Lesley Griffiths: Nac ydw, dydw i ddim, ac rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n eglur iawn pam mae'n credu y dylem ni fod yn rhan o ymchwiliad y DU gyfan. Rydym ni bellach wedi gwneud cais i fod yn gyfranogwr craidd, nid yn unig ym modiwl 1, ond hefyd ym modiwl 2. Rydych chi'n cyfeirio at gynghorau iechyd cymuned—wel, rwy'n credu ei bod hi'n anghywir awgrymu bod cynghorau iechyd cymuned yn...
Lesley Griffiths: Diolch. Roedd gan Lywodraeth Cymru ran uniongyrchol yn y broses o bennu cylch gorchwyl ymchwiliad COVID-19 y DU. Nawr bod yr ymchwiliad wedi'i sefydlu'n ffurfiol, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflenwi tystiolaeth sylweddol iddo, fel y gellir craffu'n briodol ar gamau a gymerwyd yng Nghymru.
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, fel y gwyddoch chi, ein hamcan polisi yw osgoi echdynnu a defnydd parhaus pob tanwydd ffosil; i ddod â'r gwaith o gloddio a defnyddio glo i derfyn wedi'i reoli; ac i sicrhau'r trosglwyddiad cyfiawn hwnnw sydd ei angen arnom ni ar gyfer y gweithwyr a'r cymunedau hynny a fyddai'n cael eu heffeithio gan y newid. Rydym ni'n gwybod, os byddwn ni'n ymestyn gwaith cloddio glo presennol...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n ymwybodol bod Cyfoeth Naturiol Cymru a swyddog ecoleg yr awdurdod cynllunio wedi codi pryderon ynghylch y datblygiad arfaethedig, ac mae'r pryderon hynny yn mynd i gael eu hystyried, rwy'n deall, gan y pwyllgor cynllunio maes o law. Mae gennym ni gyfeiriad hysbysu ar waith sy'n nodi: 'pan nad yw awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu gwrthwynebu cais ar gyfer cais i ddatblygu...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n ymwybodol bod cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Gaerfyrddin am estyniad i fwyngloddio yng Nglan Lash. Ar hyn o bryd, ni ofynnwyd i Lywodraeth Cymru ystyried unrhyw estyniad i awdurdodiad trwydded cyfatebol yr Awdurdod Glo. Pe bai cais yn cael ei wneud, byddwn yn ei ystyried yn erbyn ein polisi datganedig.
Lesley Griffiths: Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch morgeisi. Swyddogaeth Llywodraeth, rwy'n credu, yw bod â stiwardiaeth ofalus iawn o'n trethi ac o'n harian, ac, yn sicr, mae'n ddull di-hid iawn y mae Llywodraeth y DU yn ei fabwysiadu, ac rydym ni wedi gweld y penawdau heddiw ynghylch morgeisi. Nid wyf i wedi cael y cyfle i drafod unrhyw beth yn ymwneud â chynllun achub morgeisi...
Lesley Griffiths: Fel y dywedais, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n amlwg yn gyfrifol am dai, wrthi'n ystyried uchafswm y cynnydd i rent cymdeithasol, er enghraifft, yng Nghymru, a bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud maes o law. Nid wyf i yma i lunio polisi tai ar amcan, ond rwy'n amlwg yn ymwybodol bod y Gweinidog yn edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud. Ond mae'n bwysig...
Lesley Griffiths: Fe wnaethoch chi grybwyll y polisi y mae Llywodraeth yr Alban yn ei gyflwyno bellach. Rwy'n credu fy mod i wedi ateb yr wythnos diwethaf ar ran y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddweud y bydd hi, yn amlwg, yn edrych yn ofalus iawn arno, ond mae'n bwysig iawn nad ydym ni'n cael canlyniadau anfwriadol o bolisi o'r fath. Fe wnaethoch chi sôn am yr hyn a wnaethom ni yn ystod pandemig COVID-19 i...
Lesley Griffiths: Yn gyntaf oll, rwy'n cynrychioli dinas Wrecsam, nid tref Wrecsam. Nid yw'n fater o—. Wrth gwrs mae'n ddrwg gennym ni bod yn rhaid i bobl aros am gyfnod maith. Rydych chi'n peintio'r darlun hwn o weddill y DU sydd ddim yn wir. Soniais am y cyllid sylweddol a roddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, soniais am sut rydym ni wedi gweld cwymp eto am y pedwerydd mis yn olynol,...
Lesley Griffiths: Rwy'n mynd yn ôl—nid yw'n fater o ddweud 'sori', ydy e? Mae'n fater o wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu helpu'r bwrdd iechyd i ddarparu'r triniaethau a'r llawdriniaethau sydd eu hangen cyn gynted â phosib. Rydych chi'n gwneud iddi swnio fel pe bai dim ond yng Nghymru y mae gennym ni restrau aros; wrth gwrs mae gennym ni restrau aros ledled y DU. Rwy'n sylweddoli ein bod ni'n edrych ar y...
