Hannah Blythyn: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n falch o glywed am y trafodaethau parhaus i nodi cyfleoedd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gogledd Cymru, dros y misoedd diwethaf yn unig, wedi cael cryn lwyddiant yn cynnal nifer o gyngherddau stadiwm amlwg, o Olly Murs ar y Cae Ras, i Access All Eirias ym Mharc Eirias, sydd bellach yn ddigwyddiad mawr blynyddol, a Llanfest yn eich etholaeth, a oedd yn...
Hannah Blythyn: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0195(EI)
Hannah Blythyn: Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n dda gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar sefydlu banc datblygu i Gymru, ac nid yw’n syndod o gwbl i gydweithwyr yma fy mod yn croesawu’n wresog leoliad y banc yn y gogledd. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn y fan acw, mae ffanffer ar dudalen flaen y 'Wrexham Leader' heddiw, ond cafodd le amlwg yn y 'Flintshire Leader' hefyd. Yn fy marn i mae hyn yn dangos yr...
Hannah Blythyn: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad heddiw. A gaf i ddechrau drwy groesawu cyhoeddiad ddoe, ynghyd â’m cydweithwyr, am y cerbydau ychwanegol i gynyddu capasiti? Fel llawer o’m cydweithwyr yma, rwy'n siŵr, roedd fy mewnflwch yn llawn o ohebiaeth gan etholwyr am gyfyngiadau ein cerbydau presennol, yn enwedig pan fyddwch yn teithio o'r gogledd i'r de neu i'r gwrthwyneb, naill ai...
Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am y diweddariad hwn heddiw ar yr hyn nad yw’n unig yn agwedd allweddol o bolisi Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn rhywbeth sy'n gwbl allweddol os ydym yn mynd i wireddu ffyniant a diogelwch ein pobl, ein cymunedau ac, yn y pen draw, ein heconomi. Rwy'n croesawu'r dull gweithredu ledled Llywodraeth yr ydych chi’n ei amlinellu yn eich...
Hannah Blythyn: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fenywod mewn chwaraeon yng Nghymru?
Hannah Blythyn: Hoffwn ychwanegu fy nghefnogaeth i gynnig Huw Irranca-Davies, a chroesawaf eich ymrwymiad ar draws y bwrdd, Llywydd, i sicrhau bod gwleidyddiaeth yn fwy hygyrch yn y sefydliad hwn. Roedd un o fy mlaenoriaethau fy hun a addewais cyn cael fy ethol yn ymwneud â sicrhau bod ein gwleidyddiaeth a’n gwleidyddion yn llawer mwy hygyrch—nid fi fy hun yn unig, ond sut i greu rhagor o gyfleoedd i...
Hannah Blythyn: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Wedi i’r weledigaeth dwf ar gyfer gogledd Cymru gael ei chyflwyno ym mis Awst y llynedd, rwy’n gwybod, ac fe fyddwch chi’n gwybod bod rhanddeiliaid yn fy rhanbarth i, a thros y ffin, megis Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, partneriaeth menter leol Swydd Gaer a Warrington, a chyngor busnes Gogledd Cymru...
Hannah Blythyn: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd bargen dwf gogledd Cymru? OAQ(5)0154(FLG)
Hannah Blythyn: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am lwyddiant strategaeth dwristiaeth Blwyddyn Chwedlau hyd yn hyn? Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau yn y fan yma wedi bod yn weithgar yn yr ymgyrch Blwyddyn Chwedlau, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun, lle yr wyf wedi bod yn ymgyrchu i ddod â'r fantell aur yn ôl i'r dref lle y cafodd ei darganfod gyntaf ym...
