John Griffiths: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Credaf ei bod yn bwysig iawn, am resymau yr wyf yn credu y byddai pob Aelod yma yn eu cydnabod, Prif Weinidog, ein bod ni’n cefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lefel elitaidd a llawr gwlad yng Nghymru. Felly, hoffwn ddychwelyd yn fyr at lwyddiant Clwb Pêl-droed Casnewydd, gan fy mod i’n credu ei fod yn bwysig iawn ar y ddau...
John Griffiths: 8. Pa bolisi y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn i annog a chefnogi llwyddiant ym maes chwaraeon yng Nghymru? OAQ(5)0596(FM)
John Griffiths: Pa gamau pellach y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella perfformiad addysgol mewn ysgolion sy'n gwasanaethu cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru?
John Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor er mwyn helpu i lywio ei waith, gan gynnwys y rhai a roddodd o’u hamser i fynd i’n trafodaethau grŵp ffocws. Fe achosodd Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd yn San Steffan yn...
John Griffiths: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo teithio llesol yn ne-ddwyrain Cymru?
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cynllun Dechrau’n Deg yn gwneud cyfraniad sylweddol iawn at fynd i’r afael â phroblemau ymhlith rhai o’n plant ieuengaf ac yn darparu manteision sylweddol yn fy etholaeth, ond mae rhai teuluoedd y tu allan i gyrraedd y cynllun oherwydd natur cod post y broses o gael mynediad at y ddarpariaeth honno. Felly, a allwch ddweud unrhyw beth heddiw wrth yr...
John Griffiths: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ehangu’r mynediad hwnnw, ac rwy’n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod yn hen bryd. Mae’n bwysig iawn fod mwy o bobl yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet, yn mwynhau’r awyr agored yr ydym mor ffodus i’w gael. Mae yna fanteision amlwg o ran iechyd a gweithgareddau, yn ogystal â’r ffaith y bydd pobl yn gwerthfawrogi...
John Griffiths: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at gefn gwlad Cymru? OAQ(5)0113(ERA)
John Griffiths: Hoffwn—nid am y tro cyntaf—godi mater yr ysgolion bro, yr wyf yn dal i gredu eu bod yn bwysig iawn i berfformiad ein system addysg yng Nghymru. Rwy'n credu mai un mater y mae Estyn wedi’i godi yn ei adroddiad, ac mae’n ei godi’n gyson, yw amrywioldeb yn y system addysg yng Nghymru. Mae'r amrywioldeb hwnnw yn berthnasol i ysgolion bro. Mae rhai ysgolion yn dda iawn am ymgysylltu...
John Griffiths: Brif Weinidog, mae gan Gasnewydd botensial economaidd mawr, gyda'i chryfderau trafnidiaeth, daearyddol a diwydiannol. Ar yr M4, prif reilffyrdd a rhai’r arfordir, rhan o’r brifddinas-ranbarth, yn agos i Fryste, mae'n ganolbwynt i’w heconomi ranbarthol ehangach. Felly, Brif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi y bydd ysgogi datblygiad economaidd yng Nghasnewydd yn ffactor pwysig os yw...
John Griffiths: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddatblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0493(FM)
John Griffiths: Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran datblygu agenda iechyd ataliol yng Nghymru?
John Griffiths: Diolch i chi am hynna. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Undeb Ewropeaidd yn rym economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol mawr yn y byd, ac mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn fygythiad mawr i statws Cymru a'r DU yn y byd. Felly, a allech chi fy sicrhau, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda’r Undeb Ewropeaidd ac...
John Griffiths: 5. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau cysylltiadau rhyngwladol Cymru? OAQ(5)0469(FM)
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n meddwl ei bod yn iawn heddiw i ni gydnabod ymrwymiad y gweithlu, yr undebau llafur, rheolwyr lleol a Llywodraeth Cymru i’r diwydiant dur, fel y mae Aelodau eraill wedi dweud. I mi, wrth gwrs, mae Llanwern yn flaenoriaeth go iawn ac yn bryder mawr, ac fel gyda gweithfeydd dur eraill, mae’r gweithlu yn Llanwern wedi dangos ymrwymiad mawr dros y blynyddoedd,...
John Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, gan fy mod yn meddwl bod nifer y cyfranwyr yn dyst i’r teimlad cryf yn y Cynulliad hwn fod angen i ni fynd ati i bob pwrpas i atal cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod, a chynyddu ac adnewyddu ein hymdrechion i wneud yn siŵr fod y ddeddfwriaeth hon yn effeithiol?...
John Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl gyntaf yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn ddeddfwriaeth bwysig sy’n nodi fframwaith statudol ar gyfer atal cam-drin a gwella cymorth i oroeswyr. Ond nid yw pasio deddfwriaeth yn...
John Griffiths: Gwnsler Cyffredinol, mae’n ymddangos i mi fod absenoldeb cynrychiolaeth o Gymru ar banel y Goruchaf Lys yn fwlch pwysig yn y fframwaith democrataidd yn y DU. A ydych yn cytuno y dylai’r corff sy’n dyfarnu ar faterion cyfansoddiadol sy’n effeithio ar boblogaeth y DU yn ei chyfanrwydd gynnwys cynrychiolwyr o’r DU gyfan?
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau bod costau rhedeg Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau o fewn yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd y llynedd?
John Griffiths: 7. Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud o ran penodi barnwr o Gymru i’r Goruchaf Lys? OAQ(5)0026(CG)