Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac o amlinellu barn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Bydd yr Aelodau yn gweld o'n hadroddiad bod y pwyllgor yn cefnogi'r dull a nodir yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac yn cytuno ei bod yn briodol i ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol....
Lynne Neagle: Ym mis Mawrth 2015, pasiodd Llywodraeth y DU dan adran 67 Deddf Troseddau Difrifol 2015 gyfraith sy'n ei gwneud yn drosedd i oedolyn gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn. Pasiodd y Cynulliad hwn gynnig cydsyniad deddfwriaethol er mwyn galluogi hynny, y mis cynt. Fodd bynnag, dros gyfnod o flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, mae’r gyfraith hon, a allai helpu'r heddlu a stopio pobl a allai...
Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y setliad llywodraeth leol i Dorfaen?
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad a rhoi croeso cynnes iawn i gynnwys y datganiad hwnnw heddiw? Yn benodol, rwyf wrth fy modd bod y Llywodraeth hon yn mynd i fod yn cyflwyno system sy'n gyson, yn flaengar ac yn deg yn ei chefnogaeth i israddedigion amser llawn a rhan-amser ac i fyfyrwyr ôl-raddedig. Rwyf i hefyd yn croesawu cyflymder Ysgrifennydd y Cabinet wrth...
Lynne Neagle: Mae’n rhaid iddo gael ei arwain o’r gwaelod i fyny, ond rwyf hefyd yn meddwl os oes gennych systemau ar waith fel yr angen am weithwyr cymorth a thargedau ar gyfer cyfraddau diagnosis, rhaid i’r rheini gael eu gyrru gan y Llywodraeth, ac edrychaf ymlaen at glywed gan Lywodraeth Cymru sut y bydd y strategaeth yn mynd o fod yn ddogfen ar bapur i rywbeth sydd o ddifrif yn trawsnewid...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Mae hawliau a chymorth i bobl sydd â dementia yn bwnc sy’n agos iawn at fy nghalon, ac rwy’n croesawu’r cyfle i ganolbwyntio arno eto heddiw. Ym mis Ionawr eleni, arweiniais ddadl ar yr angen am strategaeth ddementia genedlaethol a chyflwyno’r achos mai dementia yw her iechyd ein cyfnod ni. Mae bob amser yn werth...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw? Yn enwedig, croesawaf yn fawr yr hyn yr ydych wedi'i ddweud am ddarparu arian i annog a chefnogi datblygiad ffederasiynau ar draws pob ysgol a gynhelir, ynghyd â gwell gwybodaeth ac arweiniad. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Rydych yn ymwybodol o fy mhryderon ynghylch y mater hwn. Hefyd, roedd gen i ddiddordeb mawr yn...
Lynne Neagle: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar raglen waith Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru? Er fy mod i’n croesawu cyflwyno’r gronfa triniaethau newydd yn fawr, a’r adolygiad o'r system ceisiadau cyllido cleifion unigol yng Nghymru, sy’n hir-ddisgwyliedig, yn fy marn i, rwyf yn pryderu y bydd mynediad at gyffuriau newydd yn parhau i gael ei gyfyngu gan...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Heddiw, roeddwn yn falch iawn unwaith eto o gynnal digwyddiad i nodi mis ymwybyddiaeth o ganser y pancreas yma yn y Senedd. Y llynedd, pan ofynnais i chi am hyn, pwysais arnoch ar yr angen i godi ymwybyddiaeth. Eleni, mae Pancreatic Cancer UK wedi gwneud gwaith ymchwil sy'n dangos na all tri chwarter y cyhoedd yn y DU enwi unrhyw symptom o ganser y...
Lynne Neagle: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y pancreas yng Nghymru? OAQ(5)0262(FM)
Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn gwella iechyd plant yng Nghymru?
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn anffodus, bydd estyniad ddoe i’r cap budd-daliadau yn sicrhau, rwy’n credu, bod mwy o blant yn cael eu gwthio i dlodi trwy ddiwygiadau lles y Torïaid. Mae'r ffigurau a roddwyd gennych yn hollol gywir—mae £58 yr wythnos yn swm sylweddol o arian ac mae tua 516 o blant sydd ar aelwydydd sy'n cael eu heffeithio. Mae gan nifer o’r teuluoedd hynny...
Lynne Neagle: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau'r cap budd-daliadau yn Nhorfaen? OAQ(5)0252(FM)
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a diolch iddo hefyd am ddod i Gwmbrân ddoe, i'r clinig cwympo, i wneud y cyhoeddiad? Rydych yn gywir iawn i nodi ei bod yn gyfle gwych i weld y mathau o wasanaethau sy'n cael eu cyflwyno ar lefel y gymuned wrth i’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol weithio gyda'i gilydd. Ond roeddwn wrth fy modd eich bod yn gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw...
Lynne Neagle: Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i siarad heddiw. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am adael i’r Cynulliad ddefnyddio peth o’u hamser dadlau ar gyfer y ddadl bwysig hon? Rwy’n falch iawn o siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, oherwydd rwy’n credu o ddifrif fod yr angen am senedd ieuenctid yn gwbl amlwg. Rwy’n falch o’r rôl y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi chwarae yn...
Lynne Neagle: A gaf fi ddiolch i chi, John, am eich datganiad, a chroesawu’n gynnes iawn y gwaith y byddwch yn ei wneud ar gefnogi ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain? Mae awdurdod lleol Torfaen wedi bod yn cyflawni’n well na’r disgwyl o ran derbyn ffoaduriaid o Syria, ac rwy’n falch iawn o hanes blaenorol y cyngor hwnnw, a hefyd yn falch iawn fod y cyngor, ddoe, wedi...
Lynne Neagle: Yn amlwg, cyflwynais y cwestiwn hwn cyn i’r ddadl gael ei chyflwyno heddiw ac fe’i cyflwynais am fy mod yn credu ei bod yn hynod bwysig i ni sefydlu senedd ieuenctid i Gymru. Croesawaf eich ateb yn fawr iawn. Rwy’n gobeithio siarad yn y ddadl yn nes ymlaen, ond a gaf fi ofyn i chi ddatgan eich ymrwymiad personol fel Llywydd i yrru’r gwaith hwn yn ei flaen ar ran y Comisiwn.
Lynne Neagle: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn falch o groesawu’r cyhoeddiad ddoe y byddwch yn diogelu cyllid llywodraeth leol yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at glywed rhagor o fanylion gennych ynglŷn â sut y byddwch yn blaenoriaethu’r broses o dargedu ein hawdurdodau lleol mwyaf anghenus. Mae’r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf fodd bynnag fod Llywodraeth Cymru o blaid...
Lynne Neagle: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllid llywodraeth leol yn y flwyddyn ariannol hon? OAQ(5)0044(FLG)
Lynne Neagle: 2. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i ddatblygu senedd ieuenctid i Gymru?? OAQ(5)0002(AC)