Mark Drakeford: Mae cysylltiadau dwyochrog â Llywodraeth y DU yn bwysig. O ran Brexit, cefais gyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos cyn y ddiwethaf, a chafodd y Prif Weinidog gyfarfod dwyochrog ag ef yr wythnos diwethaf. Ond nid yw’r pethau hyn, yn y pen draw, yn gweithredu yn lle proses y Cyd-bwyllgor Gweinidogion nac yn wir, yn lle fersiwn well a chryn dipyn yn...
Mark Drakeford: Rwy’n siŵr fod y Prif Weinidog yn iawn i dynnu sylw at y ffaith fod yna sawl ffordd y gall yr Alban fod yn fodel ar gyfer Cymru, yn union fel y mae llawer o bethau rydym yn eu gwneud yma y mae’r Alban yn eu hystyried yn fodelau y gallant ddysgu oddi wrthynt hefyd. Felly, nid oes unrhyw bwyntiau o natur synhwyrol i’w gwneud o’r sylw hwnnw. Yr hyn sydd gennym, fel y dywed yr Aelod—ac...
Mark Drakeford: Wel, mae ffigurau o’r math hwnnw ar gael ar gyfer Cymru, wrth gwrs, ond mae materion yr Alban, Lywydd, yn faterion i Lywodraeth yr Alban ac yna i bobl yr Alban eu pwyso a’u mesur a gwneud penderfyniad.
Mark Drakeford: Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â’r pwyntiau cyffredinol y mae Nick Ramsay yn eu gwneud—pwysigrwydd goruchwyliaeth dda, annibynnol o’r broses a data cywir sy’n rhoi’r canlyniadau gorau posibl a mwyaf dibynadwy i ni. Mae creu rhagolygon economaidd yn gelfyddyd, nid gwyddor, a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—gyda’i hadnoddau na fyddwn byth yn gallu cael eu tebyg—fe...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, cyfarfûm â Robert Chote, pennaeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yng Nghaerdydd ychydig cyn y Nadolig i drafod gwaith y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a sut y gall gasglu data sy’n bwysig i ni yng Nghymru. Ond fel y bydd Nick Ramsay yn ei wybod, un o’r pethau allweddol a sicrhawyd gennym yn y fframwaith cyllidol oedd ffrwd o gyngor annibynnol—annibynnol ar y Swyddfa...
Mark Drakeford: Wel, diolch i chi, Lywydd. Ers i’r fframwaith cyllidol gael ei lofnodi rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, rwyf wedi parhau i gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Cyfarfûm ag ef ddiwethaf yng Nghaeredin mewn cyfarfod pedairochrog rhwng y Gweinidogion cyllid, lle y trafodwyd datganoli ariannol ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Dwy agwedd, mae’n debyg: sut...
Mark Drakeford: Gadeirydd, clywais y drafodaeth yn y Siambr ddoe rhwng arweinydd y tŷ a’r Aelod mewn perthynas â buddsoddi mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae llawer o wybodaeth eisoes ar gael am batrymau buddsoddi dros y blynyddoedd diwethaf ac rwy’n siŵr y gellid sicrhau bod y wybodaeth ar gael. Yn bersonol, rwy’n canolbwyntio mwy ar sicrhau ein bod yn gwneud y buddsoddiadau cywir ar gyfer y dyfodol...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, wrth gwrs, mae diddordeb mawr gyda fi yng ngwaith Sefydliad Bevan. Roedd gwaith yr Athro Karel Williams—roedd hwnnw’n rhan o’r trafodaethau yn y PMC ym Merthyr nôl ym mis Chwefror, lle roeddem ni’n treial i—. Wel, y ddadl oedd am le. How do we have a sense of place in the way that we fashion our future regional economic development policies that takes account of those...
Mark Drakeford: Wel, wrth gwrs, rwyf i’n cofio’r gwaith 20 mlynedd yn ôl. Rwyf i’n meddwl fy mod i’n cofio clywed yr Aelod yn siarad am y gwaith a beth oedd yn dod mas o’r gwaith mewn cynhadledd yma yng Nghaerdydd. The map provides three footprints—the three city region footprints in effect—which we say will be responsible for economic development responsibilities. In that sense, the map is...
