Mark Isherwood: Mwy na chwe wythnos i mewn i'r cyfyngiadau symud, mae'r eiriolwr defnyddwyr Which? wedi cyhoeddi eu canfyddiadau bod miloedd o bobl risg uchel iawn neu eithriadol agored i niwed ledled y DU yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y bwyd a'r cyflenwadau sylfaenol y maen nhw eu hangen yn ddybryd yng nghanol y pandemig coronafeirws. Ar sail y nifer enfawr o adroddiadau y maen nhw'n eu gweld gan...
Mark Isherwood: Er bod y grant busnes atodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr yn cynnwys grantiau i fusnesau gwely a brecwast sy'n talu ardrethi domestig yn hytrach nag ardrethi busnes, hepgorodd Llywodraeth Cymru hyn pan estynnodd ei chynllun grant COVID-19. Felly, sut ydych chi'n ymateb i berchnogion busnesau gwely a brecwast yn y gogledd sydd wedi gofyn imi ddweud wrthych, os na fyddant yn...
Mark Isherwood: Gan gyfeirio at eich cyfrifoldeb dros dwristiaeth yng Nghymru ac i Gymru, mae parciau gwyliau a llawer o fusnesau twristiaeth eraill yn cael y rhan fwyaf o'u hincwm blynyddol rhwng y Pasg, sydd eisoes wedi'i golli, a hanner tymor mis Hydref. Hyd yn oed os ydynt yn llwyddo i gadw eu pennau uwchben y dŵr yr hydref hwn, maent yn ofni y byddant yn mynd i'r wal dros y gaeaf gan effeithio ar y...
Mark Isherwood: Cysylltodd nifer o fusnesau llety gwyliau yng ngogledd Cymru â mi pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru feini prawf diwygiedig ar gyfer grantiau cymorth busnes, a hynny ar eu cyfer hwy yn unig. Dywedodd un eu bod yn rhan hanfodol o incwm llawer o ffermwyr; mae'r broses yn araf ofnadwy ac mae hynny'n achosi gofid mawr i fy etholwyr. Gofynnodd un arall, 'Sawl busnes hunanddarpar sy'n mynd i orfod...
Mark Isherwood: Mae eich cyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, wedi cadarnhau wrthyf i y bydd y £95 miliwn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU am gyllid ychwanegol i lywodraeth leol yn Lloegr yn mynd i mewn i gronfa ganolog Llywodraeth Cymru. O ystyried y sylwadau yr ydych wedi eu gwneud, sut y byddwch chi'n mynd i'r afael ag effeithiau COVID-19 ar gyllid...
Mark Isherwood: [Anhyglyw.]—dylai ysgolion yng Nghymru gau mewn ymateb i COVID-19, ac eithrio gwneud darpariaeth ar gyfer plant sy'n agored i niwed neu blant y mae eu rhieni yn rhan hanfodol o'r ymateb i COVID-19. Fe ddywedsoch fod plant sy'n agored i niwed yn cynnwys y rhai sydd â chynlluniau gofal a chymorth a datganiadau o anghenion addysgol arbennig, ac rwy'n cymeradwyo'r holl staff ar y rotâu ar...
Mark Isherwood: Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ar 11 Ebrill ei bod yn gweithio gydag elusennau yn Lloegr i ddarparu £2 filiwn ychwanegol ar gyfer llinellau cymorth a chymorth ar-lein ar gyfer cam-drin domestig. Bron i bythefnos yn ddiweddarach, ysgrifennodd Cymorth i Ferched Cymru at eich Dirprwy Weinidog yn datgan bod gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Mewn llythyr atoch ddydd Llun, dywedodd Autistic UK Cymru fod rheoliadau Cymru—y rheoliadau diogelu iechyd cyfyngiadau coronafeirws—wedi cael eu hysgrifennu mewn ffordd sy'n drysu pobl awtistig ymhellach. Yn Lloegr, gall pobl ag anghenion meddygol penodol, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu neu awtistiaeth sydd angen ymarfer corff penodol adael eu cartrefi i ymarfer...
Mark Isherwood: 'rhan fwyaf o’r dystiolaeth a gafwyd yn gwrthwynebu’r darpariaethau sy’n caniatáu i brif gynghorau ddewis eu system bleidleisio eu hunain.' Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol hefyd yn nodi y byddai cost ychwanegol pe byddai prif gyngor yn dewis newid ei system bleidleisio, ond nad yw'r costau hyn yn hysbys ar hyn o bryd. Mae'n destun pryder mawr felly fod y Gweinidog wedi gwrthod...
Mark Isherwood: [Anhyglyw.]—ymarferiad torri-a-gludo yn cynnwys, o bosib, 28 o ddarpariaethau a gynhwyswyd ym Mhapur Gwyn llywodraeth leol Mark Drakeford o 2017, y'i rhoddwyd o'r neilltu yn wreiddiol. Yn ei ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn â dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â deddfwriaeth yng ngoleuni COVID-19 yr wythnos diwethaf, gofynnodd y Prif Weinidog i'r Senedd Cymru hon weithio gyda Llywodraeth...
Mark Isherwood: Pa bolisi neu ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi ynghylch sicrhau y gall gweithwyr allweddol anfon eu plant i leoliadau sy'n cynnig darpariaeth gofal addysgol? Mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi, yn staff hanfodol y GIG sy'n byw yn Sir y Fflint, neu bobl yn siarad ar eu rhan, y dywedwyd wrthyn nhw bod yn rhaid i'r ddau riant fod yn weithwyr hanfodol i fod yn gymwys, ac mae...
Mark Isherwood: Yn ddiweddar, cefais y pleser o ailedrych ar brosiect peirianneg mawr Rheilffordd Llangollen yng ngorsaf ganolog Corwen, a gaiff effaith aruthrol ar hybu twristiaeth yn y rhanbarth, er mwyn gweld drosof fy hun y cynnydd y maent wedi'i wneud. Rwyf bob amser yn rhyfeddu at yr hyn y mae grŵp o wirfoddolwyr ag oedran cyfartalog o 68, sy'n gweithio ar sail ran-amser, yn gallu ei gyflawni....
Mark Isherwood: Mae dwy flynedd bellach, rwy'n credu, ers i'r comisiynydd plant gynhyrchu ei hadroddiad dilynol ar hygyrchedd i ddefnyddwyr cadair olwyn mewn ysgolion yng Nghymru, 'Bywydau Llawn: Mynediad Cyfartal', a nodai nifer o feysydd i'w gwella, gyda rhai ohonynt yn ddyletswyddau llym o dan Deddf Cydraddoldeb 2010, a rhai nad oeddent. Daeth i'r casgliad, er enghraifft, fod 'gor-ddibyniaeth... ar...
Mark Isherwood: 9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dileu rhwystrau rhag mynediad i ddisgyblion anabl mewn ysgolion? OAQ55247
Mark Isherwood: 11. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ55246
Mark Isherwood: Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Yn dilyn eich cynhadledd i'r wasg gydag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y bore yma, adroddwyd y dywedodd yntau y gellid cwtogi ar gasgliadau biniau a gwasanaethau eraill y cyngor yn ystod yr argyfwng ac fe'ch dyfynnwyd yn dweud na fyddai cwtogi yn syth ond bod yn hynny dan ystyriaeth ar gyfer yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod. Tybed a...
Mark Isherwood: Diolch, Llywydd. Dirprwy Lywydd, nid Llywydd. Mae'n ddrwg gen i. [Chwerthin.] Iawn.
Mark Isherwood: Yn gyntaf, ar ran rhai rhieni sy'n hunanynysu oherwydd bod gan eu plant gyflyrau sylfaenol, maen nhw wedi dweud, 'Er bod y prif swyddog meddygol wedi dweud wrthym ni y caiff plant eu harbed o gymharu ag oedolion, pa gyngor y byddech chi'n ei roi i rieni plant sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol o dan yr amgylchiadau presennol?' Yr ail fater, ar ran menywod beichiog—yn amlwg, dywedwyd wrthyn...
Mark Isherwood: Diolch, Llywydd. Sut ydych chi'n ymgysylltu â sefydliadau ambarél busnes ledled Cymru? Fe fyddwch yn ymwybodol, er enghraifft, bod Twristiaeth Gogledd Cymru wedi cael llif o alwadau gan aelodau yn gofyn am gymorth ac arweiniad. Felly, sut ydych chi'n manteisio i'r eithaf ar y cyfle o ddefnyddio pwyntiau mynediad eraill i gasglu gwybodaeth ond hefyd i rannu gwybodaeth? Rydych chi wedi...
Mark Isherwood: Diolch. O ystyried yr amgylchiadau, hoffwn ohirio'r cwestiwn yr oeddwn i'n mynd i'w ofyn ac, yn hytrach, gofyn cwestiwn i chi yr wyf i wedi ei gael gan y cynghorydd amrywiaeth annibynnol, sef cydgysylltydd yr heddlu ar gyfer Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yr Heddlu yn y gogledd, ac sy'n gweithio gyda Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru yn datblygu a darparu hyfforddiant, ac...