John Griffiths: 5. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o ddatblygu ysgolion bro yng Nghymru? OAQ(5)0151(EDU)
John Griffiths: Fel y dywedwch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cael eglurder o ran yr union beth sy'n cael ei brofi. Os mai dim ond oddeutu’r 4mm o’r cladin allanol sy’n cael ei anfon i'w brofi, yna nid yw hynny’n amlwg yn cynnwys system wal allanol yr adeilad ehangach. Felly, rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch chi o ran efallai symud ymlaen i gynnal profion ehangach...
John Griffiths: Prif Weinidog, mae awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau allweddol i'n cymunedau, felly mae'n hanfodol bwysig bod gennym ni ddemocratiaeth leol ffyniannus. Un o ofynion sylfaenol hynny yw awdurdodau lleol sy'n adlewyrchu eu poblogaethau lleol, ond darparodd yr etholiadau lleol diweddaraf rywbeth fel 28 y cant o'n cynghorwyr ledled Cymru o ran cynghorwyr sy’n fenywod, gydag awdurdodau...
John Griffiths: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran diwygio llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(5)0698(FM)
John Griffiths: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ni fyddaf yn gallu ymdrin â’r holl bwyntiau, gan mai amser cyfyngedig yn unig sydd gennyf, ond a gaf fi ddechrau drwy groesawu’r ddadl eang ac angerddol a glywsom y prynhawn yma? Rwy’n credu ei bod yn adlewyrchu pwysigrwydd y materion hyn, ac mae hefyd yn adlewyrchu’r ymrwymiad y mae aelodau’r pwyllgor a’r clercod, a’r rhai a roddodd dystiolaeth...
John Griffiths: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn heddiw o gael yr amser yn ystod wythnos y ffoaduriaid i drafod adroddiad ein pwyllgor ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Y cyd-destun ar gyfer yr ymchwiliad yw trasiedi rhyfel, ansefydlogrwydd, a phobl wedi’u dadleoli. Canfu astudiaeth ddiweddaraf y Cenhedloedd Unedig, a gyhoeddwyd ddydd Llun, fod 65.6 miliwn o bobl wedi’u dadleoli...
John Griffiths: Ar anghenion penodol plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches, llwyddodd y dystiolaeth a glywsom fod angen cefnogaeth fwy rhagweithiol i argyhoeddi’r pwyllgor, a dyna pam y galwasom am wasanaeth gwarcheidiaeth. Roeddem yn awyddus i sicrhau hefyd fod digon o gapasiti a gallu ar draws Cymru i gynnal asesiadau oedran, a chawsom dystiolaeth bwerus o’r angen i bennu safonau gofynnol ar...
John Griffiths: Gweinidog, rwy’n awyddus i godi materion y gwn eich bod yn ymwybodol ohonynt, oherwydd ein bod wedi gohebu amdanynt, sef mater methiant cwmni AB yn ardal Allteuryn yn fy etholaeth i, oherwydd mae’r methiant hwnnw wedi gadael trigolion heb fynediad at y rhyngrwyd, sydd, fel y gall pob un ohonom ddychmygu, wedi creu llawer iawn o broblemau a rhwystredigaeth iddynt. Mae yna ateb dros dro o...
John Griffiths: I ba raddau y mae ein hawdurdodau lleol yn cynrychioli amrywiaeth poblogaeth Cymru yn dilyn yr etholiadau lleol y mis diwethaf?
John Griffiths: A gaf i ychwanegu fy llais at y rhai sy'n mynegi’r gwerth amlwg iawn y mae pobl Cymru ac, yn wir, ymhell y tu hwnt i Gymru, yn ei roi ar ein hawyr agored? Mae'n amlwg fod hyn yn bwysig iawn mewn llawer ffordd i’n gwlad ac rydym yn ffodus iawn o gael y fath dirwedd ddeniadol, ac yn wir y morlun sydd gennym. Mae'n amlwg fod hyn yn bwysig iawn o ran twristiaeth, a thwristiaeth gweithgaredd...
John Griffiths: A ydych chi’n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod yn rhaid i deithio llesol fod yn rhan bwysig o drafnidiaeth integredig yn y de-ddwyrain, a nawr bod awdurdodau lleol yn llunio eu cynlluniau integredig ar gyfer y dyfodol, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i gymryd diddordeb brwd yn y cynlluniau hynny a sicrhau eu bod nhw’n cyd-fynd â'r agenda trafnidiaeth integredig ehangach honno?
John Griffiths: Esgusodwch fi, Llywydd, rwy'n teimlo cywilydd dros dro, mae arnaf i ofn. Bydd yn rhaid i mi gael y cwestiwn yna wedi ei arddangos.
John Griffiths: Diolch i chi am y cyfle i dalu teyrnged i Rhodri yn y Senedd heddiw, ac, wrth gwrs, ym mhresenoldeb Julie, a ffurfiodd bartneriaeth mor gryf â Rhodri dros gymaint o flynyddoedd, mewn priodas ac yn wleidyddol. Roedd hi’n fraint, Llywydd, i wasanaethu gyda Rhodri yn y Cynulliad, ac yn wir yn y Llywodraeth, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Rhodri am roi fy nghyfleoedd cyntaf i mi fel aelod o'i...
John Griffiths: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran trafnidiaeth integredig yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0614(FM)
John Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth wraidd y ddadl hon heddiw, rwy’n credu, mae’r ffaith fod pob un ohonom yma’n byw mewn rhan ddiogel, sefydlog a ffyniannus o’r byd, ond fel y gŵyr pawb ohonom, ac fel y clywsom eisoes, ac fel y mae’r deunydd briffio gan Oxfam Cymru, Achub y Plant a’r Groes Goch a ddarparwyd ar gyfer y ddadl hon yn ei ddangos gyda’u hystadegau trasig, nid yw llawer...
John Griffiths: Pa bolisi y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn i gefnogi busnesau yng nghanol dinasoedd yng Nghymru?
John Griffiths: Dim ond am wasanaethau i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig—
John Griffiths: Yn gyflym iawn, iawn, Dirprwy Lywydd—dim ond i ddweud bod gennym esiampl drwy Marie Curie o sut y gallwn wella gwasanaethau a sicrhau gwell mynediad. Ac rwy’n meddwl bod angen i ni gyflwyno hynny, y math hwnnw o ddull, ym mhob un o’n cymunedau yng Nghymru.
John Griffiths: Yn gyflym iawn, felly. Yn gyntaf oll, mae’r tabŵ sy’n gysylltiedig â thrafod y materion hyn. Yn amlwg, mae heddiw’n ffordd o ymdrin â sut yr ydym yn goresgyn y tabŵ hwnnw, o union natur y datganiad, a’r ddadl a'r cynllun cyflawni. Ond mae'n ymddangos i mi y bu adeg pan oedd marwolaeth yn llawer mwy o brofiad teuluol a chymunedol, wyddoch chi pan fyddai cyrff yn y cartref, fel...
John Griffiths: Rwyf innau hefyd yn croesawu'r datganiad hwn heddiw yn fawr iawn; mae’n caniatáu inni ganolbwyntio ar y gwasanaethau pwysig iawn hyn sydd mor bwysig i bobl a'u teuluoedd ledled Cymru. Ac fel llawer o bobl eraill, rwy'n gyfarwydd â fy ngwasanaethau lleol yng Nghasnewydd, a sefydliad Dewi Sant, ac rwy’n gwybod eu bod wedi tyfu ac ehangu eu gwasanaethau a'u presenoldeb mewn modd trawiadol...