Canlyniadau 641–660 o 8000 ar gyfer speaker:Mark Drakeford

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Cynllun Gweithredu LHDTC+ Arfaethedig ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd diogelwch menywod o ddifrif. Drwy asesiadau effaith, ymgysylltu â'r panel arbenigol LHDTC+, a thros 1,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym yn parhau i werthuso effeithiau posibl ein cynllun gweithredu LHDTC+ ar hawliau a diogelwch menywod.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Rhaglen Caffael Seilwaith Gwastraff ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Joel James am y cwestiwn ychwanegol yna. Mae'n iawn i ddweud bod y rhaglen wedi helpu i ddarparu rhwydwaith o bum safle treulio anaerobig yn ogystal â dau gyfleuster adfer ynni yn y gogledd a'r de, ac er bod y rhaglen ei hun wedi dod i ben, nid yw hynny'n golygu nad ydym bellach yn darparu cymorth ariannol i awdurdodau lleol a'u partneriaid, yn enwedig, er enghraifft,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Rhaglen Caffael Seilwaith Gwastraff ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Mae rhaglen gaffael seilwaith gwastraff Llywodraeth Cymru wedi'i chwblhau'n llwyddiannus, gyda'r contract diwethaf wedi'i ddyfarnu yn 2018.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth i Blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Wel, rwy'n credu bod y rheini'n bwyntiau pwysig iawn, Llywydd. Rwyf eisiau cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd Hefin David nawr am ddull yn seiliedig ar gryfderau yn y maes hwn. Am gyfnod rhy hir, mae gwasanaethau'n gofyn, fel eu cwestiwn cyntaf, 'Beth sydd o'i le arnoch chi?' ond rwyf i eisiau i'r cwestiwn cyntaf ofyn, 'Pa gryfderau sydd gennych? Pa asedau sydd gennych? Sut y gallwn ni...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth i Blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Hefin David am y cwestiwn. Pan fydd y Senedd yn dychwelyd yr hydref hwn, byddwn wedi cwblhau blwyddyn gyntaf y gwaith tair blynedd a gynlluniwyd ar gyfer gweithredu ein Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Cefnogir y gweithredu hwnnw gan £21 miliwn bob blwyddyn i sicrhau gwelliannau i wasanaethau.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Diolch i Carolyn Thomas am hynna, Llywydd. Un o nodweddion nodedig cynllun treialu Llywodraeth Cymru yw nad yw dim ond yn cynnig incwm i bobl ifanc. Mae'r incwm yn bwysig iawn oherwydd ei fod wedi'i warantu ac mae'n ddibynadwy. Roeddwn yn siomedig o weld ymateb Ceidwadwyr Cymru i'r cynllun treialu. Wrth feddwl am y cwestiynau a ofynnodd arweinydd yr wrthblaid imi'n gynharach, gwyddom, i...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Diolch i Carolyn Thomas, Llywydd. Mae'r cynllun treialu yn brosiect radical ac arloesol sy'n cynnig sefydlogrwydd ariannol i dros 500 o bobl sy'n gadael gofal yng Nghymru. Mae bron i 100 o bobl ifanc yn y gogledd yn gymwys ar gyfer y cynllun treialu, a bydd hyn yn eu galluogi i wneud dewisiadau cadarnhaol yn unol â'r gobeithion a'r uchelgeisiau sydd ganddyn nhw ar gyfer eu bywydau eu hunain.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Teithio i'r Ysgol ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Efallai y dylwn i ddatgan buddiant ar hyn o bryd, oherwydd rwyf i'n defnyddio beic trydan y dyddiau hyn, sydd gennyf am bythefnos fel rhan o gynllun gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i bobl roi cynnig ar wahanol fathau o drafnidiaeth i weld a ellir eu gwneud yn ddefnyddiol, ac mae wedi bod yn brofiad da iawn, mae'n rhaid imi ddweud. Diolch i'r grŵp...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Teithio i'r Ysgol ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r arolwg Dwylo i Fyny, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi darparu asesiad cenedlaethol o'r ffordd y mae plant ysgol gynradd yn teithio i'r ysgol. Bydd yr astudiaeth ddilynol yn dangos graddau'r gwelliant mewn teithio llesol yn y cyd-destun ar ôl y pandemig.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Atebais gwestiwn yn gynharach gan yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, a gyfeiriodd at y cynnydd presennol mewn achosion o'r coronafeirws yng Nghymru. Nid wyf yn credu ei bod yn cael ei chydnabod yn aml mai'r grŵp unigol o weithwyr yn y boblogaeth yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan coronafeirws oedd gweithwyr mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Roeddech chi'n fwy tebygol o fynd yn sâl, ac yn wir yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Mae'r rheini'n bwyntiau pwysig y mae Altaf Hussain yn eu gwneud am natur angori'r sefydliadau mawr hynny. Mae fy nghyd-Aelod Jeremy Miles yn glir gyda'r awdurdodau lleol hynny ac agweddau eraill ar y system addysg bellach sy'n cymryd rhan yn ein rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain na fydd y cynigion hynny'n cael eu cymeradwyo yn y dyfodol oni bai bod cynllun teithio...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Diolch i Sioned Williams am y cwestiynau yna. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn rhai o'r cymunedau yn ei rhanbarth, ond nid wyf yn credu ei bod yn cynnig disgrifiad teg inni o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan fetro bae Abertawe. Mae'r rhaglen eleni, er enghraifft, yn cynnwys astudiaethau achos busnes ac astudiaethau dichonoldeb i ddarparu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Diolch i Sioned Williams am y cwestiwn. Yr wythnos diwethaf, cafodd pecyn cymorth gwerth £48 miliwn arall ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Cymorth yw hwn i gefnogi'r broses o adfer gwasanaethau bysiau yng Ngorllewin De Cymru, ac ardaloedd eraill, yn dilyn y pandemig. Bydd mesurau i ddiwygio'r diwydiant a dad-wneud y niwed o ddadreoleiddio yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Gadewch imi wneud y ddau bwynt yma i ddechrau gydag arweinydd Plaid Cymru: yn gyntaf oll, mae'n gwbl gywir, wrth gwrs, ein bod, yn 'Sicrhau Dyfodol Cymru' wedi dadlau dros adael yr Undeb Ewropeaidd ar y sail y byddem yn aros yn yr undeb tollau a'r farchnad sengl, ond yr oedd hynny cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Bryd hynny, yr oedd hwnnw'n bolisi cwbl gredadwy, ac, mewn gwirionedd, daeth...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Dyma fy safbwynt i, Llywydd, a dyma safbwynt Llywodraeth Cymru: rydym o blaid y fasnach ddiffrithiant agosaf bosibl gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r syniad y gallwch chi fynd yn ôl i'r farchnad sengl neu'r undeb tollau yn rhywbeth ffansïol. Efallai y byddem yn dymuno y gallem ni, ond ni allwn wneud hynny. Nid ydym bellach yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw'r amodau ar gyfer gneud hynny...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Wel, rwy'n cytuno, Llywydd, fod y byd wedi symud ymlaen. Nid yw'r Deyrnas Unedig bellach yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n destun gofid i lawer ohonom yn y Siambr hon, ond mae'n dal yn ffaith. Ni allaf gofio sawl gwaith y dywedais yma, ar ôl cynnal y refferendwm, nad oedd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar Brexit fel ffaith oherwydd yr oedd hynny wedi'i benderfynu mewn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Rwy'n awyddus iawn i weld sefyllfa, Llywydd, pan nad yw pobl ifanc yn derbyn gofal o dan yr amgylchiadau anfoddhaol iawn hynny. Ers etholiadau mis Mai diwethaf, rwyf wedi bod yn cyfarfod, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod Julie Morgan, ag arweinwyr yr awdurdodau sydd newydd eu cyfansoddi. Un o fy negeseuon i'r arweinwyr hynny yw bod hon yn agenda iddyn nhw ac i'w prif weithredwyr, nid yn unig i...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Mae honna'n stori ofidus, Llywydd, ond mae'n adlewyrchu'n union y pwynt a wnes i'n wreiddiol y byddai plant fel Gemma wedi cael gwell gwasanaeth pe bai'r system wedi buddsoddi mewn camau ataliol ac ymyrraeth gynnar i atal y stori drist iawn yna am yr hyn sy'n digwydd i blant pan gânt eu tynnu i mewn i system nad oes ganddi'r gallu i ymateb yn iawn i'w hanghenion. Mae'n ddrwg gennyf ddweud,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n credu bod nifer o resymau y tu ôl i'r ffaith anffodus honno. Yr un mwyaf yw ein bod yn tynnu gormod o blant oddi wrth eu teuluoedd yma yng Nghymru. Mae hwn yn bwynt yr wyf wedi ceisio'i wneud ers imi fod yn Weinidog iechyd ac yn gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol. Rydym yn mynd â phlant oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru ar ddwywaith y gyfradd y mae plant yn cael eu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn Nyffryn Clwyd ( 5 Gor 2022)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, diolch i Ken Skates am hynna, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef mai'r cymorth gorau y gallwch ei gynnig, yn enwedig i bobl ifanc, ym maes iechyd meddwl yw'r ymyrraeth gynnar ac ataliol hwnnw sy'n rhoi iddyn nhw y cyngor sydd ei angen arnyn nhw. Mae'n caniatáu iddyn nhw gyfarfod ag oedolyn y gallan nhw ymddiried ynddo sydd â'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol i ymateb i'w...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.