Mark Isherwood: 5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i bobl â chyflyrau niwro-amrywiol yng Nghymru? OAQ55245
Mark Isherwood: Rydych yn garedig iawn. Cyfeiriodd Caroline Jones hefyd at ganser y prostad, ac yn ystod y datganiad busnes ddoe, wrth alw am ddatganiad, awgrymwyd y dylwn godi hyn gyda chi yn ystod y ddadl hon heddiw gan y Trefnydd. Mae Prostate Cancer UK wedi defnyddio rhyddid gwybodaeth i gael gafael ar ddata ar y sefyllfa bresennol. Nid yw tri o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wedi cyflwyno gwasanaethau...
Mark Isherwood: Wel, cyfeiriwyd at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac wrth gwrs, nododd eu hadroddiad 'Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru' yn 2017 nad oes gan ogledd Cymru y niferoedd o enedigaethau sydd eu hangen i gynnal uned mamau a babanod arbenigol, ac roeddent yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n rhagweithiol â darparwyr yn Lloegr i drafod opsiynau ar gyfer creu uned mamau a babanod yng...
Mark Isherwood: Pan ddywedodd bwrdd y cynghorau iechyd cymuned a'r cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru, llais y claf yng Nghymru, eu bod nhw'n cefnogi pasio'r Bil hwn yng Nghyfnod 2 yn y broses ddeddfu, fe wnaethon nhw ddweud eu bod yn falch o weld y cynigion y dylai'r Bil gael ei gryfhau mewn meysydd, gan gynnwys ymweliadau a hawliau mynediad. Fe wnaethon nhw ddweud y dylai hawliau mynediad y corff newydd...
Mark Isherwood: Mae'r pleidleisiau ar y Bil hwn hyd yn hyn, rwy'n ofni, wedi gwanhau llais y dinesydd yng Nghymru ymhellach, wedi lleihau atebolrwydd gweision cyhoeddus ymhellach, ac wedi tynnu mwy o bŵer oddi wrth bobl a lleoedd i gyrff cyhoeddus. Ond mae'r gwelliannau hyn yn rhoi cyfle i wrthdroi'r duedd honno, pan mai lleisiau lleol annibynnol yn unig sy'n rhoi her wirioneddol yn lleol. Mae hyn yn...
Mark Isherwood: Ysgrifennodd un o'm hetholwyr ataf y mis diwethaf ar ôl cyhoeddi'r adroddiad ar archwiliad o wasanaethau fasgwlaidd ysbytai a adawodd bobl yn bryderus yng Ngogledd Cymru. Cafodd hwn ei ysgrifennu gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, y corff gwarchod cyhoeddus sy'n dwyn Bwrdd Iechyd Betsi i gyfrif, ac y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei ddiddymu—ebychnod. Fel y dywedodd y sector...
Mark Isherwood: Yn 2010 roedd datganiad cyllideb y DU, a luniwyd gan y Blaid Lafur, yn lleihau'r rhagolwg twf, yn lleihau benthyca, ac yn dweud fod graddfa'r diffyg yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian. O ganlyniad, cyhoeddodd hefyd £545 miliwn o doriadau i'r heddlu i'w gwneud erbyn 2014. Ers 2015, mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei chyfraniad at gyllid cyffredinol yr heddlu yn unol â chwyddiant,...
Mark Isherwood: A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ar raddau delweddu cyseinedd magnetig y prostad cyn biopsi ledled Cymru. Mae Prostate Cancer UK wedi rhannu ei ddata cais rhyddid gwybodaeth diweddaraf sy'n dangos faint o MRI Prostate a gynhelir cyn biopsi ar draws Cymru. Canfu hyn nad yw tri o'r saith Bwrdd Iechyd ledled Cymru hyd yma'n darparu'r sganiau i'r safonau a gafodd eu gosod gan y treial...
Mark Isherwood: Ar 22 Ionawr, ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru at eich Gweinidog iechyd, gan dynnu ei sylw at yr adroddiad y cyfeiriwyd ato—yr adolygiad annibynnol o therapïau seicolegol yn y gogledd, a gynhaliwyd yn annibynnol gan yr ymgynghoriaeth gydweithredol TogetherBetter—a thynnu ei sylw at ei ganfyddiadau o ddiffyg gweledigaeth gyffredin, eglurder a goruchwyliaeth strategol ar...
