Canlyniadau 641–660 o 900 ar gyfer speaker:Carl Sargeant

7. 6. Datganiad: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru ( 8 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad—mae'n gofyn rhai cwestiynau diddorol iawn: beth pe byddem, 20 mlynedd yn ôl, yn gallu newid ffordd ein dyfodol? Byddem yn edrych yn wahanol iawn, efallai, heddiw. Ond mae hi wedi codi rhai pwyntiau pwysig yn ystod ei chyfraniad. Mae'r mater ynghylch gofal cofleidiol yn un pwysig ac rydym yn gweithio gyda'r sector preifat, y sector gwirfoddol a'r sector...

7. 6. Datganiad: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru ( 8 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau cadarnhaol. Mae'n gywir i godi'r mater mai hon yw'r rhaglen fwyaf hael sy’n cael ei chyflawni yn y DU gan y Llywodraeth hon. Mae'r DU yn wir yn cael anhawster mawr wrth gyflwyno eu rhaglen gyffredinol ar draws Lloegr. Rwy'n credu mai Efrog a gafodd broblemau sylweddol ynghylch y fargen o ran cytuno ar yr hyn y byddai gofal plant â'r sector preifat, ac...

7. 6. Datganiad: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru ( 8 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau cadarnhaol yn gyffredinol a gyflwynodd yn y Siambr heddiw. Cwestiwn cyntaf yr Aelod oedd a oedd pwyslais cryf ar gyfleoedd economaidd yn y datganiad. Mae hynny'n anfwriadol os oedd, oherwydd ein bod yn credu bod themâu trawsbynciol o ran yr hyn y mae'r datganiad yn ei wneud ac y mae cyflwyno’r rhaglen hon yn ei wneud. Yn sicr, mae’n fantais fawr o ran...

7. 6. Datganiad: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru ( 8 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau ynghylch y mater penodol hwn. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad ein bod yn bwriadu lansio'r cynlluniau peilot ym mis Medi y flwyddyn nesaf, yn rhannol oherwydd y cwestiynau a gododd ynghylch gallu a chyfle o fewn y sector. Rydym yn gwneud gwaith ymgysylltu ar hyn o bryd, ac wedi bod yn gwneud hynny ers peth amser, gan weithio gydag awdurdodau lleol a...

7. 6. Datganiad: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru ( 8 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch, Lywydd. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i deuluoedd sy'n gweithio. Mae llawer wedi cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd a rheoli canlyniadau’r llymder a osodwyd gan Lywodraeth y DU. Un o'r pryderon y mae rhieni sy'n gweithio wedi eu codi gyda ni dro ar ôl tro yw cost gofal plant a'r effaith y mae hynny’n ei chael arnyn nhw, eu harian ac ansawdd eu...

2. Cwestiwn Brys: Safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru ( 8 Tach 2016)

Carl Sargeant: Penderfyniad Llywodraeth y DU yw hwn. Rwy'n siomedig bod yr Aelod yn meddwl ei bod yn briodol ymosod ar y gyllideb cymorth tramor—rwy'n credu bod honno'n angenrheidiol hefyd. Ond bydd yn rhaid ystyried effaith y penderfyniad hwn yn llawn. Byddaf yn sgwrsio ymhellach gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU o ran yr effaith y mae wedi ei chael yng Nghymru.

2. Cwestiwn Brys: Safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru ( 8 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae e'n iawn i ddweud bod cymunedau wedi eu ffurfio o gwmpas llawer o’r canolfannau hyn, a cheir cysylltiadau hirsefydlog rhwng y lluoedd arfog a chymunedau lleol. Mewn llawer o achosion, maen nhw’n gysylltiadau da iawn ac maen nhw’n gweithio yn y cymunedau—fel y dywedodd Joyce Watson, mae'n ymwneud â gwirfoddoli a rhannu sgiliau a chyfleoedd. Mae...

2. Cwestiwn Brys: Safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru ( 8 Tach 2016)

Carl Sargeant: Rwy'n ddiolchgar iawn am eiriau’r Aelod lleol, yn disgrifio'r materion a fydd yn effeithio ar Sir Benfro a'r gymuned leol. Rwyf hefyd yn cydnabod nad yw hyn yn ymwneud â’r lluoedd arfog, ynddynt eu hunain, yn unig. Mae'n fater cydnerthedd cymuned gyfan. Credaf yn gryf fod gan bob Llywodraeth, o ba bynnag liw gwleidyddol, ddyletswydd i gefnogi cymunedau lle mae'r lluoedd arfog wedi eu...

2. Cwestiwn Brys: Safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru ( 8 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Rwy’n rhannu ei rwystredigaeth a’i bryder ynghylch camau Llywodraeth y DU i gael gwared ar ganolfannau’r lluoedd arfog o Gymru. Mae'r lluoedd arfog yn cael eu gwerthfawrogi yng Nghymru, ac maen nhw’n dod â llawer o fanteision economaidd a chymdeithasol i gymunedau ar draws ein cymunedau—mae’r Aelod yn cyfeirio at nifer ohonynt. Byddaf yn...

2. Cwestiwn Brys: Safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru ( 8 Tach 2016)

Carl Sargeant: Rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau gan yr Aelod. Wrth gwrs, mae’r ardal y mae'n sôn amdani wedi ei thrwytho yn hanes y lluoedd arfog a'r gefnogaeth i gymunedau lleol hefyd. Yn wir, rwyf eisoes wedi cyfarfod â Joyce Watson, chi eich hun a Kirsty Williams, yr Aelod lleol, y bore yma, i siarad am yr union faterion hyn yr ydych chi’n eu codi. Byddaf yn gwneud hynny’n rhan o’m llythyr...

2. Cwestiwn Brys: Safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru ( 8 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Ni chefais fy hysbysu gan Lywodraeth y DU cyn cyhoeddiad ddoe, ond, o ystyried ei natur, byddaf yn gofyn am drafodaeth frys, yn fuan gyda Gweinidogion y DU.

13. 10. Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-2016 ( 1 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i ymateb i'r ddadl gadarnhaol hon ar y cyfan. Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ei waith parhaus i wella bywydau pobl yma yng Nghymru. Gwn eu bod yn y Siambr heddiw—i fyny'r grisiau yn oriel y Siambr—yn gwrando. Gan droi at y gwelliannau, byddwn yn...

13. 10. Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-2016 ( 1 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i drafod adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-16, a elwir 'Tuag at Gymru Decach’. Mae'r adolygiad yn rhoi sylw i’r amrywiaeth eang o waith y mae’r comisiwn wedi ymgymryd ag ef yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru, ac yn cyflwyno rhagolwg o'i flaenoriaethau. Mae gan...

10. 6. Datganiad: Y Targed o 20,000 o Dai Fforddiadwy ( 1 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i chi am y cwestiynau byr iawn hynny. HMOs: nid wyf wedi diystyru unrhyw beth o ran y cyfle i ddod â mwy o stoc yn ôl i'r farchnad. Y cyfle yw sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am arian a'r gwerth gorau ar gyfer ein cleientiaid. Felly, mae’r fargen gyda HMOs, neu drosglwyddo o HMOs i gymdeithasau tai, yn rhywbeth y gallem yn wir ei thrafod, ond mae'n rhaid iddo fod o werth i...

10. 6. Datganiad: Y Targed o 20,000 o Dai Fforddiadwy ( 1 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd. Mae'r mater o gwmpas tai cyngor a thai cydweithredol yn rhywbeth y byddwn yn mynd ar ei drywydd fel rhan o'n targed o 20,000. Yn wir, does dim ond ychydig wythnosau ers i mi fod yn etholaeth Mick Antoniw yn lansio cynllun tai cydweithredol llwyddiannus iawn, lle mae'r gymuned yn croesawu'r cyfle i...

10. 6. Datganiad: Y Targed o 20,000 o Dai Fforddiadwy ( 1 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Cynllun cartrefi gwag—mae gennym gynllun cartrefi gwag cadarnhaol iawn, gyda dros 6,000 o unedau eisoes wedi eu dwyn yn ôl i ddefnydd. Mae anhawster—ac rwy’n cytuno â llawer o Aelodau yma—weithiau gall tai gwag fod yn falltod ar y gymuned ac maen nhw'n asedau gwerthfawr iawn, iawn os gallwn ni ddod â hwy yn ôl i fyny i’r safon. Yn aml, mae'n...

10. 6. Datganiad: Y Targed o 20,000 o Dai Fforddiadwy ( 1 Tach 2016)

Carl Sargeant: Rwy'n ddiolchgar iawn am gwestiynau'r Aelod. Roedd llawer iawn ohonyn nhw, felly rwyf wedi ceisio eu taro nhw ar bapur fel yr oeddech chi’n eu codi. Y diffiniad o dai fforddiadwy: wrth gwrs, rwy’n cydnabod y mater lle bynnag yr ydych yng Nghymru, mae gwahanol elfennau a fydd yn cael effaith yno—mae cost atebion tai a marchnadoedd yn gyrru gwahanol brisiau a gwahanol anghenion, ond mae...

10. 6. Datganiad: Y Targed o 20,000 o Dai Fforddiadwy ( 1 Tach 2016)

Carl Sargeant: Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod ac fel bob amser mae’n huawdl yn ei amcanestyniad o'r ffigurau y mae’n eu defnyddio. A gaf i awgrymu ei fod yn cymryd golwg arall ar y ddogfen sydd ganddo? Yn wir, nid ydym wedi gwrthod y ddogfen mewn unrhyw ffordd. Gadewch inni roi rhai ffeithiau i'r Aelod sydd newydd wneud cyfraniad. Darparodd adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru,...

10. 6. Datganiad: Y Targed o 20,000 o Dai Fforddiadwy ( 1 Tach 2016)

Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wrth fy modd i roi trosolwg i'r Aelodau o'r dull y bydd y Llywodraeth yn ei ddefnyddio i gyflawni ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol. Mae hwn yn ymrwymiad allweddol yn y rhaglen lywodraethu ac mae wrth wraidd ein hagenda tai gynhwysfawr. Bydd cyflawni yn unol â hyn hefyd yn cefnogi themâu allweddol eraill ar draws fy...

6. Cwestiwn Brys: Orgreave ( 1 Tach 2016)

Carl Sargeant: Rwy’n clywed y sylwadau a wnaeth yr Aelod. Rwy’n methu â chytuno â dim o'r sylwadau a wnaeth. Dioddefodd llawer o gymunedau, cafodd pobl eu carcharu, a chafodd pobl eu gwneud yn droseddwyr. Yr hyn y dylem ni ei gofio yw nad oedd yr heddlu i gyd na’r glowyr i gyd yn bobl ddrwg. Yr hyn y mae gwir angen inni ei ddeall yw beth ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw. Beth oedd y cyfarwyddyd? Beth...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.