Caroline Jones: Hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog am gymryd yr amser i gysylltu â mi ddoe, i drafod pethau â mi, ac i roi datganiad imi y bore yma. Rwy’n gwerthfawrogi, tra yr ydym yn y camau ymgynghori ar y pwnc hwn ac nad yw y ddeddfwriaeth ar waith eto, ei fod yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth arfaethedig fel un sy’n dileu amddiffyniad cosb resymol. Mewn termau symlach, bydd y cyhoedd yn gyffredinol...
Caroline Jones: Rhoi diwedd ar ddigartrefedd yw un o'r rhesymau allweddol pam y dechreuais ymhél â gwleidyddiaeth. Mor ddiweddar â nos Lun, pan fynychais ddigwyddiad yng Nghaerdydd, deuthum wyneb yn wyneb â sefyllfa drist dau ŵr digartref a oedd angen paned o goffi. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae digartrefedd yn rhywbeth i resynu ato'n foesol. Yn y gwasanaeth carchardai, gwelais lawer o...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y 12 mis diwethaf ar leihau nifer y plant a phobl ifanc sy'n aros am apwyntiad CAMHS. Rwy'n croesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar y mater hwn. O ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol, rydym wedi torri dros ddwy ran o dair oddi ar y nifer sy'n aros am driniaeth. Fodd bynnag, mae gennym dros 500 o blant a phobl ifanc...
Caroline Jones: Diolch i chi unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dewis yn ddoeth yn galw am gael y wybodaeth gywir wrth law. Mae gan Galw Iechyd Cymru a gwasanaeth 111 rôl i'w chwarae yn darparu gwybodaeth o'r fath i gleifion, gan eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a'u cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol. Fy mwrdd iechyd lleol oedd yr ardal beilot ar gyfer y gwasanaeth 111, felly a allech chi...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mewn ychydig dros 10 diwrnod, bydd y GIG unwaith eto yn profi gwyrth y Nadolig, lle mae'r wardiau'n wag ar noswyl Nadolig ond yn llenwi drachefn ar ddydd San Steffan. Os ydym am osgoi yr hyn a welwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol lle roedd ambiwlansys mewn ciw y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, mae'n rhaid i ni leihau'r...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf y ffaith fod ychydig dros 3 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, ymwelwyd â'n hadrannau damweiniau ac achosion brys dros 1 filiwn o weithiau yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae cynnydd o tua dwy ran o dair wedi bod yn nifer y bobl sy'n aros mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae'r cyfryngau wedi adrodd bod un meddyg...
Caroline Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd wrth ddelio â galwadau lle y ceir bygythiad uniongyrchol i fywyd, ond heb fod mor dda mewn perthynas â galwadau ambr. Y mis diwethaf, arhosodd dros 35 y cant o alwadau ambr dros hanner awr am ymateb ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Roedd yr amser aros hiraf yng Nghymru yn 23 awr, ac mae hynny'n syfrdanol. O gofio...
Caroline Jones: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51478
Caroline Jones: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed? OAQ51479
Caroline Jones: Prif Weinidog, rydym ni'n colli cyfartaledd o 2.5 diwrnod fesul cyflogai i absenoldeb sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl bob blwyddyn. Amcangyfrifir hefyd bod presenoldebaeth,pan fo materion iechyd meddwl yn gwaethygu perfformiad gwaith, yn costio tua £15 biliwn y flwyddyn i'r DU. Amcangyfrifir na fydd y driniaeth orau ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl ddim ond yn lleihau effaith salwch...
Caroline Jones: Gwnaf.
Caroline Jones: Felly, a ydych yn bychanu trosedd heb feddwl am y dioddefwr felly, David? Oherwydd yr hyn rydych yn ei ddweud yw bod troseddu'n ddibwys, neu fod rhai troseddau'n ddibwys. Nid yw hynny'n wir pan fo'n cynnwys dioddefwr—
Caroline Jones: Wel, rydych newydd ei ddweud. Rhaid i ni fynd i'r afael â gorlenwi, ac yn anffodus, mae hynny'n golygu adeiladu rhagor o garchardai. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru bum carchar, ac eto caiff nifer fawr o garcharorion o Gymru eu cadw mewn carchardai yn Lloegr. Mae rhai o wrthwynebwyr y carchar yn honni bod Cymru yn dod yn y Fae Botany newydd, yn dod yn domen sbwriel ar gyfer carcharorion o...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar fater pwysig sy'n wynebu fy rhanbarth. Rwy'n byw ym Mhort Talbot, a rhaid i mi ddweud ar y dechrau nad wyf, mewn egwyddor, yn gwrthwynebu sefydlu carchar newydd ym Mhort Talbot—mewn egwyddor. Er gwaethaf protestiadau llawer o bobl sy'n gwrthwynebu'r carchar newydd, mae angen carchar newydd ar Gymru yn...
Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn rhoi pwyslais o'r newydd ar dyfu economi sy'n cael ei sbarduno gan ddata ac ar ehangu ymchwil a datblygu mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial. Mae bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe hefyd yn canolbwyntio ar yr economi ddigidol, a dylent fod mewn sefyllfa ddelfrydol i ysgogi'r buddsoddiad...
Caroline Jones: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU ar fargen ddinesig bae Abertawe? OAQ51425
Caroline Jones: Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y pwnc pwysig hwn. Fel y dywedais yn ystod y cwestiynau yr wythnos diwethaf, mae ansawdd aer gwael yn un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn y rhanbarth yr wyf i'n ei chynrychioli, Gorllewin De Cymru, sydd â pheth o'r aer butraf yn y DU, lle mae mater gronynnol 10 yn aml yn llawer uwch na'r terfyn dyddiol diogel,...
Caroline Jones: Prif Weinidog, fel pob gwasanaeth iechyd meddwl, mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru yn wynebu'r pwysau deublyg o alw cynyddol a phrinder staff. Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, tynnodd bron i bob bwrdd iechyd lleol sylw at y ffaith fod diffyg seicolegwyr clinigol digonol yn effeithio ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i famau newydd....
Caroline Jones: Ydw, a rhaid inni reoli'r hyn a gawn yn ofalus iawn. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith mai ardal awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot yw'r ardal waethaf yng Nghymru ar gyfer symudedd cymdeithasol. Y gwir plaen yw bod bron i chwarter ein poblogaeth yn byw mewn tlodi er gwaethaf dau ddegawd o bolisïau economaidd Llywodraeth Cymru a dros £4 biliwn o arian strwythurol gan yr Undeb...
Caroline Jones: [Torri ar draws.] Ydw, yn sicr. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau gweld Cymru ar blaen o safbwynt ynni'r llanw, a gobeithiaf nad yw'r diffyg newyddion ar y mater hwn gan Lywodraeth y DU yn arwydd o newyddion drwg i ddod. Er gwaethaf y diffyg eglurder ar y morlyn llanw, fe wnaeth cyllideb yr hydref ddarparu rhywfaint o newyddion da i Gymru. Rydym wedi gweld cynnydd yng nghyllideb Cymru...