Delyth Jewell: Fe ildiaf.
Delyth Jewell: Beth a olygwn pan ddefnyddiwn y gair 'cyfiawnder'? Rwyf wedi edrych, ac mae'r Oxford English Dictionary yn cynnig dau brif ystyr: y cyntaf yw 'ymddygiad rhesymol a chyfiawn neu'r rhinwedd o fod yn deg', a'r ail ystyr yw 'gweinyddiaeth y gyfraith'. Nawr, fel y bydd unrhyw un sydd wedi adnabod rhywun sydd wedi dioddef trais rhywiol neu sydd wedi ymgyrchu i wella'r system yn gwybod, nid yw'r...
Delyth Jewell: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a chroesawu'r strategaeth ryngwladol yn gyffredinol. Mae hi yn hwyr iawn arni'n cael ei chyhoeddi, tua saith mis, yn ôl fy nghyfrif i, ac mae'n dilyn dogfen ymgynghori a feirniadwyd yn eang a gyhoeddwyd yr haf diwethaf, ond y newyddion da yw bod llawer i'w groesawu yn hyn o beth. Nid wyf ond wedi cael cyfle i ddarllen y strategaeth yn gyflym cyn y...
Delyth Jewell: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain De Cymru?
Delyth Jewell: Rwy'n gwrthwynebu hyn. [Chwerthin.]
Delyth Jewell: Rwy'n croesawu sefydlu'r pwyllgor hwn, ac rwy'n falch iawn o gael bod yn aelod ohono. Er hynny, mae'n drueni na ddaw unrhyw newidiadau a argymhellwn i rym tan o leiaf 2026. Mae'n fwy hanfodol byth ein bod yn gweithio ar draws y pleidiau i gael hwn yn brosiect y gall pawb yn y Senedd deimlo ei fod yn perthyn iddynt—ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd meinciau'r Ceidwadwyr yn teimlo y gallant...
Delyth Jewell: Hoffwn holi'r Gweinidog ymhellach ar hynny, os caf, am unrhyw gynnig yn y dyfodol i gynnal Gemau’r Gymanwlad yma ac a ydych wedi dysgu neu siarad â Llywodraeth yr Alban am y buddion a ddaeth i’r Alban, nid yn unig o ran chwaraeon, ond hefyd y buddion diwylliannol a'r buddion i iechyd y cyhoedd a ddaeth i'r wlad honno ar ôl cynnal Gemau'r Gymanwlad. Yn amlwg, roeddem yn siomedig, ynghyd...
Delyth Jewell: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw a dymuno blwyddyn newydd dda ar ddechrau blwyddyn dyngedfennol i Gymru. Rydych yn dweud bod Llywodraeth Cymru bellach yn cydnabod y bydd y Deyrnas Gyfunol yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae Plaid Cymru'n cytuno. Nawr bod gan y Ceidwadwyr fwyafrif, rydym yn gwybod am ffaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd y mis. Byddwn...
Delyth Jewell: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Cawsom drafodaeth ddiddorol yn y pwyllgor materion allanol ddoe ynglŷn â'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, pryd y gwnaethoch chi esbonio eich syniadau ar hynny yn eglur iawn. Nawr, rwyf i wedi darllen y memorandwm ers hynny, ac rwy'n cytuno yn gyffredinol gyda'ch dadansoddiad. Mae Plaid Cymru yn derbyn bod Brexit yn mynd i...
Delyth Jewell: 4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru sy'n deillio o Fil yr UE (Cytundeb Ymadael)? OAQ54890
Delyth Jewell: Fe wnaf dderbyn ymyriad.
Delyth Jewell: Diolch am yr ymyriad. Rwy'n cytuno nad yw hyn yn rhywbeth sy'n canolbwyntio'n llwyr ar Boris Johnson. Rwy'n credu bod nifer o Aelodau'r Cabinet—wel, y Cabinet presennol ydynt o hyd—fel y dywedoch chi, fel Dominic Raab, y credaf fod peth o hyn—. Mae fel yr olwg Ddickensaidd ar y byd fod y byd ffyniannus yn cynaeafu'r holl wobrau ac rwy'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw. Mae'n peri pryder...
Delyth Jewell: Nawr, o ran y ffordd y clywsom Mark Isherwood, David Rowlands ac eraill yn gwadu eu bod yn meddwl nad oes gan yr Unol Daleithiau unrhyw fwriad o gael mynediad at y GIG, rwy'n credu bod hynny'n rhyfeddol yn wyneb yr holl dystiolaeth. Mae Trump wedi bod yn agored am ei bolisi 'America yn gyntaf'. Dywedodd ar 4 Mehefin ei fod am i'r GIG fod ar y bwrdd mewn cytundeb masnach, ac mae gennym...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, diolch i bawb wnaeth gyfrannu i'r ddadl yma heno. Diolch i David Rees am ei gyfraniad, oedd yn cytuno gyda rhan o'n cynnig ni o leiaf. Rwy'n cytuno â beth mae David yn ei ddweud am y bygythiad i'r NHS. Yn amlwg, buasem ni ddim, ym Mhlaid Cymru, dim ond eisiau feto, a dyna pam mae e ddim ond yn un o'r pethau dŷn ni'n ei gynnig yn ein cynnig ni heddiw. Ond rwy'n...
Delyth Jewell: Byddai cwmnïau fferyllol mawr yr UDA eisiau dadreoleiddio'r farchnad gyfan, fel y gallai cyffuriau yr Unol Daleithiau gystadlu. Ac mae pawb ohonom wedi darllen y straeon, Mark, ynglŷn â sut y mae fferyllfeydd yn y DU ar hyn o bryd—er enghraifft, ar gyfer unrhyw fath o barasetamol, mae'r pris yn llawer is na'r hyn y byddai ar gyfer cyffur cyfatebol yn yr Unol Daleithiau. Felly, os oes...
Delyth Jewell: Gwnaf.
Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae ein GIG mewn perygl enbyd. Wythnos sydd i fynd cyn yr etholiad erbyn hyn. Yr etholiad sydd i fod i gael Brexit wedi'i wneud, yn ôl Boris Johnson. Yn y cyfamser, mae Donald Trump yn ymweld â'r DU i roi sicrwydd i ni nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i gael mynediad i'r farchnad am ein GIG. Mae'r ddau safbwynt yn gelwydd. Ni fydd cynlluniau Brexit y Ceidwadwyr yn...
Delyth Jewell: Diolch am eich eglurhad, Weinidog. Nid wyf yn synnu eich bod yn rhannu ein pryder ynglŷn â'r sefyllfa, a buaswn yn eich annog, os gwelwch yn dda, i ailystyried cefnogi ein hateb i hyn hefyd yn y ddadl y prynhawn yma. Ond rydych wedi sôn eisoes fod rhan arall o’r cynigion a gyflwynwyd gennym yn ein cynnig yn ymwneud â chael feto ar gytundebau masnach, ac rydych hefyd wedi cyfeirio at y...
Delyth Jewell: Ie, sefyllfa druenus iawn yn wir. Weinidog, fe fyddwch yn gwybod y bydd ein Senedd, y prynhawn yma, yn trafod cynnig Plaid Cymru ar breifateiddio'r GIG. Yng ngwelliannau eich Llywodraeth i'r cynnig, nid ydych wedi dileu cymalau sy'n nodi y gallai cytundeb masnach ôl-Brexit yn y dyfodol rhwng y DU a'r UDA yn hawdd fod yn drychinebus i GIG Cymru. Felly, rwy'n cymryd bod y Llywodraeth yn cytuno...
Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mantra'r Torïaid ar gyfer yr etholiad hwn yw eu bod yn mynd i gael Brexit wedi'i wneud. Gwyddom fod hynny'n gelwydd, ac yn fwy na hynny, mae'n amlwg bellach fod y bygythiad o 'ddim cytundeb' ar ddiwedd 2020 hyd yn oed yn fwy. Weinidog, a ymgynghorodd Boris Johnson neu Michael Gove â Llywodraeth Cymru cyn dweud wrth y wasg nad oes ganddynt unrhyw fwriad i ymestyn y...