Caroline Jones: 1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y derbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig â chyffuriau? OAQ51272
Caroline Jones: Yn gyntaf oll, hoffwn longyfarch y Gweinidog ar ei swydd newydd a chydnabod ymrwymiad rhagorol Carl Sargeant i’r rôl. Hoffwn ddiolch i'r comisiynydd plant a'i thîm am eu gwaith caled parhaus i sefyll dros hawliau plant a phobl ifanc Cymru. Fel y mae’r comisiynydd wedi’i nodi, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad 'Y Gofal Iawn' ac mae Llywodraeth Cymru wedi...
Caroline Jones: Prif Weinidog, dylai ardaloedd menter fod yn ffordd wych o adfywio rhai o ranbarthau mwyaf difreintiedig Cymru, ond mae'r realiti braidd yn wahanol. Mae rhai o'r ardaloedd yn gweithio'n dda, gan ddenu buddsoddiad preifat ac adfywio eu heconomi leol. Mae eraill yn gweithredu oherwydd cyllid y Llywodraeth yn unig, ac yn cynnal llond llaw o swyddi. Prif Weinidog, pe byddai'r ardaloedd menter yn...
Caroline Jones: Ydw, diolch, Dirprwy Lywydd. Ni ddylid llyffetheirio ein diwydiant twristiaeth gan dreth dwristiaeth, heb sôn am dreth sy’n cynyddu’n barhaus o fewn amgylchedd treth uchel y DU a Chymru. Felly, rwy’n gobeithio bod yr ystyriaethau a gyflwynais heddiw, yn annibynnol ar fodelau unrhyw economegydd Llywodraeth Cymru, yn dangos nad yw diwydiant twristiaeth Cymru angen y dreth, nid yw...
Caroline Jones: Iawn. Yn ôl adroddiad yn 2014 gan Geoff Ranson o’r grŵp ymgyrchu Cut Tourism VAT—mae’n dweud, yn benodol: Y DU yw’r uchaf o gymharu â’r gwledydd eraill ac mae bron i 3% yn uwch na’r Almaen a thros 5.5% o gymharu ag Iwerddon sef yr isaf o’r gwledydd cymharol, a gafodd wared ar dreth maes awyr i dwristiaid ar 1 Ebrill 2014. Ystyriwch yr adroddiad hwn, ynghyd â datganiad a...
Caroline Jones: Rwy’n synnu ein bod yn cael y ddadl hon heddiw oherwydd nid oedd unrhyw sôn am dreth dwristiaeth ym maniffesto Llafur Cymru 2016—maniffesto y cawsant eu hethol arni fel y blaid fwyaf i’r Cynulliad hwn. Pan gafodd Llywodraeth Lafur ei hethol hefyd ar lefel y DU, cafwyd addewid i beidio â chodi rhai trethi, ond cafodd yr addewid hwn ei dorri a chyflwynwyd llu o drethi llechwraidd eraill...
Caroline Jones: A gaf fi ofyn i rywun egluro sefyllfa Mark Reckless o fewn y Blaid Geidwadol? Diolch.
Caroline Jones: Mae’r cyhoeddiad a wnaed ddydd Iau diwethaf gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â threfniadau indemniad ar gyfer meddygon teulu yn Lloegr yn creu her bosibl i Gymru. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn bwriadu cyflwyno cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth ar gyfer ymarfer meddygol yn Lloegr, ac mae hefyd wedi datgan bod y trefniadau indemniad yn fater...
Caroline Jones: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Caroline Jones: Diolch. A fyddech yn cytuno â mi ei fod yn ymwneud â Llywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd, ac felly, pan fyddwn yn gadael yr UE a bod modd gostwng y trothwy TAW a’r ardrethi i annog pobl i fuddsoddi yn ein gwlad, fod angen i Lywodraethau weithio gyda’i gilydd ar fater ardrethi busnes a TAW? Oherwydd pan dynnodd Gordon Brown 5 y cant i ffwrdd, a’i ostwng o 20 y cant i 15 y cant,...
Caroline Jones: Diolch, Gadeirydd. Rwy’n falch o gynnig y cynnig ger eich bron heddiw. Cyn i mi ddechrau mewn gwleidyddiaeth, roeddwn yn berchennog busnes bach, yn gweithredu busnesau ar y stryd fawr ym Mhen-y-bont yr Ogwr a Phorthcawl, a chefais brofiad personol o’r heriau sy’n wynebu busnesau ar ein strydoedd mawr. Mae’r cynnig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelodau a minnau yn ceisio lliniaru rhai...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Weinidog. Mae'r ymgyrch 1000 o Fywydau wedi dangos yr hyn sy'n bosibl pan fyddwn ni'n unedig wrth ymgyrraedd at un nod—nod o wella profiad pob claf o'r gofal y mae’n ei dderbyn. Mae’n wych gweld brwdfrydedd ac ymrwymiad y timau gofal iechyd. Gan gydweithio mewn ffordd sydd â thystiolaeth yn sail iddi, maen nhw wedi parhau i sicrhau canlyniadau...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Ni fyddai unrhyw un yn y Siambr yn anghytuno ag egwyddorion cyffredinol eich cynllun chi, sy'n cynnwys gwella profiad y claf trwy gadw costau gofal ar lefel resymol. Ac yn hyn o beth, mae'r gwelliant 1000 o Fywydau i helpu Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i sefydlu gwasanaethau cynaliadwy a sicrhau profiad gwell i gleifion mewn...
Caroline Jones: Ydw. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru—
Caroline Jones: Fe ildiais i chi.
Caroline Jones: Fe wnaf mewn munud—yn anghynaliadwy ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i gynllunio i wneud mwy o ddefnydd o staff banc. Gyda’r pwyntiau hyn mewn golwg, bydd UKIP yn cefnogi’r cynnig yn ogystal â gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Byddwn yn ymatal ar welliant Llywodraeth Cymru gan ei fod yn cydnabod yr effaith y mae prinder staff yn ei chael ar ein staff ymroddedig yn y GIG, ond mae’n...
Caroline Jones: Roedd hi eisiau ymyrryd.
Caroline Jones: Na, na, roedd hi eisiau ymyrryd.
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon a’r cyfle i siarad ynddi. Rwy’n cytuno â’r teimlad sy’n sail i’r cynnig hwn. Mae prinder staff o fewn y GIG yn niweidiol i ofal cleifion. Nid oes diwrnod yn mynd heibio pan nad ydym yn wynebu erthyglau newyddion sy’n amlinellu effaith prinder staff ar y GIG yng Nghymru. Rydym wedi gweld cynnydd o 400 y cant yn nifer y...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, er ei bod yn siomedig fod Jaguar Land Rover wedi penderfynu cynhyrchu eu hinjans yn fewnol, nid oedd unrhyw sicrwydd y byddai Ford wedi ennill y contract pan oedd i fod i gael ei adnewyddu ym mis Rhagfyr 2020. Felly, mae gennym ddwy flynedd a hanner i fod yn gadarnhaol a dod o hyd i gontractau ychwanegol ar gyfer safle Pen-y-bont ar Ogwr. Yr hyn nad oes ei angen yn awr...