Canlyniadau 621–640 o 800 ar gyfer speaker:Delyth Jewell

3. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (11 Chw 2020)

Delyth Jewell: Rydym yn croesawu'r ddeddfwriaeth hon fel cam i'r cyfeiriad cywir. Am y rhan fwyaf o'r 25 mlynedd diwethaf, mae'r sector rhentu preifat wedi rhoi cymaint o bŵer i landlordiaid ac wedi gwneud y sector yn rhwydd i rai pobl elwa ar ddefnyddio dulliau diegwyddor, fel y dywedodd y Gweinidog. Rwy'n credu ei bod yn werth nodi, ac fe gafodd hyn ei grybwyll eisoes, mewn sector lle mae'r cydbwysedd...

3. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (11 Chw 2020)

Delyth Jewell: Diolch i'r Gweindog am y datganiad.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (11 Chw 2020)

Delyth Jewell: Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud o ran y cerbydau ar reilffordd Rhymni. Mae pawb ohonom eisiau gweld mwy o bobl yn defnyddio'r trenau. Er y bydd y capasiti ar y llinell honno'n cynyddu'n sylweddol yn ystod y cwpl o flynyddoedd nesaf, cadarnhawyd erbyn hyn, drwy gais rhyddid gwybodaeth, y bydd y capasiti...

8. Dadl Plaid Cymru: Llygredd Aer ( 5 Chw 2020)

Delyth Jewell: Beth sy'n fwy sylfaenol na'r aer a anadlwn? Mae'n rhywbeth y dylem allu ei gymryd yn ganiataol fel hawl ddynol, ac mae'r ffaith bod yn rhaid inni gael y ddadl hon heddiw, mae arnaf ofn, yn gondemniad damniol o gyflawniad y Llywodraeth. Er mwyn byw'n iach, gwyddom y dylai pawb allu cael mynediad at ddŵr yfed glân heb ei lygru a bwyd maethlon nad yw wedi'i wenwyno. Hyd yn oed wedyn, gall...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Meddygon Teulu ( 4 Chw 2020)

Delyth Jewell: Diolch, Prif Weinidog. Rwyf yn pryderu am y posibilrwydd y bydd nifer o feddygfeydd yn fy rhanbarth i yn cau. Yr wythnos diwethaf, ysgrifennais at y bwrdd iechyd i ofyn am sicrwydd y bydd meddygfeydd Parc Lansbury a Penyrheol yn cael eu cadw ar agor, yn dilyn y newyddion bod y meddyg teulu yno yn mynd i ymddeol a neb arall wedi ei benodi yn ei le hyd yma, ac rwy'n aros am ymateb. Rwy'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Adfywio Trefi ( 4 Chw 2020)

Delyth Jewell: Un cam hanfodol tuag at adfywio canol trefi yw cymryd camau pendant i ymdrin â malltod erchyll digartrefedd sy'n achosi cymaint o ddioddefaint mawr i bobl agored i niwed ac sy'n cael effaith amlwg iawn ar ganol trefi a chanol dinasoedd. Nawr, mae ffigurau newydd ar ddigartrefedd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn dangos cynnydd i'r niferoedd sy'n cysgu ar y stryd. Rwy'n gwybod mai...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Meddygon Teulu ( 4 Chw 2020)

Delyth Jewell: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau meddygon teulu yn Nwyrain De Cymru? OAQ55063

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (29 Ion 2020)

Delyth Jewell: Na, diolch i chi am gytuno â mi ar hynny. Arhosaf i glywed eich ateb yn llawnach. Ond fel roeddech yn sôn am dai cymdeithasol, rwyf innau hefyd yn credu mai dyna lle mae gwir angen inni ganolbwyntio ar gyflawni. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi bod yn ei ddweud am hynny. Mae'r ffigurau'n dangos, ers 2016, mai dim ond 4,397 o gartrefi sydd wedi'u cwblhau ar gyfer y sector tai...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (29 Ion 2020)

Delyth Jewell: Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n croesawu'r cywair a ddefnyddiwch wrth siarad â ni. Rwy'n falch eich bod yn cytuno â byrdwn cyffredinol yr hyn rydym yn ei ddweud yma. Felly, er mwyn ei gofnodi felly, pe baem yn bwrw golwg fwy rhesymol ar gyflawniad y Llywodraeth yn darparu tai fforddiadwy yn ôl y diffiniad yn yr ystyr ehangach o'r hyn y dylai ei olygu, a chredaf eich bod yn cytuno â ni ar...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (29 Ion 2020)

Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. A all y Gweinidog egluro pam fod Llywodraeth Cymru yn dal i gyfrif y 7,129 o gartrefi a werthwyd drwy Cymorth i Brynu ers 2016 fel rhai sy'n cyfrif tuag at ei tharged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yr honnoch chi fod 13,143 ohonynt wedi'u darparu eisoes?

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (29 Ion 2020)

Delyth Jewell: Diolch i chi am hynny, Weinidog. Mae'n ymddangos i mi mai craidd y broblem gyda'r term 'fforddiadwy' yw bod ei ddiffiniad mor gymharol. Felly, gwerthwyd 78 y cant, sy'n syfrdanol, o gartrefi, sef 5,564 a werthwyd drwy Cymorth i Brynu, am bris o dros £150,000. Cafodd dros 1,000 o gartrefi rydych yn eu cyfrif yn yr ystadegau fel rhai fforddiadwy eu gwerthu am dros £250,000. Nid wyf yn gallu...

