Canlyniadau 661–680 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws (COVID-19) (22 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am y datganiad a chroesawu'n fawr y ffaith bod y trafodaethau pedair gwlad wedi dechrau, ond hoffwn ofyn iddo a yw'n siŵr ac yn hyderus y bydd yna gyfarfodydd rheolaidd a dibynadwy yn digwydd nawr, ac nid unwaith yn unig? Ac a gaf i ddiolch iddo hefyd am yr ymgysylltu hynod ddwys a gafodd, nid yn unig ag Aelodau'r Senedd, ond ag arweinwyr yr awdurdodau lleol...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (22 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Tybed a allai'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog amlinellu'r canlyniadau cyfreithiol a chyfansoddiadol pe bai'r Siambr hon yn peidio â rhoi ei chydsyniad i'r Bil hwn gael ei ruthro ymlaen gan Lywodraeth y DU. Ac, a allai hefyd egluro pam y dylai hyn fod o bwys mawr i'r busnesau, y ffermwyr, y cynhyrchwyr bwyd, y myfyrwyr a'r etholwyr mewn etholaeth fel fy un i yn Aberogwr?

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well' (16 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Mae'n bleser gennyf ddilyn y siaradwr diwethaf a hefyd fy Nghadeirydd ar y pwyllgor, John Griffiths. Rwy'n codi'n syml iawn i gefnogi'r holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â'r adroddiad a gyflwynwyd gennym a'r argymhellion, oherwydd credaf fod yr adroddiad yn gytbwys iawn mewn gwirionedd. Nid yw'n rhyfygus nac yn ideolegol nac yn ffocysu'n ormodol ar bwynt terfyn penodol....

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyfyngiadau coronafeirws lleol ym Mwdeistref Caerffili a Rhondda Cynon Taf (16 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ymuno â'r Gweinidog ac eraill sydd wedi canmol gwaith swyddogion rheng flaen ar lawr gwlad mewn gwahanol adrannau yn Rhondda Cynon Taf, dan arweiniad Andrew Morgan, ac asiantaethau eraill hefyd? Maent wedi gwneud gwaith rhagorol nid yn unig yn yr oriau a'r dyddiau diwethaf, ond dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf hefyd mewn gwirionedd. Hefyd, ei...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Sector Bwyd a Ffermio (16 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Weinidog. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl eich bod yn gweithio bob awr o'r dydd i sicrhau ein bod yn cael, a'n bod yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau, cytundeb masnach da er budd Cymru yn ogystal ag er budd gweddill y DU, ond yn ystod ymweliad â fferm yng nghanolbarth Cymru yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod un o Weinidogion Llywodraeth y DU, Mr Jayawardena, wedi...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Sector Bwyd a Ffermio (16 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: 9. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i'r sector bwyd a ffermio yng Nghymru pe na bai Llywodraeth y DU yn gallu sicrhau cytundeb masnach yr UE? OQ55483

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Diogelu'r Gaeaf (15 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i droi'n syth at ap COVID-19 y GIG? A gaf i ofyn yn gyntaf oll: a yw'n debyg i'r system sy'n cael ei defnyddio yn yr Alban, lle mae'r codau QR, er enghraifft, ar bob bwrdd a phob cownter a phob bar ym mhob bwyty? Mae'n hawdd iawn, yn gyfleus iawn i'w ddefnyddio, a rhaid imi ddweud bod pawb a welais pan oeddwn yno'n ddiweddar yn ei ddefnyddio. Pa gyfran...

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Caethwasiaeth Fodern a Masnachu mewn Pobl (15 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Yn dilyn y cwestiwn blaenorol, rydym ni'n gweld data a gyhoeddwyd ym mis Mehefin sy'n dangos, am y tro cyntaf ers 2016, Gweinidog, bod yr adroddiadau o gaethwasiaeth fodern dybiedig yn y DU wedi gostwng gan 14 y cant, ac mae hyn yn codi'r pryder mai'r ffaith mewn gwirionedd yw bod dioddefwyr yn cael eu gwthio ymhellach allan o'r golwg ac oddi wrth gofyn am gymorth. Felly, a gaf i ofyn i'n...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (15 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch y goblygiadau i Gymru o'r trafodaethau ynghylch ymadael â'r Undeb Ewropeaidd?

16. Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau Gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-22 yn sgil COVID-19 (15 Gor 2020)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd dros dro, a hoffwn i siarad am y llwybr troed gwylaidd, oherwydd yr hyn y mae pobl wedi'i ddarganfod yn ystod y coronafeirws, er ei holl heriau, yw'r llawenydd o gerdded ar eu llwybrau cerdded lleol mewn gwirionedd. Mae wedi helpu yn wirioneddol gyda materion yn ymwneud ag iechyd meddwl hefyd a lles meddyliol, a bydd yr un peth yn wir yn y dyfodol. Ond, oherwydd y blynyddoedd...

