Jeremy Miles: Diolch, Lywydd. Heddiw, dwi’n cyflwyno adroddiad blynyddol ar ein strategaeth iaith, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr', a hynny ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21, blwyddyn olaf y Llywodraeth ddiwethaf. Cyn cychwyn heddiw, os caf i, Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg. Roedd Aled yn achub ar bob cyfle i ysbrydoli a chefnogi’r rheini oedd angen cymorth a...
Jeremy Miles: Wel, o ran y—. Mae cwestiwn yr Aelod yn canolbwyntio'n bennaf ar y flwyddyn ysgol. Rwy'n credu, i fod yn glir, ar hyn o bryd ein bod ni ar y cam o gasglu'r ystod o leisiau, os hoffwch chi; y cam nesaf fydd gweld beth yw casgliad y broses honno, a bydd cyfle parhaus, os hoffwch chi, i drafod ac ymgynghori â'r holl sectorau a phartïon dan sylw. Ond ar y cam cynnar hwn o'r trafodaethau hynny...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. O ran y dystiolaeth, roeddech chi'n iawn i sôn am dystiolaeth yr EPI, sydd yn un o'r ffynonellau o dystiolaeth. Mae yna, wrth gwrs, fel roeddech chi'n ei gydnabod yn eich cwestiwn, amrywiaeth o enghreifftiau sydd yn dod o ffynonellau eraill, yn cynnwys yn rhyngwladol, sy'n dangos patrymau sydd o bwys inni wrth edrych ar sut i strwythuro, ar sut i...
Jeremy Miles: Diolch, Laura Anne Jones, am eich croeso i'r gyfres hon o dreialon. Rwy’n credu, fel yr ydych chi’n ei ddweud, wrth sôn am ddechrau o’r dechrau, rydym yn ceisio ailddyfeisio system sydd wedi bod ar waith mewn rhai ffyrdd ers amser maith. Ond rydych chi’n iawn i ddweud ei bod yn bwysig casglu tystiolaeth o bob ffynhonnell, ac mae yna gasgliad cyfoethog iawn o dystiolaeth mewn rhannau...
Jeremy Miles: Ysgolion, gan gynnwys dysgwyr, sydd wedi dylunio’r gweithgareddau, ac rydym ni wedi cyd-weithio gyda’r WLGA i ddarparu ymgynghorydd ar lawr gwlad i gefnogi’r ysgolion, cynnig arbenigedd ac i leihau llwyth gwaith. Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi dangos mor bwysig yw amgylchedd yr ysgol fel y lle y mae plant a phobl ifanc yn dysgu, yn tyfu ac yn teimlo’n saff. Mae pwysigrwydd y...
Jeremy Miles: Dirprwy Lywydd, yn ein cenhadaeth i sicrhau system addysg sy'n darparu safonau a dyheadau uchel i'n holl ddysgwyr, gall pob polisi, pob penderfyniad y Llywodraeth hon helpu i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar allu a chyfleoedd ein pobl ifanc i ddysgu a thyfu. Ond dim ond os byddwn yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi lles ein holl ddysgwyr a staff y gallwn ni wneud hyn. Felly, dyma'r amser iawn i...
Jeremy Miles: Ein nod drwyddi draw oedd gwneud y mwyaf o ddysgu a lleihau tarfu ar ein pobl ifanc, ac nid ydym wedi gwneud hynny ar ein pen ein hunain, wrth gwrs. Rwyf am ddiolch i'n holl bartneriaid, yr holl staff addysg yng Nghymru, am eu hymdrechion eithriadol yn ystod y pandemig. Rydym yn deall yn iawn y pwysau ychwanegol y mae ysgolion yn ei wynebu ar hyn o bryd. Darparais ddiwrnodau cynllunio ar...
Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n gwbl sicr bod ysgolion a dysgwyr wedi wynebu aflonyddu sylweddol yn sgil y pandemig, ac mae wedi bod yn sefyllfa andros o anodd mewn nifer o ysgolion ac i nifer o'n pobl ifanc ni. Mae'r penderfyniadau cenedlaethol, y rheoliadau cenedlaethol a'r canllawiau cenedlaethol rŷn ni wedi'u cymryd fel Llywodraeth yma yng Nghymru wedi bod yn seiliedig ar ddata ac ar...
