Alun Davies: Hoffwn gyfrannu'n fyr at y ddadl hon. Fel eraill, rwy'n croesawu'n fawr y cynnig y mae'r Llywodraeth a'r gwrthbleidiau wedi'i roi ger ein bron y prynhawn yma, ac rwy'n falch iawn o gymeradwyo a chefnogi hynny. Credaf y dylem ni hefyd groesawu gwaith y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Nawr, rwy'n derbyn bod gennyf rywfaint o ddiddordeb yn y mater hwn, ond mae'n un o offerynnau...
Alun Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysiau ym Mlaenau Gwent?
Alun Davies: Diolch yn fawr. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn cytuno bod hon yn siambr ddadlau hardd ac odidog iawn, ac yn gartref cwbl briodol i'n Senedd genedlaethol ac yn ffocws i'n trafodaethau cenedlaethol. Fodd bynnag, ers iddi gael ei chynllunio a'i hadeiladu yn 2006, rydym wedi gweld camau mawr ymlaen yn y defnydd o dechnoleg a'n dulliau o gadw mewn cysylltiad â'n swyddfeydd a...
Alun Davies: Un o'r ffyrdd dŷn ni'n mynd i hyrwyddo'r iaith Gymraeg, wrth gwrs, yw drwy addysg, a sicrhau bod pobl yn gallu dysgu'r Gymraeg a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o'r pethau dwi wedi clywed yn ystod yr wythnosau diwethaf, a dwi wedi gweld hyn yn fy etholaeth fy hun, yw dyw cynghorau lleol ddim yn fodlon talu am drafnidiaeth ar gyfer y plant sydd eisiau mynychu ysgolion Cymraeg a'u galluogi...
Alun Davies: Diolch i'r Gweinidog. Mewn ateb cynharach i'r Aelod dros Aberconwy, fe ddywedoch eich bod am fuddsoddi mewn arferion gorau mewn perthynas â'r gwaith o reoli portffolio asedau Llywodraeth Cymru, a'ch bod hefyd yn annog rhannu profiad a gwybodaeth. A gaf fi ofyn i chi fod ychydig yn fwy rhagweithiol ac uchelgeisiol na hynny, Weinidog? Ymddengys i mi fod gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â'r...
Alun Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth eiddo ac asedau Llywodraeth Cymru? OAQ54111
Alun Davies: 1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y defnydd o dechnoleg yn y Siambr? OAQ54114
Alun Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i wella proffil byd-eang Cymru?
Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y mater hwnnw?
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar ichi am eich geiriau ynghylch hynny. Roedd fy mhwynt yn un pendant—y dylem fod yn ceisio datganoli'r materion hyn, nid dim ond galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar y materion hyn. Os ydym o ddifrif ynghylch cael trafnidiaeth gyhoeddus integredig, dim ond Llywodraeth Cymru sydd mewn sefyllfa i allu gwneud penderfyniadau, ar seilwaith y rheilffyrdd ac ar feysydd eraill o...
Alun Davies: Rwy'n gobeithio ac rwy'n credu bod y prynhawn yma yn nodi dadl ar yr M4 ble buom ni'n trafod atebion iddi mewn gwirionedd ac nid dim ond yn ailadrodd dadleuon ynghylch a fyddem yn cefnogi un ai'r llwybr du ynteu'r llwybr glas. Os meddyliaf yn ôl i'r dadleuon yr wyf wedi cymryd rhan ynddynt ac wedi gwrando arnynt yn y lle hwn dros y degawd diwethaf, yn y bôn buont yn ddadleuon, nid ar y...
Alun Davies: Ar fater o drefn—
Alun Davies: Gweinidog, deallaf y byddwch yn gwneud datganiad ar 16 Gorffennaf ar y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yn y dyfodol. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro, neu a fyddech yn gallu cynnal datganiad arall i edrych ar rai o'r materion y byddwn yn eu hwynebu o ran cylch y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Treuliais i ac aelodau'r Pwyllgor Cyllid beth amser yn yr Alban bythefnos yn ôl,...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon, oherwydd rwy'n gobeithio bod hanes yn fwy i ni na dim ond rhestr o ddyddiadau a dealltwriaeth o'r bonedd a'r uchelwyr. I mi, mae hanes yn llawer mwy na hynny. Mae'n cynnwys hanes ein pobl, hanes ein hiaith, ein diwylliant, ein daearyddiaeth, ein heconomi. Ni allwn gael hanes economaidd heb Robert Owen a'r effaith y mae'n dal i'w chael...
Alun Davies: Prif Weinidog, croesawyd y cyhoeddiad o raglen fuddsoddi gwerth £100 miliwn yng Nglynebwy, ym Mlaenau Gwent, yn nyfodol economi Blaenau Gwent, gan bobl o fewn y fwrdeistref ac ar draws Blaenau'r Cymoedd. Mae'n dangos ymrwymiad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru i economi Glynebwy a Blaenau Gwent, ac mae hefyd yn dangos bod ffydd gwirioneddol ym Mlaenau'r Cymoedd fel man lle y gallwn gyflawni...
Alun Davies: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen Cymoedd Technoleg? OAQ54047
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar ichi, Lywydd. Weinidog, fe fyddwch chi, fel finnau, wedi gweld adroddiadau rhyfeddol braidd yn y wasg y bore yma na ddarparwyd cymorth diplomyddol ar gyfer y Prif Weinidog yn ystod ei ymweliad â Brwsel. Nawr, fel chi a fi—rydym ein dau wedi mwynhau cymorth gwasanaeth diplomyddol y Deyrnas Unedig, ac rwy'n cofio trafod a negodi gyda David Lidington a William Hague ac eraill...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r buddsoddiad mwy nag erioed a welwn yn y gwasanaeth iechyd ar gyfer Blaenau Gwent, a de-ddwyrain Cymru i gyd. Fe fydd yn ymwybodol o'r buddsoddiad o £350 miliwn yn Ysbyty Prifysgol Grange, sy’n ysbyty newydd ac sy'n gwasanaethu Blaenau Gwent a rhannau eraill o dde-ddwyrain Cymru. Fe fydd yn gwybod hefyd, wrth...
Alun Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth â gwasanaethau allweddol ym Mlaenau Gwent? OAQ54016
Alun Davies: Mae'n rhaid imi ddweud, Llywydd, rwy'n meddwl ei bod yn rhyfeddol bod y Llywodraeth yn beio'r gwrthbleidiau os na allan nhw gyflawni eu busnes. Dyna'r ddadl fwyaf hurt yr wyf i wedi'i chlywed ar unrhyw adeg yn y lle hwn. Ac rwy'n dweud hyn wrth David Melding hefyd: fe wnaeth bwynt yn gynharach, yn ystod ymyriad yn gynharach, yn dweud y byddai'n cael ei gyfarwyddo gan Frwsel—dan gyfarwyddyd...