Vikki Howells: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r gefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd â dementia?
Vikki Howells: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon?
Vikki Howells: Prif Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi’n ddiweddar am annigonolrwydd cysylltiadau cludiant cyhoeddus rhwng Cwm Cynon a Chaerdydd ar y Sul, gydag, er enghraifft, gwasanaethau anaml yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, yn y brifddinas a dim ond ymhellach i lawr Cwm Cynon ei hun. O dan metro de Cymru, neu unrhyw fasnachfraint reilffyrdd...
Vikki Howells: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0675(FM)
Vikki Howells: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall athrawon gefnogi addysg disgyblion yn effeithiol yn ystod y cyfnod pontio rhwng addysg gynradd ac uwchradd?
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Cromosom Anghyffredin, ac mae'n ymddangos i mi ei bod yn adeg briodol i dalu teyrnged i waith fy etholwraig Amy Walker. Ganed ei mab hi gyda chyflwr genynnol anghyffredin iawn, ac mae Amy yn ymgyrchu dros well dealltwriaeth o'r brwydrau y mae plant a theuluoedd fel ei theulu hi yn eu hwynebu’n feunyddiol. A gawn ni...
Vikki Howells: Diolch, Brif Weinidog. Gwn eich bod wedi ysgrifennu yn y gorffennol at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd ar y pryd, yn galw am adolygiad o gynllun pensiwn y glowyr. Cyfarfûm yn ddiweddar ag ymgyrchwyr o gymdeithas cynllun pensiwn glowyr y DU, a ddywedodd wrthyf sut y mae'r ffordd y mae’r cynllun yn gweithio ar hyn o bryd yn effeithio’n wael ar wragedd gweddwon glowyr,...
Vikki Howells: 9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod hŷn yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0652(FM)
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn ein bod eisoes wedi trafod y mater hwn yma heddiw—roeddwn yn awyddus i dynnu sylw at lwyddiannau cyngor Rhondda Cynon Taf, lle mae 43 y cant o’r cynghorwyr yn fenywod, fel y mae pedair o’r naw aelod o’r cabinet, ac mewn gwirionedd, yn fy etholaeth i, etholwyd mwy o gynghorwyr benywaidd nag o ddynion. Yn amlwg, fodd bynnag, o’r sylwadau a glywsom...
Vikki Howells: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymdrechion i wella lefelau amrywiaeth yn llywodraeth leol Cymru yng ngoleuni etholiadau'r cynghorau lleol? OAQ(5)0143(FLG)
Vikki Howells: Rwy’n croesawu'r cyfle i siarad o blaid egwyddorion cyffredinol Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Llywodraeth Cymru. Mae'n dda bod Llywodraeth Cymru yn cipio’r cyfle hwn i sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol yr ydym yn ymdrin â'r mater hwn oddi mewn iddo yn addas i'w ddiben. Fel y nodwyd ym memorandwm esboniadol y Bil, mae'r fframwaith presennol yr ydym...
Vikki Howells: Mae 28 Mai yn nodi seithfed Diwrnod Newyn y Byd. Caiff ei gynnal gan y Prosiect Newyn, a’r bwriad yw codi ymwybyddiaeth o’r bron i 800 miliwn o bobl ledled y byd heb ddigon o fwyd, ac i hyrwyddo atebion cynaliadwy i newyn a thlodi. Yn fyd-eang, mae newyn yn lladd mwy o bobl nag AIDS, malaria a thwbercwlosis gyda’i gilydd. Thema Diwrnod Newyn y Byd eleni yw achosion newyn cronig. Dywed y...
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, yn ddiweddar rwy’n ymdrin â nifer o achosion lle gwrthodwyd cais am fathodyn glas newydd gan bobl sydd wedi bod ag un ers sawl blwyddyn. Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda'r awdurdod lleol, ond rwyf wedi cael gwybod bod hyn yn digwydd oherwydd nad yw fy etholwyr yn bodloni'r meini prawf cymhwyso mwyach. Serch hynny, ym mhob achos, mae gan yr etholwyr dal sylw amrywiaeth o...
Vikki Howells: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. O’m profiad fy hun mewn ysgolion uwchradd, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw arweinyddiaeth wrth sicrhau bod ein hysgolion yn ffynnu, bod y staff yn teimlo eu bod yn ymgysylltu ac yn cael eu cefnogi, a bod disgyblion yn cyflawni’r llwyddiant yr ydym yn dymuno ei gael ganddynt. Mae gennyf dri chwestiwn byr am eich datganiad...
Vikki Howells: Prif Weinidog, roedd yn newyddion da bod yr Ysgrifennydd cyllid wedi datgan y bydd model buddsoddi cydfuddiannol gwerth £1 biliwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau seilwaith yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys seilwaith cymdeithasol, fel canolfan gofal canser Felindre, a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain hefyd, ond hefyd y cam terfynol o ddeuoli'r A465, sydd mor hanfodol i’m...
Vikki Howells: 5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith cyfalaf ledled Cymru? OAQ(5)0600(FM)
Vikki Howells: Er mwyn i ddisgyblion allu gwneud y defnydd gorau o dechnolegau digidol, mae’n rhaid i ni sicrhau bod athrawon yn cael eu hyfforddi’n briodol yn y maes hwn. Yn wir, yn ddiweddar, manteisiodd staff yn ysgol gynradd Cwmdâr yn fy etholaeth ar hyfforddiant di-dâl BT, Barefoot Computing, er mwyn gwneud hynny. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl staff mewn ysgolion cynradd yng...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o siarad heddiw o blaid Bil yr Undebau Llafur (Cymru) Llywodraeth Cymru. Rwy'n cymeradwyo’r ffordd brydlon y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon i amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr ag agwedd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru sydd wedi dangos yr arweinyddiaeth gref a sefydlog sydd ei...
Vikki Howells: Diolch. Bythefnos yn ôl roeddwn yn falch o siarad ochr yn ochr â'r Ysgrifennydd Iechyd yn nathliadau blwyddyn gyntaf Valley Steps, prosiect cymunedol sy'n ceisio gwella llesiant emosiynol trwy gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar a rheoli straen. Nawr, mae Valley Steps wedi helpu bron i 2,000 o bobl yn ystod eu blwyddyn gyntaf, ac mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ymddangos yn amser...
Vikki Howells: 5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd meddwl pobl yng Nghymru? OAQ(5)0579(FM)