Jeremy Miles: O'n cyfarfod ym mis Rhagfyr, rwy'n gwybod y byddwch yn ymwybodol na allwn atal ysgolion yn gyfreithiol rhag casglu a defnyddio data biometrig. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r trafodaethau a'r materion y mae'r Aelod wedi ein helpu i'w deall yn well, mae swyddogion wrthi'n adolygu'r canllawiau i ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau, pan gaiff data ei gasglu a'i ddefnyddio, ei fod yn cael...
Jeremy Miles: Wel, bydd angen imi atgoffa fy hun mewn cyd-destun gwahanol o sylfaen statudol rhai o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn ei chwestiwn a rhai o'r cwestiynau penodol ynghylch y manylion llywodraethu y mae'n cyfeirio atynt, ac rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud ar hyn o bryd yw bod rhaglen ddiwygio sylweddol iawn ar y gweill mewn perthynas â chymwysterau yng...
Jeremy Miles: A gaf fi wneud sylwadau ar y pwynt cyntaf y mae'r Aelod yn ei wneud mewn perthynas â'n huchelgeisiau ar gyfer y system addysg yng Nghymru? Ac rwy'n cytuno â hi fod yr egwyddor sy'n sail i'r system addysg uwch yng Nghymru yn llawer mwy blaengar na'r hyn a ddywedai sy'n digwydd dros y ffin mewn perthynas â chyllid myfyrwyr. Mae'n amlwg y bydd yn gwybod bod pob myfyriwr israddedig amser llawn...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n anghytuno â'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch prinder cyffredinol o athrawon yn ein system. Nid wyf yn credu bod hwnnw'n adlewyrchiad teg o'r sefyllfa yr ydym ynddi o bell ffordd, ond byddwn yn cytuno â'r teimlad yn ei chwestiwn ynghylch pa mor bwysig yw hi ein bod ni yng Nghymru yn gallu estyn ein croeso i'r rhai sy'n gadael ac yn ffoi o Wcráin. A bydd yr Aelod wedi...
Jeremy Miles: Rwy'n cytuno â'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio o ran recriwtio. Wrth gwrs, mae gennym gynllun cymhelliant i annog athrawon i bynciau fel y rhai y cyfeirir atynt, sydd wedi bod yn heriol o ran recriwtio yn y gorffennol. Ac mewn gwirionedd, mae'r cynlluniau hynny'n arwain at ganlyniadau buddiol. Rwy'n credu bod cymysgedd o heriau, mewn gwirionedd. Un o'r agweddau ar ddiwygio addysg a allai...
Jeremy Miles: Wel, byddwn yn anghytuno â'r argraff y mae'r cwestiwn yn ei roi, mae arnaf ofn, sef bod hon yn her sy'n benodol i Gymru. Nid yw hynny'n ei wneud yn llai o her yng Nghymru, ond mae'n dweud rhywbeth wrthym am natur yr her, sef bod dirywiad cyffredinol, mewn gwirionedd, mewn ieithoedd tramor modern ledled y DU. Felly, rwy'n credu ei bod yn sefyllfa drist y mae'n rhaid i bob un o bedair gwlad y...
Jeremy Miles: Wel, mae prifysgolion wedi darparu ystod o wahanol ffyrdd y gall myfyrwyr barhau â'u haddysg, hyd yn oed yn amgylchiadau heriol iawn y ddwy flynedd ddiwethaf mewn gwirionedd. Ac mae hynny wedi golygu cynnig dull cyfunol, ac rwy'n siŵr na fyddai'r un ohonom eisiau ei weld fel y norm, ond mae wedi bod yn ffordd o gynnal profiad myfyrwyr, a hynny gyda rhywfaint o arloesedd ar rai campysau yn...
Jeremy Miles: Wel, roeddwn i eisoes wedi gwneud fy nisgwyliadau’n glir i’r sector. Mae'n bwysig bod y negodiadau sy'n digwydd yn cyrraedd setliad sy'n adlewyrchu cyfraniad a buddiannau'r staff. Mae hynny'n bwysig o ran y gallu i sicrhau darpariaeth addysg uwch, ond hefyd o ran sicrhau ein bod yn gallu denu pobl i mewn—myfyrwyr ac i ddysgu hefyd. Rwyf hefyd wedi esbonio bod angen bod yn dryloyw ac yn...
Jeremy Miles: Wel, credaf fod y cwestiwn yn fodel o graffu trawslywodraethol, o ran—[Torri ar draws.]—o ran ei ehangder a'i gwmpas, sy'n ganmoladwy. Rwy'n credu, braidd yn groes i'r sylwadau y clywais yr Aelod yn eu gwneud y bore yma am y cynigion y mae'r Llywodraeth yn eu cyflwyno mewn perthynas â'r dreth gyngor er budd rhai o'r cymunedau y mae'n eu nodi'n briodol yn ei chwestiwn—[Torri ar draws.]...
Jeremy Miles: —fel pryder penodol i lawer ohonom yn y Siambr hon. Gwn o'r trafodaethau a gawsom mewn lleoliad preifat ei bod yn rhannu llawer o'r pryderon hynny hefyd. Byddwn yn anghytuno â'r ffigurau a roddwyd gennych mewn perthynas â darpariaeth tai, a gwn fod fy nghyd-Aelod yma, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn anghytuno'n angerddol â hwy wrth fy ochr i yma hefyd. Ond rwy'n croesawu ei hymrwymiad i...
Jeremy Miles: Mae prifysgolion wrth gwrs yn gyrff annibynnol ar y Llywodraeth, ac yn gyfrifol felly am eu materion gweinyddol eu hunain. Does gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ddim awdurdod i ymyrryd yn y trafodaethau hynny ond, wrth gwrs, rŷn ni'n gobeithio y byddan nhw'n cyrraedd diweddglo hapus.
Jeremy Miles: Os caf, hoffwn ategu'r teimlad yn y cwestiwn yn llwyr; rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddisgrifiwyd gennych yn eich cwestiwn. Mae'n wych fod gan 86 y cant o oedolion Cymru ymdeimlad o falchder ynghylch y Gymraeg, boed yn ei siarad ai peidio. Ystyriwch yr ystadegyn hwnnw; mae'n wych fel rhyw fath o fan cychwyn ar gyfer y dadansoddiad. Fel y dywedais yn y datganiad ddoe, credaf mai un o'r...
Jeremy Miles: Ddoe cyhoeddais adroddiad blynyddol 'Cymraeg 2050' ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21. Mae'n nodi cynnydd yn erbyn ein targedau. Pan fydd canlyniadau cyfrifiad 2021 wedi'u cyhoeddi, byddwn yn ailedrych ar y taflwybr ystadegol tua'r filiwn, fel yr addewais fis Gorffennaf y llynedd wrth gyhoeddi ein rhaglen waith ar gyfer 2021-26.
Jeremy Miles: The Welsh Government is committed to creating an inclusive education system that enables all learners to reach their potential. The additional learning needs system puts learners at the centre and will ensure support is properly planned and protected.
Jeremy Miles: Local authorities are responsible for planning school places. When proposing significant changes to any school, local authorities and other proposers must comply with the statutory provisions of the school organisation code and must take into account a range of factors, with the prime consideration being the interests of learners.
Jeremy Miles: Our priority in Wales continues to be ensuring that students have access to support that enables them to meet their day-to-day living costs. Our student support system guarantees support equivalent to the national living wage, with the highest levels of grant being targeted at those students most in need.
Jeremy Miles: The health and well-being area of learning and experience places well-being at the heart of our new curriculum. It is supported by statutory guidance for schools on developing whole-school approaches to well-being, £9 million of investment in the current year, and a commitment to fund support in future years.
Jeremy Miles: Diolch o galon i Alun Davies am y cwestiynau hynny, ac wrth gwrs am ei waith sylfaenol e'n datgan y polisi yn y ei gyfnod ef fel Gweinidog y Gymraeg. Rwy'n cytuno'n llwyr gydag ef pa mor bwysig yw nid jest, fel petai, gallu, ond y cwestiwn o ddefnydd hefyd. Mae'r arolygon blynyddol rŷn ni'n edrych arnyn nhw yn dangos bod y ffigurau o bobl sydd yn datgan eu bod yn defnyddio'r Gymraeg llawer...
Jeremy Miles: Diolch i Heledd Fychan am ystod o gwestiynau. Fe wnaf i fy ngorau i allu eu hateb nhw'r gorau y gallaf i. O ran yr her mae COVID wedi cyflwyno inni, mae hi'n iawn i ddweud bod hynny wedi golygu bod rhai profiadau wedi bod yn gadarnhaol—hynny yw, pobl yn dysgu Cymraeg am y tro cyntaf—ond hefyd sialensiau o ran rhai yn penderfynu dwyn plant allan o addysg Gymraeg. Mae'r darlun yn eithaf...
Jeremy Miles: A gaf i ddiolch i Samuel Kurtz am y ffordd adeiladol wnaeth e ymgymryd â'r cwestiwn, a'r ffaith ei fod e'n ein hatgoffa ni pa mor fyrhoedlog mae gyrfaoedd gweinidogol yn gallu bod. [Chwerthin.] Diolch o galon i chi am fy atgoffa i o hynny. Ond fe wnaeth Samuel Kurtz wneud dau bwynt pwysig iawn ar gychwyn ei gwestiwn, hynny yw bod angen atebolrwydd a bod angen cyfle i Aelodau a chyrff...