Mark Drakeford: Mae’r arian ychwanegol yn fwy na thai. Mae lot o waith i’w wneud yn y maes tai, ac i helpu pobl sy’n byw mewn tlodi. Ond, ar ddydd Llun, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn cyfeirio at fwy na gwaith yn y maes tai, ond hefyd at bethau y mae hi eisiau gwneud ym maes twf gwyrdd yng Nghymru. Rwy’n siŵr, pan fydd cwestiynau yma ar y llawr, a chyfleoedd eraill, bydd yr...
Mark Drakeford: A gaf fi ddiolch i’r Aelod? Darllenais yr hyn a oedd gan ystod o bwyllgorau craffu i’w ddweud ynglŷn â’r gyllideb yn ofalus iawn. Roedd yn thema mewn nifer o bwyllgorau—edrych am fwy o dystiolaeth o effaith fod penderfyniadau cyllidebol yn cael eu siapio drwy lens y Ddeddf. Roeddwn yn barod iawn i dderbyn, gerbron y Pwyllgor Cyllid, fod rhagor i’w wneud, ac wrth i ni lunio...
Mark Drakeford: Diolch i Joyce Watson. Pan gyhoeddwyd y gyllideb ddrafft gennym yn ôl ym mis Hydref bu’n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd ynglŷn â buddsoddiadau cyfalaf er mwyn dod i ben ar yr arian a oedd ar gael i ni. Dywedais wrth y Pwyllgor Cyllid, yn fy sesiwn graffu gyntaf gyda hwy, pe bai unrhyw gyfalaf ychwanegol ar gael yn natganiad yr hydref, mai fy mhrif flaenoriaeth fyddai ailedrych ar...
Mark Drakeford: Diolch i Joyce Watson. Fel y nodir yng nghyllideb 2017-18, a gymeradwywyd ddoe, mae’r dyraniad cyllideb ar gyfer y portffolio amgylchedd a materion gwledig y flwyddyn nesaf bron yn £384 miliwn.
Mark Drakeford: Mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Wrth i ni sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, ac yn enwedig pan fydd gennym gadeirydd, a bwrdd o unigolion i gefnogi’r cadeirydd hwnnw, un o’r pethau pwysig y byddaf yn disgwyl iddynt ei wneud yw bod yn wyneb cyhoeddus yr awdurdod newydd hwnnw. Mae’n sicr o fod yn sefydliad a fydd o gryn ddiddordeb i’r bobl sy’n treulio’u bywydau gwaith yn y...
Mark Drakeford: Wel, diolch, wrth gwrs, am y cwestiwn. Clywais i ddoe Sian Gwenllian yn holi’r Prif Weinidog, yn dadlau dros gael pencadlys yr awdurdod yng Nghaernarfon. Wrth gwrs, rydw i wedi derbyn nifer fawr o lythyrau gan Aelodau’r Cynulliad yn trio fy mherswadio i sefydlu’r pencadlys ledled Cymru. Wrth gwrs, rydw i’n deall hynny. Roedd y Prif Weinidog ddoe yn esbonio’r gwaith sy’n mynd...
Mark Drakeford: Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Mae Trysorlys Cymru wedi sefydlu strwythurau i reoli ein hadnoddau cyhoeddus yn effeithiol, gan gynnwys ein pwerau trethi a benthyca newydd. Yn y misoedd i ddod, byddaf yn cyhoeddi cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.
Mark Drakeford: Wel, os oes gan yr Aelod gweryl, nid gyda mi y mae, ond gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan fod hwn yn benderfyniad a wnaed gan weinyddiaeth Geidwadol yn San Steffan, nid gan unrhyw wleidydd yn y Siambr hon. Ac nid yw’n gywir ychwaith—[Torri ar draws.] Nid yw’n gywir ychwaith yn awgrymu bod Bil Cymru yn darparu ar gyfer codiad awtomatig yn y dreth. Yn syml, mae’n darparu hyblygrwydd...
Mark Drakeford: Na, credaf fod yr Aelod yn gwbl anghywir. Mae wedi camddeall y broses gyfan yma’n llwyr. Ni fydd Mr Gauke yn synnu at unrhyw beth o gwbl a ddywedais yn fy ateb cyntaf, gan ei fod, ym mhob trafodaeth a gefais gydag ef, yn deall mai rhagamod cyn y buasai’r Cynulliad hwn yn cydsynio i gynnig cydsyniad deddfwriaethol, os mai dyna a wnaiff, fuasai fod yna fframwaith cyllidol boddhaol gerbron y...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, y gwaith a roddwyd i mi wrth drafod y fframwaith cyllidol oedd negodi fframwaith a fyddai’n addas ar ein cyfer pe bai treth incwm yn cael ei datganoli’n rhannol. Dyna pam y mae’r holl gytundeb hwn wedi’i ffurfio o amgylch y posibilrwydd hwnnw, ond roedd yn amlwg i’r Trysorlys drwy gydol y broses honno mai’r Cynulliad hwn a fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol...
