Mark Drakeford: Diolch i John Griffiths am hynny. Mae’n gwneud pwynt y mae eraill wedi’i wneud y prynhawn yma: fod buddsoddi mewn cyfalaf dynol yn un o’r ffyrdd mwyaf pwerus y gallwn barhau i gynnal ein heconomi a’n ffyniant economaidd yn y dyfodol. Dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Trysorlys fod y gwariant ar addysg yng Nghymru yn parhau i fod 4 y cant yn uwch nag yn Lloegr....
Mark Drakeford: Fel y nodir yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd y mis diwethaf, dyraniad y gyllideb ar gyfer prif grŵp gwariant addysg y flwyddyn nesaf yw £1.99 biliwn.
Mark Drakeford: Mae Mike Hedges yn hollol gywir ac mae’n ein hatgoffa, yn y Bil drafft ar lywodraeth leol a gyflwynwyd gan y Gweinidog blaenorol, mai dyna’n union oedd y cynnig: darparu pŵer cymhwysedd cyffredinol i’r prif awdurdodau ac yn wir, pŵer cymhwysedd i gynghorau tref a chymuned a oedd yn gallu cyrraedd trothwy penodol o gymhwysedd yn eu materion eu hunain. Er nad ydym wedi gallu dod i...
Mark Drakeford: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am y cyfle i ailddatgan safbwynt Llywodraeth Cymru, sef y byddwn yn ceisio sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl er lles cymunedau ledled Cymru cyhyd ag y byddwn yn parhau’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Erbyn diwedd y mis hwn, o ganlyniad i gyflymu’r rhaglen yn yr amgylchiadau rydym yn eu hwynebu yn awr, bydd gennym gytundebau ar waith mewn perthynas â 60...
Mark Drakeford: Rwy’n ddiolchgar i Russell George am dynnu fy sylw at hyn ac am ddarparu copïau o’r ohebiaeth rhwng Cyngor Tref Llanfair Caereinion a Chyngor Sir Powys, sy’n dangos y pwynt y mae’n ei wneud. Mae fy swyddogion eisoes wedi darparu cyngor i gynghorau tref a chymuned eraill ym Mhowys, ac yn gyffredinol, ein cyngor yw bod y cyfyngiad ariannol a nodir yn adran 137(4) yn parhau i fod yn...
Mark Drakeford: Diolch i Russell George am y cwestiwn. Mae’r pŵer hwn yn adran 137 yn caniatáu i gyngor tref neu gymuned fynd i gostau cyfyngedig at ddibenion nad oes ganddo unrhyw bŵer neu ddyletswydd benodol arall drostynt, ac a fydd yn sicrhau budd uniongyrchol i’w hardal neu unrhyw ran ohoni.
Mark Drakeford: Wel, Ddirprwy Lywydd, mae’r datblygiad hwnnw y mae’r 10 arweinydd yn ymrwymedig i’w gyflawni yn ddatblygiad pwysig iawn, ond mae’n bwysig iawn yn wir eu bod yn gallu cyflawni’r gwaith yn ôl yr amserlen y maent hwy eu hunain wedi ymrwymo i’w gyflawni. Oherwydd mae’r model, sef y model Cabinet lle y bydd pob un o’r 10 arweinydd yn ffurfio cabinet cytundeb prifddinas-ranbarth...
Mark Drakeford: Wel, diolch i Mohammad Asghar am y cwestiwn. Mae’n iawn i dynnu sylw at y ffaith fod y bwrdd hwnnw wedi cael ei greu, ac roeddwn yn falch o weld fod y bwrdd nid yn unig yn cynnwys yr awdurdodau lleol eu hunain ond cynrychiolwyr addysg, cynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr y trydydd sector hefyd. Mae’r cytundeb £1.3 biliwn rydym yn ei ddarparu ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd yn...
Mark Drakeford: Wel, y pwynt allweddol rwy’n credu y mae Steffan Lewis yn ei wneud yw hwn, a chaiff ei adlewyrchu yn y gwaith y mae Mark Lang wedi bod yn ei wneud: nid yn unig y mae cytundeb Prifddinas Caerdydd yn ymwneud â dod o hyd i ffyrdd gwell o ddenu pobl i’r canol, i Gaerdydd ei hun, ond mae’n ymwneud hefyd â ffordd o ledaenu ffyniant ar draws y rhanbarth cyfan, a lle y mae cysylltedd yn...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr am y cwestiwn. I remain committed to progressing deals in Wales as a tool to encourage further economic growth and collaborative working. The Welsh Government has had extensive discussions on deals with the UK Government to maximise the benefits for Wales.
Mark Drakeford: Wel, Ddirprwy Lywydd, mae Joyce Watson yn gwneud pwynt pwysig iawn, un y mae awdurdodau lleol bob amser yn ei wneud pan fyddaf yn eu cyfarfod: fod yr agenda ar gyfer awdurdodau lleol yn llawer ehangach na’r awdurdodau lleol eu hunain. Mae gan bob un ohonynt bartneriaid pwysig iawn, boed y gwasanaeth heddlu lleol, y parc cenedlaethol neu, yn achos Powys fel y mae’n dweud, y cydweithrediad...
Mark Drakeford: Wel, yn anffodus, roeddwn yn gynghorydd sir bryd hynny, pan oedd y diwygiadau hynny’n cael eu cyflwyno a’u trafod. Felly, rwy’n eu cofio’n dda iawn. Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddweud, mewn gwirionedd, pan fyddaf yn mynd o gwmpas awdurdodau lleol yng Nghymru mae’r cyfoeth o gydweithrediad sydd yno eisoes yn aml yn syndod i mi? Gall pob awdurdod lleol ddisgrifio mannau lle y maent yn...
Mark Drakeford: Diolch i Hefin David am y cwestiwn atodol gan ei fod yn rhoi ei fys ar yr union reswm pam rwyf wedi dweud bob amser y bydd yn rhaid i’r trefniadau hyn fod yn orfodol yn ogystal â systematig. Mae gormod o enghreifftiau mewn awdurdodau lleol yng Nghymru lle y mae awdurdod lleol unigol wedi buddsoddi llawer iawn o amser ac ymdrech yn ceisio sicrhau trefniant rhanbarthol cydweithredol, i...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Nodais fy nghynigion mewn perthynas â chydweithredu rhwng awdurdodau lleol yn y dyfodol ar 4 Hydref. Bydd y cynigion ar gyfer cydweithredu rhanbarthol gorfodol a systematig yn adeiladu ar y nifer o drefniadau cydweithredol sydd ar waith eisoes gan awdurdodau lleol ledled Cymru.
Mark Drakeford: Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n gwybod bod ganddi ddiddordeb arbennig mewn cynghorau tref a chymuned. Dywedais yn fy natganiad ar 4 Hydref fod yna gyfres o bethau rwy’n teimlo y gallwn eu gwneud ar unwaith i wella gweithrediad y system fel y mae heddiw, ond roeddwn hefyd yn awyddus i edrych yn fwy trwyadl ac annibynnol ar gynghorau tref a chymuned er mwyn dod o...
Mark Drakeford: Mae unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb am greu cyllideb ar gyfer Llywodraeth Cymru yn gorfod wynebu’r blaenoriaethau sy’n cystadlu am wariant. Yn y gyllideb rwyf wedi’i chyflwyno gerbron y Cynulliad hwn, rydym yn ceisio gwneud hynny, gyda £240 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol uniongyrchol yn ein gwasanaeth iechyd, ond hefyd, o ganlyniad i’n cytundeb cyllideb, rydym yn gallu darparu...
Mark Drakeford: Wel, rwy’n rhannu cred yr Aelod fod integreiddio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi manteision i gleifion ac i ddefnyddwyr, a gall hynny helpu i ysgogi arbedion effeithlonrwydd. Dyna pam, yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, rydym yn cynnal y gronfa ofal £60 miliwn i annog mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Dyna pam y bydd gennym gyllidebau cyfun yn gweithredu...
Mark Drakeford: Oherwydd ein bod wedi gwneud yn union hynny, yng Nghymru, rydym wedi cael y trefniadau cyllid arloesol rwyf wedi’u harchwilio eisoes. Dyna pam fod gennym Cyllid Cymru yma yn darparu ffynhonnell o gyllid i fusnesau yng Nghymru na fuasai wedi bod ar gael iddynt fel arall yn bendant. Dyna pam, yn wir, fod gennym ddiddordeb mewn archwilio syniadau eraill o fewn ein cymhwysedd a’n gallu...
Mark Drakeford: Wel, Ddirprwy Lywydd, nod y Llywodraeth hon fydd manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfalaf ychwanegol a ddaw i ni o ganlyniad i ddatganiad yr hydref. Ond ni fydd £400 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd yn diwallu anghenion Cymru. Nid yw hyd yn oed yn dechrau adfer y toriad o un rhan o dair a welsom yn ein rhaglen gyfalaf ers y flwyddyn 2010. Dyna pam, fel Llywodraeth, ein bod wedi mynd ar...
Mark Drakeford: Cytunaf yn llwyr â’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Fel y dywedais, ni lwyddais i glywed datganiad y Canghellor yn llawn, ond gwelais y rhagolygon twf anemig a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer y pum mlynedd nesaf—buaswn yn meddwl eu bod yn rhagolygon twf brawychus iawn i unrhyw un sy’n gyfrifol am economi’r DU. Nid yw’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn...