Helen Mary Jones: Ar ôl bod yn absennol o'r lle hwn am beth amser, weithiau rwy'n myfyrio ynglŷn â'r hyn sydd wedi newid a'r hyn sydd heb newid ers i mi ddychwelyd. Cofiaf orfod ymdrin â sefyllfa yn fy etholaeth lle na ellid trosglwyddo gwybodaeth yn effeithiol rhwng dau ysbyty yn sir Gaerfyrddin. Canlyniad hynny, mewn gwirionedd, oedd bod y claf, a oedd yn oedolyn ifanc—rhoddwyd ei gofnodion i'w rieni...
Helen Mary Jones: Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yma yn falch iawn o glywed bod cynnydd eithriadol o gadarnhaol wedi bod. Roeddwn yn ffodus i gwrdd ag Aelodau'r Senedd Ieuenctid o Ganolbarth a Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin ac roeddwn yn llawn edmygedd o'r bobl ifanc ymrwymedig a diddorol yno. Roeddwn hefyd yn llawn edmygedd o'r trefniadau cymorth a oedd ar waith i gefnogi'r bobl ifanc a...
Helen Mary Jones: 3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Senedd Ieuenctid Cymru yn dilyn y cyfarfodydd rhanbarthol cyntaf? OAQ53315
Helen Mary Jones: Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad a'i sicrhau hi y bydd Plaid Cymru yn cefnogi, yn amlwg, y rheoliadau hyn heddiw. Rwy'n dymuno crybwyll un defnydd penodol o iaith yn y rheoliadau gwasanaethau maethu rheoledig gyda'r Dirprwy Weinidog. Rydym yn cyfeirio yn y rheoliadau at 'rieni maeth'. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol iawn nad dyna'r term a ddefnyddir fel...
Helen Mary Jones: Credaf fod yn rhaid i ni gydnabod bod hwn yn fater hynod wleidyddol. Ac er na allai neb yn y Siambr hon fyth amau ymrwymiad personol Mark Isherwood i'r materion hynny y mae ef newydd fod yn eu codi â'r Gweinidog, mae'n ddyletswydd arnom ni i dynnu sylw at y ffaith ei fod yn eistedd yn y Siambr hon yn enw'r blaid sy'n gyfrifol am yr amgylched gelyniaethus, ac sy'n gyfrifol, er enghraifft, am...
Helen Mary Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Mae llawer i'w groesawu yn y cynllun ei hun ac yn y datganiad. Hoffwn ymddiheuro i'r Gweinidog ac i'r Siambr am y ffaith fy mod wedi camu i'r adwy ar y funud olaf i ymateb i'r datganiad hwn, oherwydd y bu'n rhaid i fy nghyd-Aelod, Leanne Wood fynd adref oherwydd amodau tywydd y tu hwnt i'w rheolaeth....
Helen Mary Jones: Mae’r cwestiwn cyntaf yr hoffwn i ei ofyn i’r Gweinidog yn ymwneud â chyflymdra’r gwaith hwn. Nawr, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cymryd amser i’w wneud yn iawn, ond rwy’n siŵr y gwnaiff y Gweinidog gytuno â mi bod pob diwrnod o beidio â chymryd y camau sydd eu hangen ddiwrnod yn ormod. Felly, rwy’n ceisio sicrwydd gan y Gweinidog heddiw na chaiff amserlen mis Hydref...
Helen Mary Jones: Rwy’n falch iawn o groesawu datganiad y Gweinidog heddiw a'r cynnydd sy’n cael ei wneud ar y darn pwysig iawn hwn o waith, sydd, wrth gwrs, yn deillio o welliant gan Blaid Cymru i'r ddeddfwriaeth wreiddiol. Byddwn yn fy nghysylltu fy hun â phopeth y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud ei hun ac y mae Darren Millar wedi'i ddweud am bwysigrwydd y mater hwn i iechyd a lles ein cymuned. Mae...
Helen Mary Jones: A gaf i ofyn i'r Trefnydd drafod gyda’r Gweinidog economi a yw'n bosib cyhoeddi datganiad pellach i’r Cynulliad hwn, mewn datganiad llafar os yw hynny’n bosib, yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed bod ffatri Schaeffler yn Llanelli yn mynd i gau? Rwyf yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ysgrifenedig ddoe. Ond byddem ni’n gwerthfawrogi datganiad llafar, oherwydd byddwn i, ac Aelodau...
Helen Mary Jones: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, ond rwy'n siŵr y bydd yn deall bod rhai ohonom ni'n rhwystredig braidd gyda'r amserlen, o gofio bod 15 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers i'r ddeddfwrfa hon fynegi mewn egwyddor gyntaf ei dymuniad i ddiddymu'r amddiffyniad hwn na ellir ei gyfiawnhau. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i ni y bydd digon o amser yn oes y Cynulliad hwn i'r...
