Mark Drakeford: Wel, Lywydd, pŵer i’w ddefnyddio fel man cychwyn yw’r pŵer cymhwysedd cyffredinol. Mae’n caniatáu i awdurdodau lleol gyflawni pethau er lles eu poblogaethau lleol heb fod angen dod o hyd i’r pŵer penodol sy’n caniatáu iddynt wneud hynny. Mae’n bŵer cyffredinol, wrth gwrs, a luniwyd i roi mwy o ryddid o fewn y gyfraith i awdurdodau lleol, yn hytrach na rhyddid rhag y gyfraith.
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’r Llywodraeth yn cefnogi cyflog teg ar draws y sector cyhoeddus datganoledig. Er bod cyflogau staff llywodraeth leol yn parhau i fod yn fater i awdurdodau lleol a etholwyd yn ddemocrataidd fel cyflogwyr, mae Llywodraeth Cymru yn eu cynorthwyo yn y gwaith hwnnw drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Chomisiwn...
Mark Drakeford: Lywydd, roedd cefnogaeth eang i bŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru pan ymgynghorodd y Llywodraeth flaenorol ar y drafft o Fil Llywodraeth Leol (Cymru). Mae’n parhau i fod yn rhan allweddol o’n cynlluniau ar gyfer diwygio, fel y nodwyd yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ar 31 Ionawr.
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am hynny. Mae yna bethau yr ydym yn eu dweud ar y pwnc hwn yn y Papur Gwyn ar lywodraeth leol, a rhannaf ei ffocws ar y ffordd y gall dadansoddi data mawr wneud gwahaniaeth i’r agweddau mwyaf bob dydd ar yr hyn y mae awdurdodau lleol yn eu darparu. Yn gynharach yr wythnos hon, clywais gan gwmni dadansoddi data mawr am y ffordd y mae rhywrai mewn rhan arall o’r byd wedi...
Mark Drakeford: Mae harneisio datblygiadau yn y byd digidol a data yn cynnig cyfleoedd go iawn i wasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y gallu i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd hyn, er enghraifft, drwy fuddsoddi yn y gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw yn Abertawe a thrwy weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth iddynt ddatblygu eu campws gwyddor data yng Nghasnewydd.
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, llofnodais lythyr yn gynharach heddiw at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid—un o nifer o lythyrau a anfonais at y Cadeirydd heddiw—lle y nodais y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â chostau Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n ymrwymo i ddarparu diweddariad pellach tra bydd y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ac...
Mark Drakeford: Wel, diolch i Nick Ramsay am hynny. Rwy’n awyddus iawn i beidio â thresmasu ar diriogaeth y Pwyllgor Cyllid, a fydd, rwy’n siŵr, eisiau archwilio’r union faterion hyn gyda’r ymgeisydd penodol dan sylw. Os yw’n gofyn i mi beth y credwn fy mod yn chwilio amdano’n benodol, yna roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig iawn rhoi pwyslais ar ddenu ymgeisydd a fyddai â brwdfrydedd...
Mark Drakeford: Diolch i Nick Ramsay am hynny. Mae cynnydd da wedi’i wneud ar sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Yfory, bydd y Pwyllgor Cyllid yn cynnal gwrandawiad cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffafrir ar gyfer swydd cadeirydd yr awdurdod hwnnw.
Mark Drakeford: Wel, mae’r Aelod yn gwneud y pwynt, yn fwy huawdl nag y gwnes i, pwynt y ceisiais ei wneud yn gynharach, fod yn rhaid inni fod â diddordeb mewn elw ar fuddsoddiad, nid buddsoddiad yn unig. Yn hanesyddol, rwy’n meddwl y byddai’n rhaid i chi ddweud bod awdurdodau cyhoeddus wedi bod yn dda iawn am gasglu data a heb ymdrechu agos cymaint i ddadansoddi data. Felly, rydych yn cael llawer...
Mark Drakeford: Wel, rwy’n cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Wrth gwrs, mae lot o’r pethau yr ŷm ni’n eu gwneud yng Nghymru ar y ffin yn dibynnu ar bethau sy’n mynd ymlaen dros y ffin hefyd, ac mae’r penderfyniadau yr ŷm ni’n eu gwneud yng Nghymru yn cael effaith yn Lloegr ac mae pethau y maen nhw’n eu gwneud yn Lloegr hefyd, y penderfyniadau y maen nhw’n eu gwneud, yn cael...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, mae data ar gael mewn nifer o ffyrdd eisoes ar y lefel leol honno. Mae cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, er enghraifft, yn cofnodi gwariant ar lefel cod post, mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru wedi gweithredu ers amser ar lefel ardal gynnyrch ehangach haen is, a bydd dadansoddiad o wariant caffael 2015-16 yng Nghymru, sydd ar fin dod i ben, hefyd yn caniatáu i wariant...
Mark Drakeford: Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw, neu â mynediad at ystod eang o ddata yn cwmpasu amrywiaeth o olion traed daearyddol ledled Cymru. Aiff bron i dri chwarter yr holl wariant refeniw gan Lywodraeth Cymru ar ddyraniadau i awdurdodau lleol, cyrff iechyd lleol ac awdurdodau’r heddlu.
Mark Drakeford: Nid wyf yn ymwybodol o’r mater, ond rwy’n hapus iawn i gytuno i ysgrifennu at y cyngor i ddarganfod mwy am y camau y maent wedi’u rhoi ar waith.
Mark Drakeford: Wel, diolch i David Rees am hynny. Prin yw’r cwestiynau, Lywydd, sy’n pwyntio at sector lle y mae gwerthoedd ardrethol wedi lleihau’n sylweddol o ganlyniad i ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ddiweddar. Yma yng Nghymru, bydd y gostyngiad yn y biliau a delir gan y diwydiant dur yn effeithio’n sylweddol ar y diwydiant hwnnw. Yn wahanol i Loegr, byddwn yn caniatáu i’r diwydiant...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, rwy’n gwneud fy ngorau glas i wneud yn siŵr y ceir datganiad o’r fath cyn y toriad, ac rwy’n falch o gadarnhau yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe. Rydym yn y camau olaf un o roi’r holl gynigion hyn at ei gilydd. Rydym yn dal i aros am rywfaint o’r data diwethaf un gan yr awdurdod prisio er mwyn caniatáu inni wneud hynny. Wrth gwrs, rwy’n deall y bydd gan lawer...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi busnesau yng Nghymru drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, rhyddhad trosiannol a rhyddhad wedi’i dargedu ar gyfer y stryd fawr, i’w helpu i fuddsoddi a sicrhau twf economaidd hirdymor yng Nghymru, gan gynnal ffrwd ariannu gynaliadwy ar gyfer gwasanaethau lleol hanfodol.
Mark Drakeford: Lywydd, mae systemau pleidleisio yn faterion y ceir amrywiaeth o safbwyntiau yn eu cylch o fewn y pleidiau gwleidyddol, yn ogystal â rhwng pleidiau gwleidyddol. Y cynnig yn y Papur Gwyn yw caniatáu i awdurdodau lleol wneud y penderfyniad sy’n iawn iddynt hwy yn eu cyd-destun eu hunain. Rwy’n siŵr y bydd trafodaeth fywiog yma yn y Cynulliad am y gwahanol safbwyntiau a fydd gan unigolion...
Mark Drakeford: A gaf i ddweud wrth yr Aelod, wrth gwrs, rydw i’n cydnabod y ffaith bod cymhlethdod yn rhywbeth pwysig i feddwl amdano, pan rydym ni’n cynllunio dyfodol awdurdodau lleol? Os oes syniadau yn dod i mewn pan fydd pobl yn ystyried y Papur Gwyn, byddwn ni’n gallu gwneud mwy i symleiddio pethau, a mwy i wneud y system yn fwy atebol i bobl leol yn y dyfodol, ac rydw i’n hollol agored i...
Mark Drakeford: Wel, rwy’n gwrthod bron bopeth y mae’r Aelod newydd ei ddweud, Lywydd. Nid oes gwrthdaro rhwng yr hyn y mae’r ddwy ffynhonnell a ddyfynnodd wedi’i ddweud wrthych. Bydd 40 o bobl yn gweithio yn Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd nifer o’r rheini’n cael eu recriwtio o Gymru. Bydd nifer ohonynt yn ddi-os yn cael eu recriwtio o’r tu hwnt i Gymru. Rydym yn sefydlu proffesiwn treth ar gyfer...
Mark Drakeford: Lywydd, yr hyn y cofiaf ei ddweud wrth yr Aelod pan soniodd am hyn ddiwethaf oedd y buaswn, yn ogystal ag ysgrifennu ato gyda manylion, yn ychwanegu’r eitem hon at yr agenda o faterion y byddaf yn eu trafod gydag awdurdodau lleol pan wyf mewn cysylltiad â hwy. Rwyf wedi gallu dechrau gwneud hynny. Rwy’n bwriadu defnyddio’r misoedd nesaf, tra bo’r Papur Gwyn yn destun ymgynghoriad, i...