Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Llywydd, a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Mae'n beth gwirioneddol gadarnhaol i ni gael clywed am yr ymateb i'ch galwad am gynigion, ac edrychaf ymlaen at ryddhau rhestr lawn o’r ymgeiswyr llwyddiannus. Gwn na allwch chi rannu gormod o fanylion eto, ond mae'n wirioneddol hyfryd i glywed am gynnwys busnesau sefydliadol bach yn y rhaglen hon,...
Vikki Howells: Prif Weinidog, er gwaethaf y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran lleihau tlodi tanwydd yng Nghwm Cynon a ledled Cymru trwy gyfres o gamau gweithredu ymarferol Llywodraeth Cymru, mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd tlodi tanwydd yn cael ei ddileu erbyn y targed o 2018 a nodwyd yn flaenorol. A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r strategaeth tlodi tanwydd yng ngoleuni hynny, ac, os felly,...
Vikki Howells: 3. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghwm Cynon? (OAQ51248)
Vikki Howells: Hoffwn longyfarch yr ACau y cyflwynwyd y ddadl hon yn eu henwau heddiw. Ar gyfer fy nghyfraniad, hoffwn gyfeirio fy sylwadau at ail ran y cynnig sy’n ymwneud â cherbydau trydan. Mae nifer y cerbydau trydan a hybrid ar ffyrdd Cymru wedi codi’n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chynnydd 25 gwaith drosodd yn y pedair blynedd rhwng 2012 a 2016. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y...
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cod ymarfer ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth moesegol ymhlith busnesau sy’n cael cyllid cyhoeddus yn cynnig nodau clir ar gyfer sut y gall y sector preifat helpu i ddod â chaethwasiaeth fodern i ben. Nawr, mae busnesau fel y Co-operative Group yn arwain y frwydr drwy gynnig lleoliadau gwaith â thâl i ddioddefwyr...
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, yn aml, gall cyn-aelodau o’r lluoedd arfog ei chael hi’n anodd cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth newydd, er gwaethaf y cyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy sydd ganddynt, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r sylw y mae’r mater hwn wedi’i gael yn y cyfryngau yn ddiweddar. Yn eich ateb i David Rowlands, fe gyfeirioch at gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn...
Vikki Howells: 11. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o raddfa a chwmpas chaethwasiaeth fodern yng Nghymru? OAQ51200)
Vikki Howells: Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru?
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad heddiw. Ac fel cyn-athro ysgol uwchradd fy hun, rwy’n cytuno'n llwyr fod hwn yn fater cymhleth, ac nad oes un dull o gofrestru ar gyfer TGAU sy'n addas i bawb. Mae’n rhaid inni sicrhau bod disgyblion yn cael amser i gyflawni eu potensial llawn, nid eu cofrestru'n gynnar, a'u hannog i fancio gradd is nag y gallent fod wedi ei...
Vikki Howells: Prif Weinidog, rwy'n falch iawn bod fy etholaeth i, Cwm Cynon, wedi elwa gan fwy na £100 miliwn mewn cyfleusterau addysgol newydd a gwell o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac rwyf yn deall bod hynny’n fwy nag unrhyw etholaeth arall yng Nghymru. Gwn eich bod chi’n bresennol, dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, yn agoriad swyddogol campws newydd £22 miliwn Coleg y Cymoedd yn...
Vikki Howells: 2. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyrannu cyllid o dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystod tymor y Cynulliad hwn? (OAQ51210)
Vikki Howells: Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, roedd yn bleser cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, a hefyd yn yr adroddiad a’i dilynodd. Buaswn hefyd yn hoffi diolch i bawb a roddodd eu hamser i gyfrannu at ein hymchwiliad. Yn amlwg, y bws yw’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddiwn fwyaf, ond dyma’r ffurf fwyaf cynhwysol ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Dyma’r unig fath...
Vikki Howells: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r achosion diweddar o gorlenwi ar wasanaethau rheilffyrdd y cymoedd?
Vikki Howells: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y clybiau hwyl a chinio gwyliau ysgol a gynhaliwyd yr haf hwn?
Vikki Howells: Diolch, Llywydd, am alw arnaf i siarad heddiw. Mae'r ddadl hon yn nodi datblygiad arall eto yn y daith ddatganoli a ddechreuodd ychydig dros 20 mlynedd yn ôl. Yn wir, er gwaethaf y rhybuddion difrifol gan Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn gweld bod llawer i fod yn obeithiol yn ei gylch, o ran y pellter yr ydym ni wedi teithio a'r cynigion gwario y mae wedi eu hamlinellu. Mae Ysgrifennydd y...
Vikki Howells: Mae’n bleser gallu cyfrannu at yr ymchwiliad hwn ac at yr adroddiad a ddeilliodd ohono hefyd, fel Aelod dros etholaeth yn y Cymoedd, lle y ceir angen mor daer am welliannau i’r seilwaith rheilffyrdd. Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar ychydig o’r argymhellion. Yn gyntaf oll, mae argymhelliad 10 yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn ateb y galw yn y dyfodol. Fel y...
Vikki Howells: Ar ddydd Iau 7 Medi ymunais ag aelodau o’r gymuned leol i ddathlu agor siop gydweithredol newydd ar Canal Road yng Nghwm-bach, yn fy etholaeth. A dweud y gwir, roeddwn wrth fy modd fy mod wedi cael gwahoddiad i agor y siop yn ffurfiol. Mae’r datblygiad £0.5 miliwn wedi dod ag adeilad gwag yn ôl i ddefnydd, gan ddarparu adnodd cymunedol amhrisiadwy a chreu 16 o swyddi newydd sbon. Bydd...
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn i ganolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar faterion yn ymwneud â dystonia, sef y trydydd cyflwr niwrolegol mwyaf cyffredin yng Nghymru, ond mater y mae’r ymwybyddiaeth ohono yn brin ar y cyfan ymysg y cyhoedd. Ac fe hoffwn ddiolch ichi am ddod i'm hetholaeth a chyfarfod ag etholwyr sy'n aelodau o grŵp cymorth dystonia de Cymru, a gwrando ar eu...
Vikki Howells: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod tymor y Cynulliad hwn i wella profiadau defnyddwyr ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru?
Vikki Howells: Prif Weinidog, hoffwn i groesawu'r ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol i fodel newydd o ddatblygu economaidd sy'n canolbwyntio ar y rhanbarth. Rwy'n credu bod hynny'n arbennig o bwysig yn wyneb Brexit a cholli'r arian rhanbarthol y byddwn ni’n ei brofi o ganlyniad i hynny. Fodd bynnag, mewn cyhoeddiadau diweddar ar ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau twf rhanbarthol, ymddengys bod y...