Canlyniadau 641–660 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

8. Dadl Plaid Cymru: Cyllideb Llywodraeth y DU a Chymru (29 Tach 2017)

Caroline Jones: Nid oedd cyhoeddiad cyllidebol Llywodraeth y DU yn chwyldroadol ac er bod y cyllid ychwanegol i Gymru i'w groesawu, roedd yn siomedig nad oedd unrhyw gyhoeddiad ar forlyn llanw bae Abertawe. Mae bron i flwyddyn ers i adolygiad Hendry gael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU, ac eto ni chawsom ddim heblaw distawrwydd gan Weinidogion y DU. Testun mwy o bryder na'r diffyg unrhyw sôn am y morlyn...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cefnogi'r Lluoedd Arfog (29 Tach 2017)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi hefyd eich croesawu i'ch rôl? Mawr yw ein diolch i'r lluoedd arfog. Y ffordd orau o ad-dalu'r ddyled yw sicrhau ein bod yn edrych ar eu hôl hwy a'u teuluoedd. Efallai y bydd aelodau o'r lluoedd arfog angen help ychwanegol gyda chynhyrchion ariannol oherwydd eu bod yn gorfod adleoli'n aml. Mae'n bosibl y bydd teuluoedd y personél hyn angen gofal a...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Llygredd Aer (29 Tach 2017)

Caroline Jones: Hoffwn innau eich llongyfarch hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n ddrwg gennyf; Weinidog—mae pobl sy'n byw yn fy rhanbarth yn gorfod ymdopi â pheth o'r llygredd aer gwaethaf yn y DU. Am ychydig ddyddiau yn ystod y mis hwn, bu'n rhaid i blant ysgol ym Margam ymdopi â lefelau PM10 ar ddwywaith y terfyn dyddiol diogel. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, dyma un o'r heriau iechyd...

3. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (28 Tach 2017)

Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. A hoffwn i hefyd dalu teyrnged i waith ac ymroddiad Carl Sargeant yn y maes hwn. Fel y mae eraill wedi amlygu, mae canlyniadau plant sy'n derbyn gofal yn llawer is nag ar gyfer plant nad ydynt yn ein system gofal. Mae'n rhaid i ni ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer y plant hyn, sydd eisoes wedi cael y dechrau gwaethaf posibl...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (28 Tach 2017)

Caroline Jones: Prif Weinidog, er gwaethaf Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, mae bron chwarter y cleifion yng Nghymru yn aros yn hwy na 28 diwrnod am asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, a bydd 20 y cant o'r cleifion hynny yn aros mwy na 28 diwrnod am driniaeth yn dilyn yr asesiad. Yn y misoedd diwethaf, rydym ni wedi cael rhybuddion am brinder seiciatryddion ymgynghorol a phroblemau...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (28 Tach 2017)

Caroline Jones: Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr ystad carchardai yng Nghymru?

7. Dadl UKIP Cymru: trethi newydd yng Nghymru (22 Tach 2017)

Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae trethiant, er ei fod yn un o'r pynciau mwyaf ymrannol, yn un o'r ysgogiadau economaidd pwysicaf y gall Llywodraeth eu rheoli. Rydym i gyd yn cytuno â'r penderfyniad i roi pwerau i'r Cynulliad dros drethiant. Mae hyn yn dangos y newid o fod yn sefydliad sy'n gwario i un sydd bellach yn gyfrifol am godi rhywfaint o'r arian a wariwn ar wasanaethau cyhoeddus. Mae...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Hen Ardaloedd Diwydiannol (22 Tach 2017)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf 18 mlynedd o bolisïau economaidd eich Llywodraeth, mae hen ardaloedd diwydiannol Cymru, yn enwedig y rhai yn fy rhanbarth, yn parhau i fod ymhlith y tlotaf yn Ewrop—ac mae hynny'n syfrdanol o ystyried bod yr UE wedi ehangu i gynnwys cyn-wledydd dibynnol Sofietaidd. Nid yw arian strwythurol yr UE wedi gweithio. Nid yw'r polisïau wedi gweithio. Mae gennym...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (22 Tach 2017)

Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru?