Jeremy Miles: Mae hynny’n cynnwys defnyddio gorchuddion wyneb, ac rwy’n poeni mai barn Laura Anne Jones ar hynny mor aml yw, 'Ar gyfer Cymru, gweler Lloegr’. Mae hyrwyddo agwedd y Llywodraeth ar gyfer Lloegr mewn perthynas â gorchuddion wyneb i'w weld yn arbennig o ddi-hid ar ddiwrnod pan fo absenoldebau sy'n gysylltiedig â COVID yn ysgolion Lloegr ar eu huchaf ers dechrau’r flwyddyn academaidd....
Jeremy Miles: Yn ffurfiol.
Jeremy Miles: Wel, i adleisio pwynt yr Aelod, rwy’n rhannu ymrwymiad personol clir iawn i sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i gau’r bwlch cyrhaeddiad. Rydym wedi gwneud cynnydd yn y gorffennol, ond fel y dywedodd yn ei chwestiwn, ni fydd ein holl ddysgwyr yn ein hysgolion a’n colegau wedi teimlo effaith COVID yn gyfartal, ac felly mae’n ddyletswydd arnom oll i wneud popeth a allwn i gefnogi...
Jeremy Miles: Rydym yn bwriadu cyhoeddi strategaeth i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn y misoedd nesaf. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn hollbwysig i’n dyheadau ar gyfer cyrhaeddiad dysgwyr, yr effeithiwyd yn andwyol arno gan COVID. Mae’r cynllun adnewyddu a diwygio, ar y cam hwn, wedi’i gefnogi yn y flwyddyn ariannol hon gan £232 miliwn mewn ymateb i’r pandemig ei hun.
Jeremy Miles: Diolch i Rhys ab Owen am y pitsh penodol hwnnw am gyllid pellach i Tafwyl. Rŷn ni'n darparu dros ryw £200,000 y flwyddyn i fenter iaith Caerdydd a menter Bro Morgannwg i'w galluogi nhw i gynnig arlwy o brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau yng Nghaerdydd i deuluoedd ac i blant ac i bobl ifanc ac i'r gymuned gyfan, ac mae hynny i'w ddathlu. Mae'n ffantastig eu bod nhw'n gwneud y gwaith...
Jeremy Miles: Mae'r fenter iaith a'r Urdd yn weithgar iawn yn y brifddinas drwy gynnig cyfleoedd i ddefnyddio, dathlu a mwynhau'r Gymraeg. Dwi'n edrych ymlaen i Tafwyl ddychwelyd i'r castell ym Mehefin. Mae hyn oll yn bwysig i gefnogi twf addysg Gymraeg a bod pawb yn gweld y Gymraeg fel iaith fyw.
Jeremy Miles: Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn atodol pwysig iawn hwnnw. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni allu cyd-leoli lle bynnag y gallwn a sicrhau bod pob dysgwr yn gallu manteisio ar yr ystod ehangaf o brofiadau, adnoddau a chyfleusterau. Fe fydd hi'n gwybod, drwy'r rhaglen adeiladu ysgolion, y rhaglen adeiladu colegau, rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sydd bellach wedi'i hailenwi'n...
Jeremy Miles: Mae ganddo'r fantais o fod â'r ddeddfwriaeth o'i flaen gydag adrannau penodol, rwy'n tybio. Ond yn amlwg, lluniwyd y ddeddfwriaeth i weithio law yn llaw gyda'r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol, ac felly mae'r ddwy Ddeddf yn dod at ei gilydd i ddarparu mynediad at y cwricwlwm, a chredaf fod y ffocws ar y pedwar diben a'r cynnydd sy'n sail i'r syniad o'r cwricwlwm yn cynnig yr...
Jeremy Miles: Mae'r Ddeddf yn sicrhau bod pedwar diben y cwricwlwm newydd yn datblygu i fod yn weledigaeth a dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Wrth gyflawni'r dibenion hyn, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cael addysg eang a chytbwys ni waeth pa rwystrau i ddysgu y maent yn eu hwynebu.
Jeremy Miles: Y—. Maddeuwch imi.
Jeremy Miles: Na.
Jeremy Miles: Rydym eisiau sicrhau bod y gweithlu'n gallu diwallu anghenion ein dysgwyr, fel y mae ein holl golegau. Mae'r cyllid—[Anghlywadwy.]—eleni, fel y dywedais, wedi ein galluogi i adfer, efallai, rhai o'r cyllidebau mwy heriol rydym wedi'u gweld yn y gorffennol. Mae'n adlewyrchu'r galw cynyddol am addysg bellach, y byddwn i gyd yn ei groesawu, ac wrth gwrs yn ei gwneud hi'n bosibl gwneud...