Lesley Griffiths: Wel, wrth gwrs, dydyn ni ddim eisiau i neb fod yn aros am gyfnodau maith o amser. Os ydych chi mewn poen a bod angen llawdriniaeth arnoch chi, yna yn amlwg rydym ni eisiau cael y llawdriniaeth honno a'r triniaethau hynny cyn gynted â phosib. Byddwch yn ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi cyllid sylweddol i mewn i'r GIG, ac mae'n cynnwys bwrdd iechyd y...
Lesley Griffiths: Wel, nid wyf i'n adnabod y darlun rydych chi'n ei bortreadu. Yn sicr nid wyf i'n credu bod athrawon ffiseg a'r gair 'argyfwng' yn mynd gyda'i gilydd, ac yn sicr nid wyf i'n credu y byddai'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn cytuno â chi chwaith. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod recriwtio myfyrwyr sy'n astudio i addysgu ffiseg i addysg athrawon gychwynnol yn parhau i fod yn is na'r...
Lesley Griffiths: Diolch. Rydym ni'n asesu niferoedd yr athrawon ffiseg mewn swyddi yn barhaus, ac mae nifer y penodiadau o'u cymharu â'r swyddi a hysbysebwyd wedi aros yn gymharol gyson dros y pum mlynedd diwethaf. Yn 2020-21, arweiniodd cynnydd i recriwtio cyffredinol i raglenni addysg gychwynnol athrawon uwchradd at 36 y cant o newydd-ddyfodiaid yn astudio i addysgu pynciau STEM.
Lesley Griffiths: Yn sicr. Mae gan bawb yr hawl i brotestio'n heddychlon, ac rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud ynghylch datganoli cyfiawnder. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd. Mae'r Bil Trefn Gyhoeddus, rwy'n credu, wedi cael ei ohirio bellach. Yn sicr, ni fyddwn ni'n cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Senedd ar hyn o bryd.
Lesley Griffiths: Diolch. Ie, byddwn i'n sicr yn ymuno â chi i ganmol y gwaith maen nhw'n ei wneud. Maen nhw'n amlwg iawn ar strydoedd ein pentrefi, ac, yn amlwg, rwy'n adnabod Coedpoeth yn dda iawn. Rwy'n credu mai'r rheswm i ni gyflwyno'r cyllid ar gyfer 100 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu arall, gan lenwi bylchau'r Swyddfa Gartref, gadewch i ni ddweud, oedd o ran gwneud yn siŵr bod y cymorth...
Lesley Griffiths: Diolch. Fe wnaethoch chi sôn am gael gorchmynion gwasgaru—rwy'n credu eich bod chi wedi dweud ychydig y tu allan i'ch etholaeth chi. Yn amlwg, mater i weithrediadau'r heddlu yw hynny, ond mae'n sicr yn tanlinellu pwysigrwydd y dull ataliol yr ydym ni fel Llywodraeth yn ei fabwysiadu i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Soniais fod gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn sicr, y...
Lesley Griffiths: Rwy'n credu bod Jayne Bryant yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac rwy'n gwybod, fel AS, mae ein bagiau post yn aml yn cynnwys llawer o etholwyr sy'n poeni'n fawr am yr hyn efallai y byddech chi'n ei alw'n ymddygiad gwrthgymdeithasol 'lefel isel'. Mae gan bawb yr hawl i heddwch a thawelwch yn eu cartrefi eu hunain, ac rydych chi newydd godi mater pwysig ynghylch cymunedau hefyd. Ac rwy'n credu,...
Lesley Griffiths: Diolch. Er bod plismona yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl ar hyn o bryd, rydym ni wedi ymrwymo i barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan weithio'n agos gyda'r Swyddfa Gartref ar hyn. Ar hyn o bryd, rydym ni'n ariannu 600 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i helpu i gadw pobl a chymunedau yn ddiogel ledled Cymru.
Lesley Griffiths: Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn amlwg mae angen i Lywodraeth Cymru weithio'n agos iawn â Llywodraeth y DU mewn perthynas â llawer o'r materion a grybwyllwch. Fe fyddwch yn deall nad yw'r Llywodraeth newydd sy'n dod i mewn wedi cael—. Yn sicr nid ydynt wedi cael mis mêl. Mae wedi bod yn gyfnod anodd ar gyfer ymgysylltu â Gweinidogion newydd, felly nid wyf yn ymwybodol o...
Lesley Griffiths: Ers mis Tachwedd 2021, rydym wedi cyhoeddi cyllid o £380 miliwn i helpu aelwydydd Cymru i reoli'r argyfwng costau byw. Mae Cynllun Lesio Cymru yn gwella mynediad at dai yn y sector rhentu preifat fforddiadwy mwy hirdymor. Mae cronfa atal digartrefedd ychwanegol gwerth £6 miliwn wedi cael ei darparu i awdurdodau lleol er mwyn helpu i gynnal tenantiaethau pobl ac osgoi digartrefedd.