Mark Isherwood: Diolch. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu. Janet Finch-Saunders a agorodd y ddadl, wrth gwrs, gan ddweud bod y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd yn llithro allan o reolaeth gyda nifer y plant sy'n derbyn gofal yn codi 34 y cant dros 15 mlynedd, 6,845 o blant rhwng dim a 18 oed yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru ym...
Mark Isherwood: Ar ôl cyhoeddi ffigurau rhestrau aros am dai cymdeithasol ar gyfer 2018, a oedd yn nodi bod mwy na 16,500 o aelwydydd ar restrau aros am dai cymdeithasol yng Nghymru, cyfeiriodd Shelter Cymru at y sefyllfa fel argyfwng tai. Ond wrth gwrs, yn ystod yr ail Gynulliad, pan rybuddiodd ymgyrch Cartrefi i Bawb Cymru, gan gynnwys Shelter, y byddai argyfwng tai pe na bai Llywodraeth Cymru yn...
Mark Isherwood: Mewn gwirionedd, ddoe ddiwethaf, nododd astudiaeth yn The Times fod llygredd aer yn achosi mwy o farwolaethau na'r cyfanswm sy'n cael eu lladd gan ryfeloedd, malaria, AIDS ac ysmygu gyda'i gilydd. Gan gyfeirio at y tân yn Kronospan, yn y dyddiau canlynol, fel y gwyddoch, o bosibl, cynhaliodd yr AS newydd dros Dde Clwyd, Simon Baynes, gymhorthfa wyth awr gyda thrigolion yno i drafod eu...
Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cynhwysiant ariannol yng Nghymru?
Mark Isherwood: Diolch. Fel y dywed y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, troseddau casineb yw unrhyw droseddau sy'n cael eu targedu at berson oherwydd gelyniaeth neu ragfarn o ran anabledd, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, oedran, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth drawsryweddol y person hwnnw. Gallai hyn fod yn erbyn person neu eiddo. Maen nhw'n dweud nad oes yn rhaid i ddioddefwr fod...
Mark Isherwood: —sy'n uwch na'r terfyn gwaelodol y gofynnon nhw amdano.
Mark Isherwood: Rwyf dim ond yn ymateb i'ch sylw ynghylch Wrecsam, Caerdydd a sir y Fflint. Yn ffeithiol, mae Wrecsam yn cael cynnydd o 3.5 y cant, sir y Fflint 3.7 y cant, sy'n is na'r terfyn gwaelodol o 4 y cant y gwnaethant ofyn amdano, ond mae Caerdydd yn 4.2 y cant—
Mark Isherwood: O dan fformiwla ariannu llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, cafodd naw o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru gynnydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym fod dangosyddion amddifadedd yn dylanwadu'n drwm ar ei fformiwla. Ar y cyd â sir y Fflint, roedd y cynghorau a oedd â'r toriadau mwyaf eleni o 0.3 y cant yn cynnwys Conwy ac Ynys Môn—wel, maen nhw ymysg...
Mark Isherwood: Mae Cronfa'r Teulu wedi rhoi gwybod am ostyngiad pellach yn y cyllid y maen nhw'n ei gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, er gwaethaf y lefelau uchel o angen a welant mewn teuluoedd sy'n magu plant anabl. Mae Cyngor Cymru i'r Deillion wedi rhybuddio bod y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi symud i ffwrdd o'r model cyllid craidd o ariannu prosiectau yn golygu bod cynaliadwyedd...
Mark Isherwood: 5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwirfoddoli a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru? OAQ55153
Mark Isherwood: Canfu arolwg prif weithredwr PwC y mis diwethaf fod prif weithredwyr Ewropeaidd yn ystyried y DU fel marchnad allweddol ar gyfer twf a buddsoddi, y tu ôl i'r Unol Daleithiau, Tsieina a'r Almaen yn unig ar y llwyfan rhyngwladol. Ar ddiwrnod Brexit, adroddodd ITV Wales am fusnesau a oedd wedi siarad am y cyfleoedd a allai godi y tu allan i'r UE, gan ddyfynnu cwmnïau yn y sector awyrofod...