Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n ategu, wrth gwrs, yr hyn a ddywedodd yr Aelod am gydnabod y gwaith y mae ein staff ymroddedig iawn yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn ei wneud bob dydd, ar ben-blwydd y GIG eleni. Cytunaf ag ef nad yw'r amser y mae asesiadau'n ei gymryd o dan y gwasanaeth iechyd meddwl sylfaenol lleol ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dderbyniol. Bu rhai arwyddion o welliant yn ystod y...
Mark Drakeford: Llywydd, rydym yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol a pharhaus i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael £4.9 miliwn yn ychwanegol mewn cyllid iechyd meddwl rheolaidd, gan ddechrau eleni, i helpu i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl.
Mark Drakeford: Llywydd, gadewch imi sicrhau'r Aelod nad oes unrhyw ddeintydd yng Nghymru yn gweithio am ddim. Mae deintyddion, ar gyfartaledd, yn ennill rhywle rhwng £70,000 a £100,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar natur eu contract. Ac er fy mod yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Sarah Murphy am yr ymrwymiad y mae deintyddion yng Nghymru wedi'i ddangos yn ystod cyfnod y coronafeirws, cânt eu talu, a'u...
Mark Drakeford: Llywydd, mae rhan o gynsail y cwestiwn yna'n hurt, ac roedd yr Aelod yn gwybod hynny pan ddywedodd ef hynny hefyd. Roedd diwygio'r contract, fel yr ydym wedi esbonio droeon ar lawr y Senedd, yn fater dewisol. Mater i bractisau oedd penderfynu a ddylid optio i mewn iddo ai peidio. Mae'r mwyafrif helaeth o bractisau wedi gwneud hynny; mae lleiafrif bach wedi penderfynu gwneud trefniadau eraill....
Mark Drakeford: Llywydd, bydd 99 y cant o werth contract deintyddol y GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac 88 y cant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bellach yn cael ei cyflawni gan bractisau sydd wedi optio i mewn i'r rhaglen diwygio'r contract deintyddol. Mae gweithio o dan egwyddorion diwygio yn creu capasiti i gleifion newydd gael mynediad at ofal deintyddol y GIG.
Mark Drakeford: We have put in place the foundations for transformative rail, bus and active travel provision in north Wales. It is vital that UK Government discharges its responsibilities to invest in north Wales rail connectivity to help meet our net-zero targets.
Mark Drakeford: We know that our winter fuel support scheme offered vital support to families and we continue to look at how the scheme can reach more households when it runs again this autumn. The Minister for Social Justice will be making an announcement on the scheme before summer recess.
Mark Drakeford: Mae sicrhau bod canol ein trefi yn ffynnu yn flaenoriaeth yn ein rhaglen lywodraethu. Mae’n fater sydd wedi cael ei drafod gan y Cabinet. Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ymweld â Bangor i drafod cynlluniau i adfywio’r ddinas gyda rhanddeiliaid allweddol.
Mark Drakeford: Rhoddodd practis Saint-y-brid rybudd gryn amser cyn yr wythnos hon, ac mae'r practisau meddygon teulu cyfagos, sy'n derbyn cleifion a fyddai wedi derbyn gofal gan Saint-y-brid o'r blaen, i gyd wedi cadarnhau bod ganddyn nhw'r gallu a'r gweithlu i ddarparu gofal yn ddiogel i'r garfan o gleifion y cytunwyd arnyn nhw. Mae gennym 183 o feddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru eleni, nid 160,...
Mark Drakeford: Polisi Llywodraeth Cymru yw gwella mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol drwy ddefnyddio, i'r eithaf, ddoniau a galluoedd holl aelodau'r tîm clinigol. Fel hyn, gellir rhyddhau meddygon teulu er mwyn iddyn nhw allu ymateb i anghenion achosion mwy cymhleth.
Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn yna. Dwi'n cofio, nôl yn 2015 pan oedd y cynllun yn cael ei greu, gwneud y pwyntiau hynny ar yr amser yna. Mae cymunedau yn Lloegr a chymunedau yn yr Alban yn gallu defnyddio'r cynllun, y rural fuel duty relief, ond does neb yng Nghymru'n gallu defnyddio'r un system. So, gallaf i ddweud wrth yr Aelod, yfory, pan fydd y cyfle gennym ni i godi'r...
Mark Drakeford: Diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn. Mae Gweinidogion Cymru yn achub ar bob cyfle i godi'r materion hyn gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Cafodd mesurau costau byw, gan gynnwys tlodi tanwydd, eu trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yr wythnos diwethaf. Maen nhw ar yr agenda unwaith eto ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yfory.
Mark Drakeford: Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ni fyddwn yn hoffi cymryd rhan mewn cystadleuaeth gydag ef ar ymweld â thafarndai, ond ymwelais â thafarn ym Mhorth Tywyn yn ddiweddar, yr oedd dau berson ifanc wedi ei chymryd drosodd yn yr un modd, ac a oedd yn gwneud llwyddiant ysgubol ohoni. Felly, rwy'n llongyfarch ei etholwyr am y gwaith y maen nhw'n ei wneud a'r holl bobl ifanc hynny yng...
Mark Drakeford: Llywydd, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi fuddsoddiad pellach i gefnogi 1,200 o bobl ifanc i ddechrau eu busnesau eu hunain. Yn ogystal â chymorth ariannol uniongyrchol, mae'r cynllun hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad unigol, er enghraifft, drwy'r rhaglen Cyflawni, sydd ar gael i bobl ifanc yn sir Ddinbych.
Mark Drakeford: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i nodi'r ffeithiau mewn cysylltiad â'r contract deintyddol, oherwydd gwnaethom ailadrodd hyn yn sylweddol ar lawr y Senedd ddiwedd mis Mawrth, pan ddywedodd arweinydd yr wrthblaid wrthyf nad oedd yr un practis yn ardal Hywel Dda yn barod i gofrestru ar gyfer y contract newydd ac y byddai gwasanaethau deintyddol yn methu o fewn ychydig wythnosau. Yn wir, ym mwrdd...
Mark Drakeford: Mae buddsoddiad ychwanegol, diwygio contractau, codi cyfyngiadau COVID yn raddol ac agor academi ddeintyddol gogledd Cymru ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd i wella mynediad i ddeintyddiaeth y GIG yn rhanbarth yr Aelod.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae gan bob bwrdd iechyd—ar wahân i Gaerdydd, a fydd yn dechrau'n ddiweddarach eleni—ganolfannau diagnosis cyflym erbyn hyn. Felly, nid wyf yn hollol siŵr pa broblem y mae'r Aelod yn ei gweld o ran cyflymder pan fyddan nhw eisoes yn digwydd mewn chwech o saith bwrdd iechyd yng Nghymru. Mae tri ohonyn nhw yn gweithredu yn y gogledd, lle bydd gan Rhun ap Iorwerth ddiddordeb...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae'n bwysig i roi cyfle i'r rhwydwaith canser Cymru, sy'n gwneud y gwaith ar y cynllun, gael yr amser maen nhw wedi gofyn i'w gael, a dŷn ni ddim yn siarad am fwy nag wythnosau cyn bydd cychwyn mis Medi yn dod, so dwi'n meddwl ein bod ni'n trio gwneud pethau ar frys, ac mae hynny yn bwysig. Dwi'n cytuno bod effaith y pandemig ar wasanaethau canser wedi bod yn un trwm, ond mae...
Mark Drakeford: Llywydd, mae'r gwaith o lunio'r cynllun gweithredu yn cael ei wneud gyda rhwydwaith canser Cymru. Bydd y gwaith hwnnw yn parhau drwy gydol yr haf. Mae'r Gweinidog yn disgwyl cael copi ddrafft o'r cynllun ym mis Medi.
Mark Drakeford: Diolch i Peter Fox am y pwyntiau yna, Llywydd. Mae'n iawn iddo ddweud mai Deddf i Loegr yn unig yw'r Ddeddf a basiwyd gan Senedd y DU. Yr hyn sydd ei angen yw i awdurdodau cyhoeddus ystyried canllawiau—canllawiau nad ydyn nhw wedi'u cyhoeddi hyd yma. Ond wrth gwrs—rwy'n sicr yn rhoi'r ymrwymiad hwn iddo—pan gyhoeddir y canllawiau, byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei...