Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Gwelliant 35, nid ydym wedi ymdrin ag ef, felly diolch i chi'ch dau. A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn i chi, Weinidog, am ymgysylltu â ni ar gwestiwn yr adolygiad? Credaf fod hwn yn wirioneddol bwysig. Credaf mai'r hyn sy'n ganolog i hyder mewn unrhyw adolygiad, fodd bynnag, yw gallu'r Senedd hon i helpu i'w lunio—i gael atebion i'r...
Suzy Davies: Diolch ichi am dderbyn yr ymyriad, Weinidog. Rwy'n ddiolchgar am y sicrwydd hwnnw. Os gallwch roi rhyw fath o arweiniad—. O, a gaf fi ofyn i chi roi sicrwydd arall, felly, mai dyma fyddai un o'r setiau cyntaf o reoliadau y byddwch yn eu cyflwyno, cyn belled â bod CThEM yn hapus gyda'r hyn y bwriadwch ei wneud?
Suzy Davies: Ie, diolch i chi, Janet. Mae is-adran 1 o adran 6 y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion wneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau neu apelau i'r tribiwnlys haen gyntaf yn erbyn penderfyniadau ynghylch cymhwysedd i gael cyllid o dan y Bil. A buaswn yn dweud bod angen i'r Bil hwn gynnwys hawl i apelio, nid yn unig caniatáu i Weinidogion ystyried cynnwys un pan fydd ganddynt amser i wneud hynny. Fel...
Suzy Davies: A wnewch chi ildio?
Suzy Davies: Mae'n ddrwg gennyf, cyn inni symud ymlaen—diolch ichi, Weinidog—yr holl bwynt yw, os oes angen cyflwyno'r rheoliadau hyn, nid yw'r pŵer yn ddigon cryf; dylai fod gennych ddyletswydd. Dyna oedd holl ddiben fy ngwelliannau 15 ac 16.
Suzy Davies: Aelodau, nid yw gwelliant 15 ond yn cyflwyno dyletswydd ar Weinidogion i gyflwyno'r rheoliadau hynny er mwyn diffinio oed y plant y gall eu rhieni wedyn ddibynnu ar y ddeddfwriaeth hon. Er gwaethaf y ddyletswydd sydd i'w chroesawu'n fawr yng ngwelliant 4, sydd mewn gwirionedd yn rhwymo Gweinidogion i ariannu'r cynnig gofal plant, mae methiant tebygol ein gwelliant 22 yn golygu nad ydym fymryn...
Suzy Davies: Wrth gwrs, nod y Bil yw cael rhieni plant o oedran amhenodol i mewn i waith neu eu cadw yn y gwaith drwy gyflwyno cyfnod amhenodol o ofal plant wedi'i gyllido, ac yn naturiol, mae angen iddo fod yn glir beth a olygir wrth 'rhiant', ac mae'n llwyddo i wneud hynny yn adran 1(7)(a) drwy gyfeirio at gyfrifoldeb rhiant fel y'i diffinnir yn Neddf Plant 1989, ac yna'n llai llwyddiannus yn 1(7)(b)...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Mae'n ddrwg gennyf, er eglurder yn unig. A ydych yn dweud felly fod y diffiniad o 'ofal plant' yn Neddf 2006 yn anghywir?
Suzy Davies: Gelwir y Bil hwn yn Fil Cyllido Gofal Plant Cymru, a bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw yng Nghyfnod 2 ac rydym wedi bod, wel, yn anhapus ynglŷn â'r ffaith bod gennym Fil caws Swistir arall eto wedi'i osod ger ein bron. Er fy mod yn ddiolchgar i chi am gyflwyno'r gwelliant yn y grŵp hwn, nid yw'n rhoi eich polisi o'ch maniffesto, a'r polisi o'n maniffesto...
