David Melding: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae'n siŵr y bydd eisiau ymuno â mi i longyfarch Tyddynwyr Morgannwg, a gynhaliodd arddangosfa ardderchog yn y Senedd yr wythnos diwethaf, yn arddangos holl ystod eu gwaith a pha mor arloesol ydoedd, a hefyd, rwy'n credu, am y tro cyntaf, Llywydd—gyda'ch caniatâd chi rwy'n siŵr—daethant â rhai anifeiliaid i'r ystâd. Aeth llawer o...
David Melding: 3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog a chefnogi tyddynwyr yng Nghymru? OAQ54136
David Melding: A wnaiff y Gweinidog ildio?
David Melding: Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac fe wnaeth fy nharo, wrth deithio o amgylch America, ac yn enwedig y de, faint o Americanwyr o dras Affricanaidd sydd â chyfenwau Cymreig—Williams, Evans, Jones, Davies. Mae'n wirioneddol frawychus meddwl am oblygiadau hynny.
David Melding: O, mae'n ddrwg gennyf. [Chwerthin.]
David Melding: Rwy'n gyndyn i dynnu sylw at hyn, ond rwy'n credu ei bod yn ddadleuol iawn mai ni oedd pobl gynhenid ynysoedd Prydain. Roedd pobl wedi ymsefydlu ar ynysoedd Prydain yn union wedi'r oes iâ ddiwethaf. Er mor wych yw ein hetifeddiaeth Geltaidd, roedd pobl yma cyn hynny.
David Melding: Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn mwynhau'r areithiau yn y ddadl gyfareddol a phwysig hon. Pan oedd Alun yn sôn am brofiadau Gwyn Alf yn Normandi—mae 75 mlynedd ers hynny; roedd yn briodol iawn ein bod wedi clywed hynny—roeddwn yn meddwl efallai y byddech yn symud ymlaen at Wynford Vaughan-Thomas a'i hunangofiant bendigedig lle mae'n disgrifio sut y glaniodd yntau gyda'r cynghreiriaid yn...
David Melding: Wel, atebwch y cwestiwn canolog.
David Melding: Yn rhyfedd ddigon, dyma'r union bwynt a wneuthum i'ch swyddogion. Os gallwn osod safonau sy'n uwch ar gyfer y gwasanaethau gofal sylfaenol hynny a ddarparwn yn uniongyrchol drwy'r gwahanol fyrddau iechyd lleol, pam na edrychwyd ar y safonau uwch hynny'n fanwl mewn ymgynghoriad llawn â chleifion a grwpiau fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gerbron y pwyllgor neu'r pwyllgorau...
David Melding: Credaf mai'r strategaeth fyddai'r ffordd o edrych ar yr holl bethau hyn mewn ffordd gynhwysfawr. Rydych yn llygad eich lle—nid oes a wnelo hyn â thai fforddiadwy yn unig, mae'n ymwneud â'r maes tai yn ei gyfanrwydd. Ond mae meysydd allweddol eraill y gallem sôn amdanynt yma a ddylai fod yn rhan o strategaeth dai genedlaethol: dileu digartrefedd; cynyddu diogelwch deiliadaeth ar gyfer y...
David Melding: Diolch, Weinidog, am yr ateb calonogol iawn hwnnw, os caf ddweud. Ac rydych yn llygad eich lle pan ddywedwch fod angen strategaeth arnoch i allu sicrhau bod hawl yn bodoli yn ymarferol. Ac yn wir, mae'r adroddiad yn amlinellu'r hyn y mae angen ei wneud o ran strategaeth dai genedlaethol sy'n seiliedig ar hawliau. Ac yn wir, mae'n rhywbeth rwyf wedi galw amdano eisoes—a chredaf fod eraill yn...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i groesawu'r adroddiad ardderchog a lansiwyd ddoe gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru ar yr hawl i dai digonol yng Nghymru. A chymeradwyaf yr adroddiad i'r holl Aelodau nad ydynt wedi cael cyfle i'w weld eto. Mae'r adroddiad yn gwneud achos cryf dros ymgorffori'r hawl i dai digonol yng nghyfraith...
David Melding: Fe'ch cymeradwyaf am ddarllen yr adroddiad. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn aml yn gyffredin yn y maes hwn, a chredaf fod gwersi i'w dysgu, a bod pwyllgor Tŷ'r Cyffredin wedi gwneud gwasanaeth gwych yma. Mae ffioedd rheoli ystadau yn ogystal â ffioedd gwasanaeth wedi cael eu beirniadu am eu maint, eu diffyg tryloywder a pha mor anodd yw eu herio. Mae'r rheini'n sicr yn broblemau sydd gennym...
David Melding: Weinidog, mae'n Wythnos Carwch Eich Ysgyfaint, a gwn y byddwch yn dymuno—[Torri ar draws.] Dyma ni. Gwn fod pob un ohonom yn dymuno canmol gwaith Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint. Yn wir, cawsom dynnu ein llun y tu allan i'r Senedd yn gynharach pan oeddem yn sgwrsio am yr angen am Ddeddf aer glân. Ond a gaf fi ddweud wrthych ei bod hefyd yn swyddogol mai'r ffordd gyflymaf o deithio yng...
David Melding: 2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o adroddiad Pwyllgor Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Tŷ'r Cyffredin ar ddiwygio cyfraith lesddaliad? OAQ54065
David Melding: Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon—amserol iawn; fel y mae Dai newydd ddweud, mae adroddiad newydd gael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pwnc hwn, ac roeddwn innau hefyd o'r farn fod rhagair y Cadeirydd yn ardderchog ac yn sobreiddiol iawn, ac rwy'n dyfynnu: 'Llygredd plastig yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein planed. Ni all...
David Melding: Bydd y Gweinidog yn gwybod bod y mynegai cyfle ieuenctid yn dangos yn gyson mai pobl ifanc sy'n cael eu magu mewn ardaloedd difreintiedig sy'n cael y lleiaf o gyfleoedd. Mae'r mynegai'n graddio pob awdurdod lleol yng Nghymru yn ôl lefelau cyrhaeddiad addysgol a chanlyniadau cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys amrywiaeth o fesurau o berfformiad TGAU i gymryd rhan mewn addysg uwch a...
David Melding: Diolch yn fawr, Weinidog. Un o'r busnesau hyn yw Canolfan Heboga Cymru yn fy rhanbarth i—atyniad sydd wedi bod ar Five Mile Lane y Barri ers 40 mlynedd. Nodwyd yn ddiweddar y gallai'r busnes fod mewn perygl o gau, ar ôl i nifer yr ymwelwyr haneru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ôl Jamie Munro, sy'n rhedeg y ganolfan, mae hyn wedi'i achosi i raddau helaeth gan y gwaith sy'n mynd rhagddo...
David Melding: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd economaidd busnesau bach yng nghymunedau gwledig Cymru? OAQ54021
David Melding: Rwy'n credu bod angen ychydig o realiti yn y fan yma. Dylem ni fod wedi bod â chytundeb ymadael wedi'i gymeradwyo gan y Senedd hydref diwethaf. Dyna'n amlwg yr oedd y Llywodraeth yn ceisio'i wneud. Dylem ni fod wedi ymadael ym mis Mawrth ac erbyn hyn dylem ni fod mewn cyfnod pontio lle byddai'r holl daliadau presennol wedi eu gwarantu tan ddiwedd y cylch hwn, ac yn ystod y cyfnod hwn byddem...