Mark Drakeford: Ymddiheuriadau. Roeddem yn ymgysylltu llawer ag awdurdodau lleol er mwyn eu hannog i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud y cyflwyniadau hynny, ond bydd yn fanteisiol iddynt wneud hynny, a dyna pam rwy’n teimlo’n hyderus y byddwn yn gweld nifer lawer mwy dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Mark Drakeford: Nid wyf wedi siomi, Lywydd, o ystyried nad yw’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad tan 11 Ebrill. Rwy’n gwbl hyderus y cawn nifer fawr o ymatebion o bob cwr o Gymru erbyn y dyddiad cau. Gofynnodd yr Aelod ddau gwestiwn penodol. Nid ydym wedi derbyn unrhyw gais ffurfiol o ran uno gwirfoddol hyd yn hyn. A dweud y gwir, gydag etholiadau llywodraeth leol ar y gorwel, ni fyddwn wedi rhagweld...
Mark Drakeford: Rwyf wedi bod yn falch o’r cynnydd y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi ei wneud hyd yma ar eu tasg graidd gyntaf, sef asesu llesiant lleol. Rwy’n credu ein bod yn awr, fel Llywodraeth, wedi derbyn drafftiau o’r asesiadau hynny gan bob awdurdod lleol yng Nghymru, ac maent yn cael eu hadolygu gan fy swyddogion. Rwyf wedi cael cyfle i ddarllen rhannau o’r asesiadau hynny o wahanol...
Mark Drakeford: Lywydd, fel dywedais i, dim ond un ateb swyddogol rŷm ni wedi’i dderbyn ar hyn o bryd. Roedd hwnnw’n adeiladol, ac roedd yn codi cwestiynau, wrth gwrs, gan roi sylwadau newydd i ni er mwyn trio cryfhau’r Papur Gwyn. Dyna beth yr wyf fi eisiau i’r bobl sydd yn mynd i ymateb yn swyddogol i’r Papur Gwyn ei wneud. Os yw pobl yn codi cwestiynau, mae hynny’n helpu, ond mae’n helpu...
Mark Drakeford: Diolch am y cwestiwn. Hyd yn hyn, dim ond un awdurdod lleol, sef Caerffili, sydd wedi ymateb yn swyddogol i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol, sy’n cau ar 11 Ebrill. Croesawodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y Papur Gwyn ar ran yr awdurdodau lleol, gan nodi ei fod wedi’i lunio ar sail trafodaethau gyda’r awdurdodau lleol.
Mark Drakeford: Rwy’n credu bod pobl Abertawe yn cael gwerth da am arian o’r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud yn eu gwasanaethau cyhoeddus—gwasanaethau iechyd a gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Wrth gwrs, mae angen i ni fod yn uchelgeisiol parthed lefelau boddhad. Mae lefelau boddhad y gwasanaeth iechyd, fel y gwyddoch, mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn eithriadol o uchel a bob amser wedi...
Mark Drakeford: Rwy’n hapus iawn i ddarparu’r ffigurau a’r manylion hynny i’r Aelod. Yn gyffredinol, fel y gŵyr, partneriaid sector preifat yw un o’r prif ffyrdd y gallwn gyflenwi arian Ewropeaidd ochr yn ochr â’n prifysgolion, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ei hun. Mae partneriaid sector preifat i fyny yno ar y pen hwnnw i’r gynghrair, ac yn cael eu cynrychioli’n llawn yn y pwyllgor...
Mark Drakeford: Rwy’n hapus iawn i roi’r ymrwymiad hwnnw y prynhawn yma, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod i arwyddo bargen ddinesig Abertawe ers rhai wythnosau bellach. Rydym yn teimlo’n rhwystredig oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU yn y gwahanol negeseuon y mae gwahanol Weinidogion yn y Llywodraeth honno i’w gweld yn eu cyfleu. Roeddwn yn falch o weld y llythyr oddi wrth...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr am y cwestiwn. Rwy’n gyfarwydd gyda’r pwnc. Gwelais yr ateb roedd arweinydd y sir yn Abertawe wedi rhoi mas, yn dweud bod arian ychwanegol ar gael i’r fferm i roi cais i fewn amdano, i weld os mae nhw’n gallu helpu nhw yn y ffordd yna. Mae’r sir yn mynd i helpu’r fferm gyda manylion am sut i roi i fewn am yr arian, ac rwy’n fodlon siarad ag aelodau eraill y...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i brosiectau gwasanaethau cyhoeddus, mawr neu fach, o fewn Dinas a Sir Abertawe. Mae hyn yn amrywio o £100,000 o arian buddsoddi i arbed ar gyfer gwasanaeth i blant sy’n derbyn gofal i £100 miliwn tuag at safle Ysbyty Treforys.
Mark Drakeford: The European advisory group has met three times to date, and provides valuable advice on issues for Wales related to the UK’s exit from the EU.