Bethan Sayed: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Heddiw, yn amlwg, fel y dywedwyd, rydym wedi cael canlyniad ymgynghorol y bleidlais. Er gwaethaf yr hyn a oedd yn ddewis anodd i weithlu Tata, un a oedd yn ddewis rhwng pensiynau a buddsoddi yn y gwaith yn y dyfodol, mae’n amlwg eu bod wedi penderfynu cadw eu ffydd yn Tata Steel. Ond a fuasech yn cytuno â mi ei bod hi’n bryd i Tata Steel gyflawni eu...
Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, ni thelais neb am y ganmoliaeth, ond diolch yn fawr i chi beth bynnag. Rwy’n siŵr na fydd fy arweinydd yn gallu rhoi pryd o dafod i mi am rywbeth a ddywedoch chi. Byddai hynny’n rhywbeth newydd i mi, ond hei, mae rhyfeddodau’n digwydd. Beth y gallaf ei ddweud? O ran S4C, hynny yw, wyddoch chi, byddem yn cytuno ar y meinciau hyn, wrth gwrs, na...
Bethan Sayed: Diolch, Dai, am y geiriau caredig iawn. Gwnes i ddim talu Dai Lloyd i ddweud y pethau yna, yn sicr. Rydym ni wedi bod yn craffu yn weddol gyson ar ITV, BBC ac eraill, fel rhan o’r ymchwiliad penodol hwn, ond fel pwyllgor sydd â ‘chyfathrebu’ yn ein teitl, rwy’n credu ei bod yn bwysig inni osod yr agenda gwleidyddol er mwyn sicrhau bod y rheini sydd yn y maes cyfryngol yn ymatebol...
Bethan Sayed: Weinidog, mae masnachwyr ym marchnad Castell-nedd wedi cael cynnig llai o ardrethi busnes ers peth amser, gyda rhai yn elwa o dalu dim o gwbl. Fodd bynnag, yn ddiweddar, bûm yn siarad gyda rhai masnachwyr yn y farchnad a ddywedodd wrthyf fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi codi eu rhenti i’r pwynt lle y bydd rhai yn cael eu gorfodi i gau neu symud eu busnes i fannau...
Bethan Sayed: Rwy’n ymateb fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yng nghyd-destun—fel y crybwyllwyd gan Darren Miller yn gynharach—yr ymchwiliad yr ydym yn ei gynnal i gerddoriaeth mewn addysg, nid am ein bod ni fel ACau yn awyddus i wneud hynny, ond oherwydd bod y cyhoedd, drwy bôl piniwn a sefydlwyd gennym, wedi penderfynu ar ein rhan y dylem edrych ar y mater hwn oherwydd,...
Bethan Sayed: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu addysg ariannol yng Nghymru?
Bethan Sayed: Ddoe, pan oeddwn yn gwybod fy mod yn dod i mewn ar y cwestiwn atodol hwn, fe roddais gwestiwn bach ar Facebook i ofyn i bobl beth oedd eu barn am y ffaith fod yr ymgyrchoedd hyn wedi digwydd. Mae llawer o bobl yn ymwybodol, ond roedd yna nifer go drawiadol o bobl nad oedd yn ymwybodol fod yr ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd hyn yn bodoli hyd yn oed. Trwy Cymorth i Fenywod, gallwn ddod o hyd i...
Bethan Sayed: Diolch i chi, ac edrychaf ymlaen at y datganiad hwnnw, gan fy mod yn meddwl bod llawer o bobl yn y sector yn awyddus i wybod yn union sut y gall unrhyw gynllun newydd dargedu tlodi’n effeithiol. Mae llawer o’r bobl y siaradais â hwy yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi dweud ei fod yn ymwneud â’r economi a hybu’r farchnad swyddi i’r rhai llai cefnog: er enghraifft, mwy o swyddi yn...
Bethan Sayed: Mae hynny’n ateb y cwestiwn ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, ond nid yw’n ei ateb ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Nid beirniadaeth oedd hi; roeddwn yn ceisio darganfod y gwahaniaethau rhwng y gweithrediadau a pham y gwnaethoch y penderfyniad hwnnw, ac mae’n dal i fod braidd yn aneglur i mi. Ar agenda ehangach Cymunedau yn Gyntaf, rwy’n clywed gan y rhai sydd â diddordeb yn nyfodol...
Bethan Sayed: Diolch. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn rhywbeth rwyf wedi’i ddwyn i’ch sylw gryn dipyn o weithiau bellach yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mewn perthynas â NSA Afan, roeddwn yn meddwl a allem gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad, yn benodol oherwydd bod pobl ym Metws sydd â ffrydiau ariannu yn sgil darparu’r gwasanaeth hwn yn cysylltu â mi i ddweud wrthyf nad oes ganddynt syniad...