Suzy Davies: Gwaddol y Prif Weinidog sydd o dan y chwyddwydr heddiw. Rydym ond newydd lunio ein polisi ein hunain yr wythnos hon ar sut i wella tai a darpariaeth ar gyfer hynny yng Nghymru, felly ni allwch ddweud nad oes gennym syniadau. Ond nid heddiw yw'r dydd ar eu cyfer hwy. Byddwch yn cael digon gennym dros yr ychydig flynyddoedd nesaf—peidiwch chi â phoeni am hynny. Yn ôl y disgwyl, wrth gwrs,...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu efallai y dylwn ddechrau drwy gydnabod bod Estyn yn dweud eu bod yn fodlon fod cynnydd wedi bod yn y sector cynradd. Ond rwy'n credu mai bradychu'r bobl ifanc hynny a wneir os ydynt wedyn yn symud ymlaen i ysgolion lle mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion—ac rwy'n golygu'r rhan fwyaf—ar draws yr ystod oedran a'r...
Suzy Davies: Wrth gwrs, nid yw o reidrwydd yn hawdd i gynghorau sy'n ceisio gwneud y gorau o'r arian sydd ganddynt er mwyn adfywio canol eu dinas—yn achos Abertawe—a gwella'r economi leol yno. Mewn adroddiad cabinet gan y cyngor yno fis diwethaf, nodwyd bod perygl nad oes gan yr awdurdod lleol ddigon o adnoddau i gwblhau cam 1 ei gynllun i adfywio canol y ddinas—Canol Abertawe. Mewn ymateb i'r...
Suzy Davies: Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r holl awdurdodau lleol yn fy ardal yn cael eu harwain gan y Blaid Lafur, ac maent hwy hyd yn oed yn dechrau dweud na ellir diogelu ysgolion a gofal cymdeithasol, gydag un ohonynt yn dweud hyd yn oed na all Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio cyni fel esgus dros beidio â chaniatáu i lywodraeth leol ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r holl...
Suzy Davies: 1. O ystyried bod adroddiad diweddar Estyn yn datgan y gallai ysgolion uwchradd yng Nghymru wneud yn well, gyda dim ond hanner wedi'u barnu i fod yn dda neu'n ardderchog ar hyn o bryd, pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y codir safonau ar draws holl ysgolion uwchradd Cymru? 242
Suzy Davies: Diolch i chi, Cwnsler Cyffredinol, am y datganiad hwn, a hefyd am y sylwadau tuag at y diwedd ynghylch y ffaith na fydd y Bil hwn yn sefyll ar ei ben ei hun, heb ystyriaeth i wahaniaethau gwleidyddol o ran awdurdodaeth ac ati, fel na fyddwn yn mynd ar ôl yr ysgyfarnog honno yn ystod hynt y Bil hwn. Hefyd, rwy'n gobeithio na fydd ots gennych chi, ond nid wyf i mewn sefyllfa i ateb yr union...
Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru?
Suzy Davies: Mae parcffordd Abertawe, sydd wedi'i lleoli'n briodol i'r gogledd o'r ddinas, yn golygu y gall pobl deithio'n fwy cyflym o'r dwyrain i'r gorllewin o fewn y rhanbarth ac i'r dwyrain o'r rhanbarth, yn ogystal â helpu i gadw'r bont dir hollbwysig rhwng Iwerddon a gweddill y DU ac yna ymlaen i'r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn oll ynddo'i hun yn arbed amser i deithwyr nad oes angen iddynt fynd i mewn...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd, a phawb arall.
Suzy Davies: Mae hi bob amser yn braf dechrau dadl gyda chytundeb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ar yr achlysur hwn, diddordeb cyffredin ydyw yn llwyddiant bargen ddinesig bae Abertawe. Efallai ei fod yn dweud 'Abertawe' yn y teitl, ond mae'r cyfleoedd ar gyfer ardaloedd awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot, sir Gaerfyrddin a sir Benfro yr un mor gyffrous. Rydym yn sôn am bron i 10,000 o swyddi newydd a...