Hannah Blythyn: Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn ddigon teg, fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, bod y cytundeb rhwng y Ceidwadwyr a'r DUP bron iawn yn lladd y syniad o ariannu teg i’r gwledydd a'r rhanbarthau. Mae'r cytundeb hwn yn mynd yn groes i degwch, a dyna ni. Mae'n ddigalon, yn siomedig ac yn annymunol iawn bod Theresa May wedi coblo bargen at ei gilydd gyda phlaid â hanes mor ofnadwy o ran...
Hannah Blythyn: Rwy’n awyddus i roi sylw ar un neu ddau o agweddau, er yn wahanol iawn, a amlinellir yn y datganiad deddfwriaethol heddiw. Yn gyntaf, o ran gofal plant, rwy’n croesawu'r cynnydd sydd wedi ei wneud gyda'r cynlluniau peilot a amlinellir ar y cynnig gofal plant, ac mae ei gynnwys ar gyfer deddfwriaeth wedi ei amlinellu heddiw. Fel i lawer o bobl, mae hon yn broblem fawr i lawer o fy...
Hannah Blythyn: Diolch, Prif Weinidog. Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. Rydych chi'n iawn i ddweud, wrth wraidd unrhyw strategaeth a chynllun gweithredu, ei bod yn rhaid mai’r bobl yw’r arbenigwyr—y bobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd—sydd wrth graidd hynny. Rhoddwyd blaenoriaeth i wneud yn siŵr bod pobl sy'n byw...
Hannah Blythyn: 3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n byw gyda dementia? OAQ(5)0684(FM)
Hannah Blythyn: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod twristiaeth yn sector allweddol i ddatblygiad economaidd gogledd Cymru. Yn y gorffennol, rwyf wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu’r hyn a elwir yn goridor diwylliant ar hyd yr A55, a fydd yn cysylltu’r atyniadau ar y fynedfa hon i ogledd Cymru. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd rhan fawr o hyn yn cynnwys arwyddion newydd a...
Hannah Blythyn: Rwy’n credu ein bod i gyd yn cydnabod bod mynediad at brofiad gwaith yn hynod o bwysig i bobl ifanc, ac nid unrhyw brofiad gwaith, ond profiad gwerth chweil a gwerthfawr, nad yw’n dibynnu ar beth sydd hawsaf neu bwy rydych yn ei adnabod o bosibl. Wrth gofio fy mhrofiad gwaith fy hun, euthum i’r ‘Flintshire Chronicle’, lle y gallwch ddod o hyd i erthygl gan Hannah Blythyn, 15 oed,...
Hannah Blythyn: Gweinidog, rwy’n croesawu'r datganiad heddiw ar brosiect Cyflymu Cymru a'r cynnydd tuag at y prosiect olynol. Rwy'n credu, yn yr oes sydd ohoni, mae'n briodol mai uchelgais Llywodraeth Cymru yw darparu band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru, ac rwy'n falch o nodi'r cynnydd a wnaed. O ystyried faint o ohebiaeth yr wyf wedi’i chael gan etholwyr ac, o ganlyniad, yr ydych chi...
Hannah Blythyn: Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf derbyniodd ein Ann Jones ni y wobr fedal aur fawr ei bri gan y Gymdeithas Gwarchod rhag Tân Genedlaethol yn yr Unol Daleithiau am ei gwaith i sicrhau mai Cymru oedd y wlad gyntaf i wneud gosod taenellwyr tân yn orfodol ym mhob tŷ sy’n cael ei adeiladu o’r newydd. Arweinydd y tŷ, a wnewch chi yn y lle cyntaf ymuno â mi a llawer un arall i...
Hannah Blythyn: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch tanau domestig yng Nghymru?
Hannah Blythyn: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i greu cartrefi newydd, boddhaol a fforddiadwy. Rydym ni’n gweld yr ymrwymiad hwn yn cael ei roi ar waith yn Sir y Fflint, gyda'r bartneriaeth o gyngor Llafur a Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i weld y tai cyngor newydd cyntaf mewn cenhedlaeth—82 o dai cyngor newydd. Cefais y pleser o fynd i...