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi Canol ein Trefi (28 Ion 2020)

Delyth Jewell: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Mae llawer i'w groesawu ynddo. Mae pobl yn sylweddoli fwyfwy bod trefi wedi cael eu hesgeuluso oherwydd diffyg gweithredu gan Lywodraethau yn y fan yma ac yn San Steffan, ac mae yna sylweddoliad hefyd, rwy'n credu, fod angen newid hynny oherwydd bod canol trefi mor bwysig i fusnesau, i iechyd yr economi leol, ac wrth gwrs—yn bwysicaf oll,...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio'r Holocost (28 Ion 2020)

Delyth Jewell: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Mae hi mor bwysig ein bod yn defnyddio Diwrnod Cofio'r Holocost i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau, y bobl Iddewig, pobl Roma, pobl anabl, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol—unrhyw un nad oedd yn gweddu i ddelfryd y Natsïaid. Mae'n rhaid nodi'r dyddiad hwn o ryddhau Auschwitz-Birkenau bob blwyddyn i gofio, fel yr ydych chi wedi...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (28 Ion 2020)

Delyth Jewell: Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd am recriwtio meddygon teulu ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan. Dywedwyd wrthyf fod y bwrdd iechyd wedi methu â chynllunio ymlaen llaw ar gyfer ymddeoliad meddyg teulu sy'n gwasanaethu Parc Lansbury a meddygfa Penyrheol yn fy rhanbarth i. Mae'r ddau bractis hynny'n hollbwysig yn eu cymunedau lleol, fel y gallwch chi ddychmygu, ac maen nhw'n...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit — Goblygiadau i Gymru (22 Ion 2020)

Delyth Jewell: Mae rhyddid i symud yn agor gorwelion. Mae pobl sy'n byw yn ein plith yn ein cymunedau wedi elwa o'r rhyddid hwn—pobl a fydd yn awr yn gweld y gorwelion hynny'n diflannu. Mae'n ffenomen hynod a thrist iawn, ond dyma ni. Crybwyllais y grwpiau ffocws a gynhaliwyd gennym fel pwyllgor, ac roedd eu tystiolaeth yn drychinebus: pobl sydd wedi byw am lawer o'u hoes yng Nghymru nad ydynt yn teimlo...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit — Goblygiadau i Gymru (22 Ion 2020)

Delyth Jewell: Yr wythnos hon yw fy olaf fel aelod o'r pwyllgor materion allanol, a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r Cadeirydd, David Rees, a phob aelod arall o'r pwyllgor am y croeso a'r cyfeillgarwch dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth inni graffu ar wahanol elfennau o gynlluniau Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Gyfunol o ran ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Un agwedd ar waith y pwyllgor wnaeth argraff...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Parcio ar Balmentydd (22 Ion 2020)

Delyth Jewell: Rwy'n ddiolchgar fod y mater hwn wedi'i godi gan fod mater arall yng Nghaerffili y byddwch yn ymwybodol ohono, rwy'n siŵr, lle nad yw preswylwyr lleol yn gallu parcio, sef ym Mryn Heol ym Medwas, lle mae'r preswylwyr wedi cael llond bol ar ddiffyg penderfyniadau gan Gyngor Bwrdeistref Sir Caerffili neu ddiffyg unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r broblem. Dywedir wrthynt na allant barcio y tu...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

Delyth Jewell: Ambell waith mewn gwleidyddiaeth, mae'n fanteisiol inni edrych i'r pellteroedd i weld sut yr ydym ni wedi cyrraedd y fan lle'r ydym ni. Hwn fydd fy nghyfraniad olaf i yn y Siambr hon fel llefarydd fy mhlaid ar Brexit, gan fy mod i'n ymgymryd â swydd newydd sy'n cyd-fynd yn addas iawn â'n hamseriad ni o ran ymadael â'r UE. Anrhydedd rhyfedd fu hwn—yn heriol ac yn peri rhwystredigaeth ar...

7. Dadl Plaid Cymru: Trais a Chamdriniaeth Rywiol (15 Ion 2020)

Delyth Jewell: Ni allaf ond rhagdybio bod yna rywbeth nad wyf yn ymwybodol ohono yn yr hyn rydych yn sôn amdano ac ni allaf roi ateb i rywbeth nad wyf yn gwybod beth yw'r manylion yn ei gylch. Rwy'n siomedig eich bod wedi defnyddio cyfle mewn dadl fel hon i wneud y pwynt hwnnw, o ddifrif.

7. Dadl Plaid Cymru: Trais a Chamdriniaeth Rywiol (15 Ion 2020)

Delyth Jewell: Rwy'n credu'n wir y bydd y ddadl hon yn helpu pobl. Mae'r ffaith nad ydym yn gallu integreiddio plismona'n llawn yn y llwybrau cyfeirio y cyfeiriais atynt a'r rhwydweithiau cymorth yn cael effaith hynod o andwyol ar oroeswr, unrhyw oroeswr, trosedd erchyll fel trais rhywiol. Pe bai plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli, byddem yn gallu edrych ar ffyrdd llai trawmatig o roi gwybod am...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.