Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Yn amlwg, bydd eisiau ychydig amser i bori drwy'r ddogfen nid ansylweddol hon cyn dod i gasgliad terfynol ynglŷn â beth yw fy marn i amdani. Ond, yn sicr, mae yna ambell bwynt yn codi dwi angen holi ynglŷn ag ef. Dwi'n falch eich bod chi'n cydnabod yr effaith rŷn ni eisoes yn ei gweld i'r argyfwng hinsawdd, a'r effaith y mae...
Llyr Gruffydd: Mae'r sector ynni hydro wedi cysylltu â fi yn mynegi gofid ynglŷn â sefyllfa trethi busnes annomestig. Fe fyddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, fod grant wedi bod yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf er mwyn cynorthwyo gyda thalu hynny a gwarchod y prosiectau hynny rhag cynnydd sylweddol posib yn y dreth annomestig. Mae yna dros flwyddyn nawr ers i'r...
Llyr Gruffydd: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau ymarferol mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yng ngogledd Cymru er mwyn ateb yr argyfwng hinsawdd? OAQ54687
Llyr Gruffydd: Fyddwn ni ddim yn cefnogi gwelliant y Blaid Lafur heddiw oherwydd yr hyn mae'r gwelliant am ei wneud yw dileu ein cynnig ni yn ei gyfanrwydd a chyflwyno rhywbeth sy'n sôn am bwysigrwydd ymgysylltu. Ac mor bwysig ag yw e, wrth gwrs, yr holl reswm dŷn ni'n dod â'r cynnig hwn gerbron heddiw yw er mwyn sefydlu'r egwyddor bod yr hyn sy'n cael ei gynnig yn anghywir yn y lle cyntaf. Mi fyddwn...
Llyr Gruffydd: Wel, ni chlywais unrhyw edifeirwch yno ynglŷn â'r ffaith ein bod wedi cyrraedd lle rydym wedi cyrraedd ar y mater hwn. Efallai y byddai ymddiheuriad wedi bod yn braf, neu o leiaf rhyw gydnabyddiaeth na ddylai fod wedi dod i hyn—ail ddadl yn y Siambr yn gofyn am yr egwyddor honno i gadarnhau na ddylai'r argymhellion hyn fynd yn eu blaenau. Mae'r Gweinidog yn dweud wrthym ei fod yn fater...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nawr, yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, penderfynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddent yn gorfodi nyrsys, bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd i ymestyn eu sifftiau heb unrhyw dâl ychwanegol. Y cynllun oedd gorfodi egwyl di-dâl o 30 munud ychwanegol fesul shifft, er nad oes gan lawer o nyrsys amser i gael eu hegwyl fel y mae wrth gwrs. A...
Llyr Gruffydd: Wel, un o’r bobl hynny yw Philip Burns, sydd wedi cael ei gyflogi gan y bwrdd, mae’n debyg, i fod yn rhan o’r broses o geisio adnabod cyfleoedd i arbed pres. Nawr, yn ôl y sôn, mae e’n cael ei dalu £2,000 y dydd, ynghyd â chostau i deithio nôl ac ymlaen o Marbella. Dwi wedi gofyn i’r bwrdd iechyd i gadarnhau ydy hyn yn wir ers dros fis. Dwi ddim wedi cael ymateb, ac felly dwi...
Llyr Gruffydd: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o ymgynghorwyr allanol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ54597
Llyr Gruffydd: Mae rheoliadau yn Llundain ers y 1970au wedi bod yn wahanol i weddill Lloegr o ran rheoli'r defnydd o dai marchnad agored fel ail gartrefi. Arferai'r rheoliadau yn Llundain atal defnydd o eiddo preswyl yn 32 bwrdeistref Llundain fel eiddo gwyliau i'w osod dros dro, a gwnaed hyn drwy reoliadau a oedd yn galw am ganiatâd cynllunio i newid y defnydd. Prif bwrpas hyn, wrth gwrs, oedd gwarchod y...
Llyr Gruffydd: Rŷn ni yn ymwybodol erbyn hyn fod yna dros 24,000 o ail gartrefi yng Nghymru, gyda bron i 5,000 ohonyn nhw yng Ngwynedd, ac mae yna dros 4,000 ohonyn nhw yn sir Benfro. Yn wir, yn 2017-18, roedd bron i 40 y cant o'r tai a gafodd eu gwerthu yng Ngwynedd a dros draean o'r tai a werthwyd ar Ynys Môn wedi eu gwerthu fel ail dai. Felly, yn ei hanfod, rŷn ni'n sôn am broblem economaidd mwy...
Llyr Gruffydd: Dwi'n codi i groesawu ac i gefnogi'r cynnig deddfwriaethol yma. Wrth restru'r holl gamau—y nifer o gamau—y byddai modd i'w cymryd, roedd e'n dechrau swnio fel maniffesto Plaid Cymru nôl yn 2016, ond yn sicr dwi yn falch iawn o weld bod yr uchelgais o gael Cymru yn arwain y byd yn y maes yma yn un sydd yn y cynnig. Oherwydd mae'n rhaid imi ddweud dŷn ni ddim wedi gweld digon o symud gan...
Llyr Gruffydd: Diolch ichi am eich ateb. Wrth gwrs, mae yna nifer fawr o gwestiynau yn deillio o'r hyn sydd wedi digwydd. Yn y lle cyntaf, dwi'n meddwl, mae pobl yn crafu eu pennau ac yn gofyn i'w hunain, 'Beth aeth o'i le?' Oherwydd dim ond yn 2017 y cafodd y cwmni £22 miliwn o fuddsoddiad—£5 miliwn o hwnnw gan Lywodraeth Cymru, £2 filiwn ymhellach gan Cyllid Cymru—a wedyn, fisoedd yn ddiweddarach,...
Llyr Gruffydd: Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, mae cyd-destun y cwestiwn yma wedi newid ychydig ers ei osod e, ond mae e'n dal yn ddilys.
Llyr Gruffydd: 1. Yn dilyn yr ansicrwydd am brosesydd llaeth Tomlinsons Dairy, a’r ffaith fod yna 70 o ffermydd llaeth a channoedd o swyddi yn ddibynol ar yr hufenfa, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo’r cwmni a’r gweithlu? 351
Llyr Gruffydd: Dwi am ofyn am ddatganiad ar ddyfodol y sector prosesu bwyd yng Nghymru yn ehangach. Rŷn ni wedi clywed am drafferthion Tomlinsons, wrth gwrs, a goblygiadau hynny, a hynny'n dod prin 18 mis ar ôl colli Arla yn Llandyrnog hefyd. Mae yna issues, felly, o safbwynt prosesu llaeth. Ond, wrth gwrs, mi glywon ni wythnos diwethaf hefyd am Randall Parker Foods yn Llanidloes, fydd bellach ddim yn...
Llyr Gruffydd: Newyddion ffug.
Llyr Gruffydd: 'Dylid' neu 'na ddylid'?
Llyr Gruffydd: Diolch. Dyna'r cyfan rwyf ei eisiau.
Llyr Gruffydd: O'r gorau, diolch.
Llyr Gruffydd: Roeddwn am sôn am rywbeth y gofynnodd Leanne Wood i chi yn gynharach, rhywbeth na wnaethoch ymateb iddo'n uniongyrchol, felly roeddwn am roi cynnig arall arni a gofyn am 'ie' neu 'na' syml, os oes modd. Roeddwn yn meddwl tybed a allech gadarnhau y dylid defnyddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel ystyriaeth berthnasol gan bwyllgorau cynllunio wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau...