Mike Hedges: Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, fel y gŵyr y rheolwr busnes, ym Mai 2018 cyhoeddwyd bod Canolfan Virgin Media yn Abertawe yn cau. Fis Awst diwethaf, dywedodd Virgin Media y byddai safle Llansamlet yn cau erbyn Gorffennaf 2019. Dywedodd Virgin Media ar y pryd, 'Byddwn yn cyfarfod â thasglu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y dyfodol agos, yn ogystal â chyflogwyr eraill yn yr ardal,...
Mike Hedges: Wnaf i ddim gofyn y cwestiwn o ba un a yw hynny mewn termau arian parod neu o ran cyfaint, ond y cwestiwn yr hoffwn i ei ofyn yw fy mod i'n credu os ydych chi eisiau rhoi contractau i gwmnïau lleol llai o faint, yna mae angen i faint y contract fod yn ddigon bach i gwmni lleol dendro. Os yw'r Prif Weinidog yn cytuno â'r datganiad hwnnw, a all ef amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei...
Mike Hedges: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio contractau'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ53883
Mike Hedges: Wel, fe ddefnyddiaf y gair 'llawer', ac felly efallai y gallwn gyrraedd pwynt lle'r ydym yn cytuno. Fe ofynnaf dri chwestiwn: beth sy'n digwydd pan fydd y plant yn sâl neu ar wyliau o'r ysgol? Bryd hynny, mae'n rhaid i rieni ddod o hyd i 10 pryd ychwanegol yr wythnos i bob plentyn. A oes ryfedd mai gwyliau ysgol yw'r amseroedd prysuraf i fanciau bwyd? Byddaf bob amser yn cofio'r fam a...
Mike Hedges: Os gwelwch yn dda.
Mike Hedges: Fe ddof at rywbeth tebyg iawn i hynny yn nes ymlaen. Mae canolbwyntio ar yr hyn a addysgir mewn ystafell ddosbarth yn llawer anos pan fyddwch yn llwglyd a bod yr angen am fwyd yn bwysicach na dim a addysgir i chi yn yr ystafell ddosbarth. Dyna pam rwy'n cefnogi'r ddadl hon heddiw a pham y credaf ei bod yn bwysig dros ben i blant gael digon o fwyd yn yr ysgol a chael prydau iach i'w bwyta. Y...
Mike Hedges: I lawer o blant, gan gynnwys llawer yn fy etholaeth i, eu hysgol yw prif ffynhonnell eu bwyd yn ystod y tymor. Y prydau brecwast a hanner dydd a ddarperir mewn ysgolion yw'r unig brydau a gânt, gyda dim ond byrbrydau gartref ar ben hynny. Bydd plant yn mynd i'r ysgol yn y bore heb fwyta'n iawn ers eu pryd canol dydd yn yr ysgol y diwrnod cynt. Nid rhianta gwael yw hyn, tlodi yw hyn,...
Mike Hedges: Gwyddom am y problemau sy'n bodoli, problemau fel y cafodd yr Alban pan gafodd y dreth incwm ei datganoli gyntaf, ac os mai dyma'r unig broblem a gawn, yna credaf y dylid ei datrys yn weddol gyflym. Ond pan fyddwch chi'n gweld problem yn digwydd fel hyn, mae yna nerfusrwydd ynglŷn ag a allai problemau eraill fod wedi digwydd hefyd. Gwyddom mai'r problemau mwy yn yr Alban oedd y methiant i...
Mike Hedges: Gwyddom mai dwywaith yn unig ers y rhyfel byd cyntaf yr adeiladwyd y niferoedd angenrheidiol o dai i ateb y galw. Digwyddodd hynny unwaith ym 1930 pan nad oedd fawr ddim rheolaeth dros ddatblygu; credaf mai dyna roedd Mohammad Asghar yn gofyn yn ei gylch yn gynharach. A'r ail dro oedd yn y 1950au a'r 1960au pan adeiladwyd tai cyngor ar raddfa fawr, ac nid yn unig adeiladu tai cyngor ar raddfa...
Mike Hedges: Mae'r ecosystem yn cael ei chynnal drwy gydbwysedd, ond bydd colli ysglyfaethwyr ar frig y gadwyn fwyd yn arwain at gynnydd mewn rhai rhywogaethau, gan achosi niwed pellach i'r ecosystem. Rydym ynghanol y cyfnod mwyaf o rywogaethau'n cael eu colli ers 60 miliwn o flynyddoedd. Mae dinistrio cynefinoedd, ecsbloetio a newid yn yr hinsawdd yn mynd i arwain at golli dros hanner poblogaeth...
Mike Hedges: Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Gofynnaf y cwestiwn hwn fel rhywun sydd wedi gwrthwynebu llosgi gwastraff anfeddygol ers peth amser. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ynglŷn â phwysigrwydd y gyfarwyddeb a pha mor bwysig yw ei chadw ac y cydymffurfir â hi? Er hynny, mae'n rhaid i mi ychwanegu y byddai'n well gennyf gael moratoriwm ar losgi gwastraff anfeddygol.
Mike Hedges: 1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch dyfodol y gyfarwyddeb llosgi gwastraff ar ôl Brexit? OAQ53815
Mike Hedges: A yw hynny hefyd yn golygu nad ydych am gael y ffordd osgoi yn Llandeilo?
Mike Hedges: Roeddwn yn mynd i ddweud, os ydych am ei ddymchwel, does bosibl nad oes angen i chi gael arolwg i weld a oes asbestos neu bethau eraill yn yr adeilad, a fyddai'n cynyddu'r gost o'i ddymchwel.
Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal sylfaenol yn Ninas a Sir Abertawe?
Mike Hedges: Yn gyntaf, animeiddio: ar ddechrau'r 1990au, roedd Cymru'n mwynhau oes aur cynhyrchu ym maes animeiddio. Roedd S4C yn rhan allweddol o helpu i gynhyrchu nifer o sioeau poblogaidd wedi'u hanimeiddio—Superted, Sam Tân, a gafodd ei chanu gan gyfaill i mi, Mal Pope, Gogs. Dyma rai o'r sioeau a gafodd eu cynhyrchu, sioeau proffil uchel wedi'u comisiynu a'u cynhyrchu gan S4C, a'u cynhyrchu yng...
Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r datganiad a'r cyfle i ofyn cwestiynau ynghylch dau o'r diwydiannau creadigol. Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ddau gan fy mod yn credu mai un o'r pethau sy'n fy mhryderu i yw ein bod yn siarad am ddiwydiant creadigol fel petai'n un peth. Nid dyna ydyw—mae'n llawer iawn o bethau gwahanol. Yn gyntaf, hoffwn i siarad am animeiddio, a'r peth arall yr hoffwn i siarad amdano yw...
Mike Hedges: Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Yn gyntaf, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu pa gefnogaeth sydd wedi cael ei rhoi i staff a gollodd eu swyddi ar ôl i gwmni Dawnus ddod i ben, a fydd yn effeithio ar eich etholwyr chi gymaint ag y mae'n effeithio ar fy etholaeth i, a pha gymorth pellach fydd yn cael ei ddarparu. Daeth i ben mewn modd trychinebus,...
Mike Hedges: Mae'n ddiddorol dod at adroddiad y gellid ei grynhoi orau drwy ddweud, 'Aeth popeth yn dda.' Gallwch ddweud hynny yn ôl nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y ddadl a nifer y bobl yma. Pe bai'r datganiad wedi dweud bod popeth wedi mynd yn wael, byddai'n ddadl hir iawn, a byddem yn ei chael hi'n anodd ei chwblhau o fewn yr awr, a byddai pobl yn ciwio i'w chlywed. Os gallaf ateb pwynt olaf Nick...
Mike Hedges: Diolch. Credaf mai mynychu Ti a Fi, y Mudiad Meithrin neu raglen cyfrwng Cymraeg Dechrau'n Deg yw'r ffordd orau i baratoi plant, yn enwedig y rhai o deuluoedd di-Gymraeg, ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau bod plant yn cael mynediad cyfartal at raglenni cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg Dechrau'n Deg? Hynny yw, mae'r ddwy raglen ar gael ac nid yw'r...