Bethan Sayed: Nid wyf am gamddehongli’r hyn sydd wedi cael ei ddweud, ond credaf eich bod wedi dweud wrthyf mewn ymateb blaenorol eich bod am fabwysiadu ymagwedd gynhwysfawr ac effeithiol, ac rydych wedi dweud eich bod am edrych ar yr hyn yr oedd y DU yn ei wneud er mwyn gallu pwyso a mesur yr hyn y gallem ei wneud yma yng Nghymru, fel nad ydym yn dyblygu gwaith neu’n rhoi cofrestr ar waith yn...
Bethan Sayed: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymchwiliad i afreoleidd-dra ariannu yn NSA Afan?
Bethan Sayed: Diolch. Ar ôl inni glywed gan randdeiliaid am eu pryderon, ac o ystyried y ffaith bod y pedwerydd Cynulliad wedi gwrthod Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3), cytunodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y dylid ystyried y rheoliadau o dan Reol Sefydlog 27.8 ac adrodd ein casgliadau i’r Cynulliad. Ar ôl i’r rheoliadau gael eu gosod, gwnaethom ysgrifennu at Gymdeithas yr...
Bethan Sayed: Ar ddiwedd mis Chwefror, mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta, ac roeddwn i’n meddwl tybed a fyddech yn gallu amserlennu dadl gan y Llywodraeth ar y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru ar anhwylderau bwyta. Rwy’n gwybod ac yn gwerthfawrogi ein bod wedi cytuno ar fwy o gyllid ar gyfer anhwylderau bwyta drwy'r trafodaethau rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn ystod y...
Bethan Sayed: Rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ddod yn ôl ac egluro canlyniad hyn. Ond, fel yr ydych yn ymwybodol, mae trafodaethau parhaus, nid yn unig gyda'r awdurdod lleol ar ddiogelu gwasanaethau ond hefyd drafodaethau gyda'r heddlu. Felly, ar hyn o bryd, ni ellir dweud mwy na’r hyn sydd yn y datganiad ysgrifenedig a mwy na’r ateb i'ch cwestiwn yr wythnos diwethaf. Ond...
Bethan Sayed: Rwy’n sylweddoli ein bod wedi cael datganiad ysgrifenedig ar NSA Afan yn fy rhanbarth i. Ond hoffwn ofyn am ddatganiad llafar ar sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ei hymchwiliad i honiadau o anghysonderau ariannol yn NSA Afan. Ni roddwyd yr un honiad sylweddol iddynt, yn ôl NSA Afan a'r hyn y maent wedi ei ddweud wrthyf. Gadewch i mi ei gwneud yn gwbl glir nad ydw i'n dymuno...
Bethan Sayed: Mae’n wir, ond nid oes ganddynt safbwynt ar y cytundeb hwn, ac rwy’n meddwl y dylai fod ganddynt safbwynt. Os ydynt yn credu mai dyma’r cytundeb iawn i’w gymryd, yna dylent ddweud hynny, ac nid wyf wedi eu clywed yn mynd mor bell â hynny. Yn gyffredinol, gwelais fod y gweithwyr dur y siaradais â hwy wedi’u rhannu’n ddau grŵp. Nid gwahaniaethu ar sail oed yw dweud bod y staff...
Bethan Sayed: Diolch. Rwyf wedi ystyried y dadleuon y mae rhai gwleidyddion wedi’u gwneud, ac eraill yn y byd gwleidyddol, y dylem gadw ein trwynau allan o’r cytundeb hwn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd gan Tata i’w weithlu. Gallaf weld yr hyn y maent yn ei ddweud, ond wedyn roeddwn yn ystyried pa bryd erioed y bu’n wir nad oedd gan wleidyddion farn ar faterion o’r fath. Cyfeiriodd Adam Price...
Bethan Sayed: Diolch. Hoffwn adleisio’r hyn a ddywedwyd eisoes gan Sian Gwenllian, yn ogystal â nodi’r pwyntiau a wnaed mor huawdl gan Dawn Bowden o ran y ffaith nad wyf yn credu bod rhai pobl yn y Siambr hon yn deall sut y gwneir penderfyniadau mewn undebau llafur. Nid wyf erioed wedi bod yn rhan o drafodaeth lle roedd streicio’n ddewis cyntaf—mae bob amser wedi ymwneud â bod yn rhagofalus mewn...
Bethan Sayed: Mae elfennau o'r hyn sydd wedi digwydd yn NSA Afan sydd yn cael eu hymchwilio gan yr heddlu ar hyn o bryd, fel y soniasoch—ac rwy’n credu, yn amlwg, bod angen i ni fod yn sensitif i hynny—ond beth sydd o ddiddordeb i mi yw cyfranogiad eich Llywodraeth ac ymchwilio i gyfres o honiadau am afreoleidd-dra ariannol, a wnaed gan chwythwr chwiban fis Rhagfyr y llynedd, nad ydyn nhw ar hyn o...