yn yr hinsawdd yw'r mater pwysicaf sy'n ein hwynebu heddiw. Mae'n debyg fy mod i mewn lleiafrif ond rwy'n credu mai dyma, yn sicr, yw'r mater pwysicaf. A wnaiff y Prif Weinidog lunio map ffordd o gamau gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru? Gallai hyn gynnwys pethau...
Mike Hedges: 2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r cabinet yn dilyn y datganiad am yr argyfwng newid hinsawdd? OAQ53936
Mike Hedges: Seiliwyd economi Cymru ar ôl y rhyfel ar amaethyddiaeth, glo a gweithgynhyrchu a phrosesu metel i gychwyn. Yna, gwelsom dwf gweithgynhyrchu ysgafn ac erbyn diwedd y 1980au, roedd Cymru’n denu mwy o fuddsoddiad uniongyrchol tramor nag unrhyw ranbarth neu genedl yn y DU. Llifai hyn i mewn i weithgynhyrchu ysgafn yn arbennig. Roedd cyfuniad o agosrwydd at farchnadoedd, llafur rhad, a...
Mike Hedges: Mae myfyrwyr rhwng tair a 18 oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Maent yn dysgu'r holl eiriau technegol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly nid ydynt yn gwybod y geiriau technegol yn Saesneg. Nid ydynt yn methu siarad Saesneg, ond mae'r geiriau technegol yn eiriau sy'n benodol i'r pynciau—dim ond y fersiynau Cymraeg y maent yn ei wybod. A wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog addysg...
Mike Hedges: Credaf mai'r ffordd orau o gael plant i ddysgu'r Gymraeg yw dechrau'n ifanc. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r cymorth sy'n cael ei roi i Ti a Fi a Mudiad Meithrin yn Abertawe?
Mike Hedges: Wel, hoffwn ychwanegu trydydd awgrym, heb anghytuno â'r ddau gyntaf. Y broblem yw bod gennym gynllun rhyddhad ardrethi cyffredinol, ac ni chredaf y dylai tai fod yn rhan o gynllun rhyddhad ardrethi cyffredinol. Felly, pam na all Llywodraeth Cymru eithrio tai rhag rhyddhad ardrethi a gwrthod derbyn tai fel busnesau, ac eithrio mewn pentrefi gwyliau dynodedig, fel y byddai'n rhaid iddynt...
Mike Hedges: Rwy'n croesawu yn fawr iawn ddatganiad y Llywodraeth heddiw, ac a gaf i ddweud y byddaf yn osgoi dweud unrhyw beth y mae John Griffiths a David Melding wedi'i ddweud hyd yn hyn, ond rwy'n cytuno â phopeth y mae'r ddau ohonyn nhw wedi'i ddweud? Y lleiaf y dylem ei ddisgwyl gan annedd yw ei bod yn ddiogel rhag y gwynt, yn dal dŵr ac yn bwysicach oll, yn ddiogel. Rwy'n credu mai dyna'r hyn y...