4. Dadl: Mynd i’r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau (21 Tach 2017)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae camddefnyddio sylweddau yn difetha bywydau—nid dim ond bywyd yr unigolyn sy'n defnyddio'r sylwedd ond mae’r uned deuluol gyfan i gyd yn dioddef. Does neb yn ennill o dan yr amgylchiadau hyn, oni bai bod yr unigolyn yn cael y cymorth sydd ei angen. Yn ystod fy amser yn gweithio mewn carchar, gallaf eich sicrhau fy...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dementia (21 Tach 2017)

Caroline Jones: Prif Weinidog, yn ôl Iechyd yng Nghymru, mae dementia yn effeithio ar dros 42,000 o bobl dim ond yng Nghymru, ac amcangyfrifir, mewn ychydig flynyddoedd yn unig, gallai hyn gynyddu gan o leiaf traean. Mae'n hanfodol felly bod Cymru'n dod yn genedl ystyriol o ddementia cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n byw gyda'r cyflwr ofnadwy hwn, a'u teuluoedd, yn cael eu cefnogi ar...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Tach 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Rydym yn ymwybodol iawn fod gofal cymdeithasol yn wynebu galw cynyddol. Yn anffodus, nid ydym yn ateb y galw hwnnw. Amlygir hyn yn glir iawn yn adroddiad diweddar Age Cymru 'Care in Crisis'. Canfu Age Cymru nad oedd pobl hŷn mewn rhai rhannau o Gymru yn cael yr asesiadau gofalwyr angenrheidiol, a bod amrywio enfawr rhwng awdurdodau lleol. Roedd...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Tach 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Wrth gwrs, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i fod i drawsnewid y modd y darperir gofal cymdeithasol, a sicrhau bod pawb sydd angen gofal yn cael gofal. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir. Nid yn unig ein bod yn gweld cleifion yn cael eu hanfon adref heb neb i helpu i ddiwallu eu hanghenion gofal, ond mae gennym hefyd...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Tach 2017)

Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Gweinidog, pan oeddwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf, cysylltodd—dywedodd—etholwr wrthyf fod eu cymydog wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty ychydig ddyddiau'n unig ar ôl cael strôc, ond unwaith eto, nid oedd cynllun gofal ganddynt ar waith. Nid oedd gan yr unigolyn dan sylw unrhyw deulu gerllaw a bu'n rhaid iddynt ofalu am eu hunain. Yn anffodus, nid yw...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd: Derbyniadau sy'n Gysylltiedig â Chyffuriau (15 Tach 2017)

Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cynnydd enfawr wedi bod yn nifer y canabinoidau synthetig, megis Spice, er gwaethaf newid yn y gyfraith. Mae ysbytai ledled Cymru bellach yn trin mwy na thri o bobl y dydd mewn perthynas â'r sylweddau hyn. Mae pobl o dan ddylanwad Spice wedi dod yn olygfa rhy gyffredin o lawer yn ein trefi a'n dinasoedd, ac mae'r effeithiau wedi arwain at...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd: Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt (15 Tach 2017)

Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ôl y swyddog mynediad yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, nid oes gan fyfyrwyr Cymru ddigon o hyder i ymgeisio am le yn Rhydychen a Chaergrawnt, ac er bod rhaglen Seren yn helpu rhai myfyrwyr, nid ydym yn gwneud digon o hyd i herio ein disgyblion gorau a mwyaf disglair. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod myfyrwyr...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Tach 2017)

Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, a wnewch chi ymgymryd â'r gwaith o archwilio pa mor gyffredin yw bwlio ymhlith staff ysgolion er mwyn sicrhau bod ysgolion yn barthau di-fwlio nid yn unig o ran y plant, ond o ran pob math o staff sy'n ymwneud â gwaith yr ysgol, ac ystyried llwybr disgyblu penodol ar gyfer ymchwilio i honiadau o fwlio, gan roi'r statws arbennig a...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Tach 2017)

Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y sylw a gawsoch yn y cyfryngau ar yr adeg honno, roeddech yn iawn i siarad am y niwed y gall bwlio ei wneud i ddysgu a chynnydd plant yn yr ysgol. A fuasech yn cytuno â mi y gallai bwlio ymhlith athrawon, ar wahân i'r gofid y byddai'n ei achosi i fywyd personol a phroffesiynol yr athro, effeithio'n negyddol hefyd ar ein plant ysgol, gan y...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Tach 2017)

Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Mawrth eleni, fe gawsoch sylw gan y wasg am siarad am gydraddoldeb a bwlio mewn ysgolion. Roedd y cyhoeddiadau'n canolbwyntio'n bennaf ar fwlio homoffobig, biffobig a thrawsffobig yn yr ysgolion. A all y Gweinidog gadarnhau nad yw unrhyw fath o fwlio yn dderbyniol, ac er bod yr erthygl yn iawn i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â bwlio o'r...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd: Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt (15 Tach 2017)

Caroline Jones: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n mynd i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt? OAQ51270


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.