Helen Mary Jones: Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol mai un o'r materion sy'n arwain at y problemau gyda staffio asiantaeth yw problemau o ran cadw staff yn y gweithlu nyrsio. Un o'r rhesymau am y problemau hyn o ran cadw, mewn rhai achosion, yw diffyg hyblygrwydd. Rwy'n ymwybodol o nifer o achosion lle mae nyrsys wedi gofyn am batrymau gweithio hyblyg ar y wardiau lle maen nhw'n cael eu cyflogi,...
Helen Mary Jones: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd o ran paratoi deddfwriaeth i gael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol? OAQ53325
Helen Mary Jones: A wnewch chi ildio?
Helen Mary Jones: I egluro, Jenny Rathbone, er eich budd, ni ddywedais nad oedd ganddi ddim i'w wneud â'r peth. Yr hyn a ddywedais oedd nad oedd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhoi hawliau gorfodadwy i unigolion ac felly, nid dyna oedd y cyfrwng priodol i ymdrin â'r holl faterion a godwyd gan Darren Millar. Nid yw hynny'n golygu nad yw'n ddarn gwerthfawr o ddeddfwriaeth a all wneud pethau eraill...
Helen Mary Jones: Byddai—[Torri ar draws.] Os caf fwrw ymlaen, os yw'r Aelod yn caniatáu i mi wneud, o ystyried fy mod yn sefyll ar y pwynt hwn yn y broses i gefnogi cynnig yr Aelod, ac i argymell i'r Cynulliad ein bod yn caniatáu i'r ddeddfwriaeth hon fwrw yn ei blaen ar y cam hwn. Dylwn ddweud, yng ngrŵp Plaid Cymru, y byddwn yn cael pleidlais rydd ar hyn, a bydd yr Aelodau, fel y teimlaf sy'n briodol...
Helen Mary Jones: Yn eich ymateb i Mohammad Asghar, rydych yn iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd yr adroddiad 'State of Birds in Wales 2018', ac mae gennym rai poblogaethau pwysig iawn yn rhyngwladol wrth gwrs—rwy'n meddwl, er enghraifft, am nythle'r gwylanwyddau ar Ynys Gwales; gallwn restru llu ohonynt. Yn amlwg, mae peth o'r buddsoddiad a wnaethpwyd eisoes i ddiogelu'r cynefinoedd hynny yn dechrau dangos...
Helen Mary Jones: Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r ohebiaeth a gawsoch gyda fy nghyd-Aelod Elin Jones ynglŷn â phryderon y trigolion o gwmpas Ystâd yr Hafod ger Aberystwyth mewn perthynas â natur y gwaith o gwympo’r coed. Fe fyddwch yn cofio Elin Jones yn codi pryderon gyda chi ynglŷn â’r defnydd o blaladdwyr a phryderon pobl ynghylch y posibilrwydd y gallai hynny effeithio ar fywyd gwyllt arall...
Helen Mary Jones: O ran y mater radioisotopau, mae hyn mewn gwirionedd, fel mae'n dweud, yn berygl difrifol posib. Nid bod unrhyw un yn mynd i ddymuno peidio â'u gwerthu i GIG Cymru o'u gwirfodd mwyach, ond mae yna, fel y tynnodd sylw atynt yn briodol, faterion ymarferol—y gellir eu goresgyn, ond ar gost sylweddol—ac wrth gwrs mae materion cyfreithiol. Nawr, mae'r Athro Wyn Owen wedi ein rhybuddio bod...
Helen Mary Jones: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Yn y datganiad, mae'n nodi rhai o'r materion a'r problemau'n glir iawn, ac mae'r pryderon hynny'n bryderon y byddem ni yn y rhan hon o'r Senedd yn hoffi eu hategu. Mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod i braidd yn siomedig bod diffyg manylder yn rhai o'i ymatebion. Ond rwyf hefyd yn cydnabod bod gennym ni lawer iawn o faterion am Brexit heb gytundeb...
Helen Mary Jones: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymatebion i Leanne Wood. Rwy'n teimlo, Dirprwy Lywydd, bod yn rhaid i mi gyfleu bod angen ychydig mwy o uchelgais arnom. Rwy'n deall yn llwyr yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud, o'r safbwynt os gallwn ni gael cyfiawnder ieuenctid wedi'i ddatganoli yn gyflym iawn, ac os gallwn ni gael pwerau ychwanegol o ran troseddwyr benywaidd, byddai hynny i'w...