Mark Drakeford: Credaf fod cyfeiriad cwestiynau’r Aelod y prynhawn yma yn ei roi mewn perygl o fod yn llai o genedlaetholwr Cymreig na ffracsiwn penodol o genedlaetholdeb Cymreig. Rwy’n hyderus y bydd y pleidleisiau mewn 10 o awdurdodau lleol gwahanol ledled Cymru sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau’r trefniadau llywodraethu a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen gyda’r fargen ddinesig, y bydd y...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd—. Edrychwch, mae yna bwynt difrifol wrth wraidd yr hyn sydd gan yr Aelod i’w ddweud, sef bod angen i bawb ohonom gydnabod bod angen i bob rhan o Gymru deimlo bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn rhoi sylw i’w hanghenion, a bod yr hyn sy’n digwydd yma yn arwain at benderfyniadau lle y gallant weld y budd i’w bywydau. Yr hyn y mae’n anghywir yn ei gylch yw ceisio dweud...
Mark Drakeford: Wel, ni wneir penderfyniadau ynglŷn â buddsoddi cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar sail ddaearyddol. Ein huchelgais yw buddsoddi yn y prosiectau cyfalaf sy’n darparu’r budd mwyaf i Gymru, ac ansawdd y prosiectau, yn hytrach na’u lleoliad daearyddol, fyddai’r prif ffactor wrth benderfynu ar hynny. Wedi dweud hynny, mae yna syniadau da a phrosiectau da ym mhob rhan o Gymru, a chredaf fod...
Mark Drakeford: Diolch i Nick Ramsay. Un o nodweddion arbennig y cytundeb yw ei fod yn caniatáu i’r ddwy ochr gyflwyno dadansoddiadau a chyngor annibynnol os oes anghydfod rhyngddynt. Mae hynny’n un o nodweddion newydd y cytundeb ac nid yw’n rhywbeth y mae’r Trysorlys wedi bod yn awyddus i gytuno iddo yn y gorffennol. Felly, mae’r fframwaith cyllidol yn nodi proses ar gyfer datrys unrhyw...
Mark Drakeford: Ydy, Lywydd, mae’n bwynt pwysig i’w wneud, onid yw, na fydd y fframwaith cyllidol yn berthnasol oni bai bod Bil Cymru yn cyrraedd y llyfr statud. Gan ragdybio am y tro ei fod gwneud hynny, mae hwn yn gytundeb parhaol. Cyflawnwyd tipyn o gamp yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, pan lwyddodd fy rhagflaenydd, Jane Hutt, i negodi cyllid gwaelodol i Gymru. Roedd sefydlu hynny fel egwyddor yn...
Mark Drakeford: Diolch.
Mark Drakeford: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn ac am ei ddyfalbarhad wrth fynd ar drywydd y mater hwn ar lawr y Cynulliad? Felly, bydd yr Aelodau’n cofio bod trafodaethau â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi dechrau mor bell yn ôl â mis Gorffennaf y llynedd a’u bod wedi dod i ben yn fuan wedi i’r Cynulliad dorri cyn y Nadolig, gyda chytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y...
Mark Drakeford: Diolch i Huw Irranca-Davies am ei gyfraniad. Mae’r enghraifft y cyfeiriodd ati yn ddiddorol iawn. Wrth gwrs, rhoddodd y Ffindir raglen dreialu incwm sylfaenol cyffredinol ar waith ar 1 Ionawr eleni, ac mae’n canolbwyntio’n bendant ar y math o boblogaeth y cyfeiriodd ati. Mae’n dreial mawr sy’n cynnwys 2,000 o bobl a ddewiswyd ar hap ac sy’n ddi-waith ar hyn o bryd, er mwyn gweld...
Mark Drakeford: Diolch am y cwestiwn. I am very keen to remain in touch with the feasibility work being carried out in Fife and Glasgow. I think it’s important to be realistic about what they have embarked upon. They hope, over the months ahead, to arrange a feasibility study. That feasibility study would collect evidence and, if the evidence was strong enough, they would then establish a pilot. But, even...
Mark Drakeford: Diolch am y cwestiwn. Nid oes unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru eto wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru yn chwilio am gymorth ar gyfer peilot incwm sylfaenol. Serch hynny, rwyf yn bwriadu monitro cynnydd y gwaith ymarferoldeb sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn Fife a Glasgow. Er bod angen ymdrin â chwestiynau cymhwyster yma, mae incwm sylfaenol cyffredinol yn gallu gwneud cyfraniad...