4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (15 Gor 2020)

Huw Irranca-Davies: Yn wir, a, Gweinidog, dim ond yr wythnos hon mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi nodi, lai na chwe mis o'r dyddiad y byddwn yn ymadael â'r UE, nad oes gennym ni fanylion o hyd am gronfa ffyniant gyffredin y DU. Nid dim ond Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban sy'n galw am eglurder yn ogystal â cheisio ymgysylltu mewn modd adeiladol ar hyn; mewn gwirionedd, awdurdodau lleol yn...

3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tagfeydd ar Ffyrdd a Rheilffyrdd (15 Gor 2020)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n diolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna ac am y gefnogaeth a'r diddordeb parhaus o du Llywodraeth Cymru i'r prosiect hwn. Fe fydd ef yn falch o wybod bod y cyfarfodydd, sy'n cael eu cadeirio gan Chris Elmore AS a minnau, yn dwyn ynghyd Network Rail, Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, diddordeb Llywodraeth Cymru, ond y cyngor tref lleol hefyd, sydd wedi bod yn...

3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tagfeydd ar Ffyrdd a Rheilffyrdd (15 Gor 2020)

Huw Irranca-Davies: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i liniaru tagfeydd ar ffyrdd a rheilffyrdd ym Mhencoed? OQ55440

4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (15 Gor 2020)

Huw Irranca-Davies: 5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda Gweinidogion y DU ynghylch cronfa ffyniant gyffredin y DU? OQ55441

10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: COVID-19 a Thrafnidiaeth ( 8 Gor 2020)

Huw Irranca-Davies: Rwyf am droi fy sylw ar unwaith at drafnidiaeth bws. Wrth ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon, hoffwn yn arbennig ddiolch i yrwyr bws yn gyntaf am eu hymdrechion i gadw trafnidiaeth i fynd, yn enwedig ar gyfer gweithwyr allweddol, drwy gydol yr argyfwng hwn, y pandemig a gawsom. Mewn gwirionedd, y gyrwyr bws sydd wedi bod yn weithwyr allweddol drwy gydol yr argyfwng hwn, ac maent...

5. Cwestiynau Amserol: Ineos Automotive ( 8 Gor 2020)

Huw Irranca-Davies: Mae'n rhaid i mi ddweud, yn lleol, fod pobl yn siomedig tu hwnt o glywed y penderfyniad munud olaf hwn, pan oedd y gwaith adeiladu a datblygu'n digwydd ar y safle, ac rwy'n ategu'r alwad gan eraill yma arnoch chi, Weinidog, a'r Prif Weinidog i apelio'n uniongyrchol ar Brif Weinidog y DU, ar Boris Johnson, i ofyn i'r prif weithredwr a'r cwmni hwn, hyd yn oed ar y funud olaf hon, i ailfeddwl....

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ysbyty Cymunedol Maesteg ( 8 Gor 2020)

Huw Irranca-Davies: Weinidog, diolch am eich ateb, ac rydych yn llygad eich lle—penderfyniad i'r bwrdd ydyw. Ond rwyf am ofyn i chi a fyddech yn croesawu'r pwyslais newydd y mae'r bwrdd iechyd wedi'i roi, yn anad dim yng ngoleuni penderfyniad Ysbyty Brenhinol Morgannwg, penderfyniad sydd i’w groesawu’n fawr, ar fuddsoddi’n helaeth hefyd mewn gofal sylfaenol a chymunedol er mwyn diogelu ein gwasanaethau...

3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Addysg Cyfrwng Cymraeg ( 8 Gor 2020)

Huw Irranca-Davies: Weinidog, rhaid inni sicrhau bod ein targedau addysg iaith Gymraeg uchelgeisiol ym Merthyr Tudful, ac ar draws Cymru, yn cael eu cyflawni, ac mae'n bwysig bod buddion addysg yn Gymraeg yn cael eu rhoi i'n holl blant ym mhob cymuned. A allaf ofyn, felly, a fydd y Gweinidog yn rhoi cefnogaeth bellach i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, gan fod datblygiad tir pwysig wedi cwympo drwodd gan effeithio'n...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ysbyty Cymunedol Maesteg ( 8 Gor 2020)

Huw Irranca-Davies: 9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch datblygu Ysbyty Cymunedol Maesteg yn y dyfodol yn dilyn yr adroddiad i'r bwrdd iechyd ynghylch gofal brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg? OQ55400

10. Dadl y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar effeithiau COVID-19 ar Economi, Seilwaith a Sgiliau Cymru ( 1 Gor 2020)

Huw Irranca-Davies: Diolch i'r pwyllgor am eu hadroddiadau, gan eu bod wedi darparu darlun defnyddiol o'r ymateb economaidd i argyfwng COVID gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a hefyd o sut y mae partneriaid, fel llywodraeth leol a Busnes Cymru, wedi camu i'r adwy yn wirioneddol i helpu busnesau a chyflogwyr a gweithwyr yn ystod y cyfnod anodd a digynsail hwn. Dylid nodi, wrth gwrs, fod ein Llywodraeth yng...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.